Theatre in Wales

Theatre, dance and performance companies (professional)

  Theatr Bwcibo

Theatr Bwcibo

19 Maitland Place
Grangetown
Caerdydd
CF11 6TB

  current production | past productions
phone | ffôn 029 20398994 / mobile 07429 090265
e-mail address | e-bost heledd@theatrbwcibo.co.uk
web site | wefan www.theatrbwcibo.co.uk
administrator
gweinyddydd
Heledd Bianchi (Producer)
selected past productions
rhai cynhyrchiadau'r gorffenol
Do You Remember? – 2009

Written By Diana Bianchi
Produced and performed by Heledd Bianchi

Theatr Bwcibo presents an exciting new show to all audiences. This one woman show takes us on a sentimental journey back through the ages. Hearing songs from the 30's right through to the 50's, a woman named Florrie takes us back to her life during the second world war right up to the mid 50's. A story full of fun where you can also hear some good old classic songs from such stars as the Andrews Sisters, Vera Lynn, Judy Garland, The Chordettes and Doris Day. A chance to reminisce and enjoy the good old days. A show for all the family where you can also join in with the well known songs. This show has already been seen by audiences at Sheltered accommodations throughout South Wales this year and is available for promoters to book at a variety of different venues.

 (Synopsis by Heledd Bianchi and Roxanne Western)





'Dwynwen, Dylwythen Y Don A’r Corachod Ffyddlon Y Tir, Ffararararaldiri' 2012

‘Sgrifennwyd, Cynhyrchwyd a Pherfformwyd gan Heledd Bianchi
Dyma gynhyrchiad Theatr I Blant sy’n addas ar gyfer plant 6 i 8 oed

Dyma sioe gerdd a chan sy’n adrodd hanes dylwythen mor o’r enw Dwynwen, Dylwythen Y Don sy’n chwilio am ei chwaer bach, Dili Dwl a wnaeth grwydro o’u tylwyth, Yr Ogof Cregynnog, a eisteddwyd ar waelodion y mor mewn gwlad llond hud a lledrith; yng ngwlad Tylwythau Y Tonnau. Tra’n chwilio am eu chwaer bach Dili, dyma Dwynwen yn galw allan y gair hud “Ffararaldiri” ond ni atebir DIli. Mond yn y mor gall dylwythen y don glywed y gair hud yma felly roedd hyn yn arwydd eu bod wedi crwydro mor bell a’r tir! Trwy lwc a ffawd, gweler Dwynwen drywydd o dywod gloyw loyw yn ‘sgleinio’n llachar yn y pellter. Mae’n rhaid ei bod wedi disgyn o gwdyn Dili tra’n saethu ar eu dolffin Doti. Heb oedi, i ffwrdd a Dwynwen ar chefn eu dolffin, Dathyl i ddilyn y trywydd yr holl ffordd hyd at ynys melyn ffein. Dyma oedd ynys llond hwyl a sbri ble daw pawb yn llu i fwynhau ‘hufen ia a ‘sglodion, reidio carousel ac adeiladu cestyll o dywod. Gelwir yr ynys yn Ynys Y Barri. Roedd hyn yn ysblennydd i lygaid bach Dwynwen, er mond Corachod Ffyddlon Y Tir gall eu helpu hi nawr i chwilio am Dili am taw mond nhw sydd a’r ynni a’r pwer i gario y gair hud “Ffararaldiri” at glustie bach Dili am eu bod yn awr allan o’r mor ac ar y tir. Dyma ble gall y plant eu helpu.
Yn y sioe bydd digon o gyfle i’r plant ymuno mewn hwyl a chan trwy ddilyn gorchmynion Dwynwen.
Yn dilyn y perfformiad fe fydd yna weithdy ble ceir y plant gyfle i ehangu eu dychymyg ymhellach trwy dewis cymeriad o’u dewis i ddilyn y trywydd tywod gloyw loyw. Gyda chymorth Dwynwen, gallant deithio’r trywydd gan adrodd stori, can, dawns neu gan chwarae offeryn o’r gust hud er mwyn lliwio’u taith.

Gellir fwcio’r cynhyrchiad hon trwy’r cynllun ‘Noson Allan’ a rhedwyd gan Cyngor Y Celfyddydau, Cymru neu trwy gysylltu a Heledd Bianchi yn uniongyrchol ar heledd@theatrbwcibo.co.uk



Ifor Ap Meurig – Y Dyn Dewr 2012

‘Sgrifennwyd gan Diana Bianchi
Cynhyrchwyd a Perfformwyd gan Heledd Bianchi

Dyma gynhyrchiad Theatr Mewn Addysg Un Fenyw sy’n olrain hanes Ifor Meurig, Arglwydd Senghennydd yn herwgipio yr Iarll Normanaidd, William Y Concerwr a’u deulu o Gastell Caerdydd yn y 12fed Ganrif
Gelwir y Werin bobol Ifor Ap Meurig yn Ifor Bach am ei fod yn ddyn bach. Roedd Ifor yn casau’r Normaniaid oherwydd roedd y Normaniaid wedi dwyn ei dir gorau .Daeth Ifor yn enwog yng nghof gwerin Morgannwg am ei ymosodiad ar gastell Caerdydd yn y 12fed ganrif. Fe wnaeth e herwgipio’r Iarll Normanaidd, William Y Concerwr a’u deulu a’u carcharu nhw mewn ogof nes i’r Iarll gytuno i ddychwelwyd y tir yr oedd wedi ei ddwyn oddi wrth Ifor yn ol iddo. Bydd y Ddrama hon yn adrodd hanes y cyfnod trwy lygaid Nest, gwraig Ifor, Mabli, cogydd y Llys ac Ifor Bach.

CYNHELIR GWEITHDY AR OL Y PERFFORMIAD FYDD YN CYNNWYS TRAFODAETH GRWP AM YMWELIAD Y DISGYBLION A CHASTELL. BYDDWN YN TRAFOD Y CYMERIADAU YN Y DDRAMA A SUT YR OEDD Y WERIN BOBL A’R UCHELWYR YN BYW O DDYDD I DDYDD YN YSTOD Y CYFNOD HWNNW. YNA BYDD Y PLANTYN CAEL CYFLE I FYND ATI I AIL - GREU’R DDRAMA MEWN ARDDULL O’U DEWIS A’U DANGOS O FLAEN Y DOSBARTH.

Y mae’r cynhyrchiad hon wedi ymweld a Ysgol Gymraeg Pwll Coch ac yn edrych ‘mlaen at ymweld a rhagor o ysgolion, theatrau a chanolfannau yn Ne Cymru.

Gellir fwcio’r cynhyrchiad hon trwy’r cynllun ‘Noson Allan’ a rhedwyd gan Cyngor Y Celfyddydau, Cymru neu trwy gysylltu a Heledd Bianchi yn uniongyrchol ar heledd@theatrbwcibo.co.uk


Bei-Ling - Burlesque
2012

Cynhyrchwyd gan Heledd Bianchi
Cyfarwyddwyd gan Diana Bianchi

Dewch i fwynhau noson amrywiol fyrlymus yng nghwmni

Olwen Arianrod (Olwen Leovald)
Miss Oopsy-Daisy
Miss Cherry Box (Heledd Bianchi)
Heather Jones
Flamenco Zambra
Kathy Saxondale
Siân Hawthorn
a Emilie Joy

Gan ddilyn llwyddiant cynhyrchiad cyntaf Theatr Bwcibo o Bei-Ling Burlesque yn 2007, rydym yn dychwelyd i’r llwyfan â chynhyrchiad lliwgar newydd o’r sioe. Mae rhai o’r cast gwreiddiol yn dychwelyd ac rhai newydd.


Mae’r sioe yn barod wedi ymweld a Minsky’s Showbar yng Nghaerdydd yn gynharach yn y flwyddyn er mwyn dathlu Dydd Santes Dwynwen. Mae’r Cwmni yn awr yn edrych ‘mlaen at ymweld a theatrau a chanolfannau amryliw eraill yn eich hardal chi.

Mae llawer o bobl yn credu bod Burlesque yn ymwneud â menywod noeth yn cerdded ar draws y llwyfan i guriad rhywiol drymiau. Dyna sut yr oedd pan ddechreuodd y sioeau hyn ddirywio yn ystod dauddegau a thridegau'r ganrif ddiwethaf, ond yr oedd y sioeau’n hollol wahanol pan oedd yr adloniant ar ei anterth. Yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd sioe ‘Burlesque’ yn amrywiol iawn, yn defnyddio cerddoriaeth, dawns a chomedi oedd yn dychanu’r gymdeithas gyfoes. Defnyddiant hefyd berfformwyr amrywiol fel jyglwyr, dewinoedd, acrobats a taflwyr cyllyll. Roedd y cyfan yn cael ei drefnu a’i berfformio gan fenywod yn unig.

Heddiw mae adfywiad ‘Burlesque’ ar draws y byd. Gweler
yr adolygiad isod:

“at the Shim Sham Club in New Orleans advance ticket sales for the club’s nightly Burlesque shows have doubled.
Papur newydd USA TODAY. 2003.

Mae Bei-Ling Burlesque yn sioe ddwyieithog lliwgar ac amrywiol.

Mwynhewch

GALLWCH FWCIO’R SIOE TRWY GYSYLLTU A HELEDD AR 07429 090265 / heledd@theatrbwcibo.co.uk












Bei-Ling - Burlesque – 2007

’Sgrifennwyd a perfformwyd gan:-

Madam Teresa Tit-Wobble O’Tool - Olwen Leovald
Miss Lady Lollypop-(What the Butler Saw)
Miss Cherry Box - Heledd Bianchi
Grug Wedd Perlais Pinc – Heather Jones
Beca Baseera Magdalen – Mair Jones
Y Foneddiges Tylwythen Teifi – Diana Bianchi
Buddug Benboeth – Gwenno Dafydd



Cerddorion - Dafydd James a Lucy Rivers

Gwisg - Teleri Gray

Coriograffydd Symudiad – Caroline Lamb

Cyfarwyddwr - Diana Bianchi

Cynhyrchydd - Heledd Bianchi
DiHH


Mae llawer o bobl yn credu bod Burlesque yn ymwneud â menywod noeth yn cerdded ar draws y llwyfan i guriad rhywiol drymiau. Dyna sut yr oedd pan ddechreuodd y sioeau hyn ddirywio yn ystod dauddegau a thridegau'r ganrif ddiwethaf, ond yr oedd y sioeau’n hollol wahanol pan oedd yr adloniant ar ei anterth. Yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd sioe ‘Burlesque’ yn amrywiol iawn gyda sgetshis doniol a oedd yn dychanu’r gymdeithas gyfoes, canu, dawnsio (heb i neb dynnu dillad), jyglwyr, taflwyr cyllyll ac ati, ac roedd y cyfan yn cael ei drefnu a’i berfformio gan fenywod yn unig.

Heddiw mae adfywiad ‘Burlesque’ ar draws y byd. Gweler
yr adolygiad isod:

“at the Shim Sham Club in New Orleans advance ticket sales for the club’s nightly Burlesque shows have doubled.
Papur newydd USA TODAY.2003.

Gan ddilyn ysbryd yr hen sioeau ‘Burlesque’, bydd perfformiad Theatr Bwci Bo “Bei-ling-Burlesque” yn weledol a lliwgar, yn defnyddio artistiaid profiadol a dawnus, ac yn cynnwys canu, dawnsio, sgetshis doniol a dychanol.





Bei-Ling - Burlesque - 2007

Written and performed by:-

Madam Teresa Tit-Wobble O’Tool - Olwen Leovald
Miss Lady Lollypop-(What the Butler Saw )
Miss Cherry Box - Heledd Bianchi
Grug Wedd Perlais Pinc – Heather Jones
Beca Baseera Magdalen – Mair Jones
Y Foneddiges Tylwythen Teifi – Diana Bianchi
Buddug Benboeth – Gwenno Dafydd

Musicians - Dafydd James and Lucy Rivers

Costume - Teleri Gray

Movement Choreographer – Caroline Lamb

Director - Diana Bianchi

Producer - Heledd Bianchi



Most People think that Burlesque means female strippers walking a runway to a bump and grind beat. But that only fits the form in its declining years. At its best, burlesque was a rich source of music and comedy that kept audiences laughing during the 1840s onwards. In the 19th century, the term Burlesque was applied to a wide range of comic plays, including non-musicals. These works entertained the lower and middle classes by making fun of the social habits of the upper classes. These shows used comedy and music to challenge the established way of looking at things. There would also be other performers such as magicians, jugglers; acrobats, and knife throwers.

In the late 1860s Lydia Thompson’s British burlesque troupe became New York’s biggest theatrical sensation. In the Victorian Age when “proper women” went to great lengths to hide their form; scantily dressed women playing sexual aggressors in a production written by women drew the public out in droves.

As male managers took over the producing of Burlesque in the 1880s, feminine wit and satire was gradually replaced by a determination to reveal as much of the feminine form as local laws allowed. By the 1940s and 195Os Burlesque became associated with striptease, so when we hear the word Burlesque to-day we immediately think of female strippers and nothing else.

“Bei-Ling Burlesque”(a play on the word Bilingual) will bring an entertaining and colourful bilingual show in the spirit of Burlesque as it was in its heyday. There will be dancing, singing, and a poking of fun at a number of familiar institutions and organisations which exist in Wales.







LIVING THE PAST, 2006

Bwcibo produce interpretive theatre and story telling, suitable for schools, museums and organisations. They can also research and deliver projects which are of relevance to your community.

Written and produced by Diana Bianchi
Performed by Heledd Bianchi and Sian Phillips


•Learn about daily life in a medieval castle
•What spurned Mary Jones to walk barefoot 15 miles to buy a Bible.
•The role of the Ballad singer (as a news reporter and historian)
•Rural Traditions and Superstitions in 19th century Wales.
•The Physicians of Myddfai
•Garden Girls (the history of Cardiganshire women who travelled with the drovers to work in the gardens of London).

The Craft of the Storyteller

Welsh legends and folk tales rank amongst the best in European literature.
The art of storytelling has always been an integral part of Welsh culture and it is still very popular today with young and old alike


•Awaken your imagination, feel the excitement, and see the story come
to life before your very eyes.


BYW'R GORFFENNOL, 2006

’Sgrifennwyd a chynhyrchwyd gan Diana Bianchi
Perfformwyd gan Heledd Bianchi a Sian Phillips


Mae Bwcibo yn darparu prosiectau hanesyddol megis “theatr dehongli” ac adrodd chwedlau ar gyfer ysgolion, mudiadau ac amgueddfeydd. Gall y cwmni hefyd gynnig prosiectau hanesyddol sy’n berthnasol i’ch ardal chi.


•Dysgwch am sut roedd pobl yn byw o ddydd i ddydd mewn castell yn ystod yr Oesoedd Canol.
•Pa fath o gymdeithas oedd yn bodoli pan gerddodd Mari Jones yr holl ffordd i’r Bala i brynu Beibl
•Byd y Baledwr (ei rôl yn y gymdeithas fel newyddiadurwr a hanesydd))
•Traddodiadau ac Ofergoelion y Cymry yn ystod y ddeunawfed a bedwaredd ganrif ar bymtheg.
•Meddyginiaethau Meddygon Myddfai.
•Merched Y Gerddi. (Hanes merched a oedd yn teithio gyda’r porthmyn i weithio yng ngerddi Llundain.)



Crefft Y Cyfarwydd

Mae gan Gymru doreth o chwedlau gwerin. Bu crefft hynafol y Cyfarwydd yn boblogaidd ar hyd y canrifoedd ac felly y mae heddiw hefyd.

*Deffrowch eich dychymyg, teimlwch y wefr, a gwelwch y stori yn dod yn fyw o flaen eich llygaid.






Night Chronicles, 2005

A One Woman show written, produced and performed by Heledd Bianchi

“As we sleep the dream warrior and goddess, Hecate comes to us and uses her magical powers to awaken our souls and sharpen our senses. “
Night Chronicles, through Cabaret, elements of Greek Theatre and Theatre of The Absurd will take us into the realms of dreamtime where Hecate, the Goddess of dreams nets this “shared collective racial unconscious memories”. In Hecate’s kingdom there are no boundaries and all souls awake.
Karl Jung believed a dream content uses symbolic language. He proposed that a dream expresses collective racial unconscious memories and instincts shared by all people. These are basic ideas that are themselves symbols. These include the hero, monster, mother, father, mandala, sacrifice and the mask.

Jung also believed that dreams, when correctly interpreted could accurately predict the success or failure in the way that mankind succeeds or fails in life

Sigmund Freud believed that dreams worked on two levels. A straight-forward level showed events in dreams as remembered. However, in the latent level objects and actions dreams symbolize sexual and aggressive feelings and ideas that are repressed.

The Babylonians divided dreams into two categories. They believed good dreams were sent by the Gods and bad dreams were sent by demons.

The Egyptians believed that the Gods showed themselves in dreams.

Many North American Indian tribes believed that dreams revealed the hidden wishes of the soul.

In a fast moving technological, society in which mankind is swept along like a hurricane, most people are increasingly beginning to feel that they don’t have the time or enough self confidence anymore to rely on their intuitive instincts or individual aptitude when making decisions. People rely more on other people they term as “experts” to make decisions for them, e.g self help groups, counsellors, politicians. It follows therefore that (taking it to the extreme) such “nannying” might pose a threat to that “shared collective racial unconscious memories” which Jung suggests we share as human beings and we are all destined therefore to live like “lost souls” in a world such as George Orwell prophesised in his novel “1984”

This one-woman show, performed by Heledd Bianchi will appeal to a wide audience as it deals with themes which are timeless and universal, i.e where the forces of darkenss and light and good and evil battle against each other. But who will win?





CATRIN GLYNDŴR, 2004



Written by Heledd Bianchi, Diana Bianchi and Huw Garmon
English adaptation by Diana Bianchi

Performed by Heledd Bianchi

Directed by Huw Garmon
Produced by Heledd Bianchi


A one woman show available in both English and Welsh which relates the story of Catrin, Owain Glyndŵr's daughter who was imprisoned in the Tower of London and died there with her children and Glyndŵr's wife. Catrin's children, through her marriage to Edward Mortimer, were potential heirs to the throne of England. They are buried in St Swithin's Church in London.

The year is 1409 and Catrin Glyndŵr, her mother and children are incarcerated in the Tower Of London. Owain Glyndŵr’s turbulent revolt is at an end and Catrin’s anxiety, aspirations and overwhelming love for a family and country bring her to the very brink of madness.

Through dramatic scenes, music and dance, Heledd Bianchi relates the story of Catrin Glyndŵr, who lived and died during one of the most turbulent periods in Welsh history.

In 1405, Owain's son Gruffydd had been taken as a prisoner to the very same place and had perished there. There are no records to show where he was buried. In 1409 Catrin, her children and her mother suffered the same fate. There was no chance that they would ever be freed for the reason that her sons through her marriage to Edward Mortimer were in line to the English throne. However, in their case, records show that they were buried in the cemetery of St Swithin's Church, London. Unfortunately the church was burned to the ground during the Great Fire of London in 1665, and during the Second World War, the second church which was built after 1665 was also destroyed.

At one time there were plans afoot to develop office blocks on the site, however after much campaigning by Welsh people, plans were dropped, and today a memorial stone has been erected to commemorate Catrin, her children and her mother. The memorial is also dedicated to women and children all over the world who are the victims of violence and war.

Most people have some knowledge about Owain Glyndŵr, but hardly anyone knows, or has even heard of Catrin because historical information about her life is very sketchy .

In this one woman show, Heledd Bianchi brings the character to life so that we can learn something about Catrin as a woman who was born into one of the most important periods of Welsh history, as daughter to one of the most important Welsh Rulers and as a mother, who because of who she was died at the hands of an English king.

This show is timely for it can be viewed both in an historical as well as a contemporary context in as much it portrays the suffering and oppression of women and children all over the world during war and conflict. This show will appeal to a wide audience, and especially targets GCSE and A Level students.


CATRIN GLYNDŵR REVIEWS

The year is 2004. We are in a former chapel in Machynlleth, a few weeks before the celebrations to mark the sexcentenary of Owain Glyndŵr's Parliament. A woman in mediaeval costume takes the stage - and holds our attention for 80 minutes, helped by nothing more than simple but dramatic lighting and some arresting sound-effects.
Heledd Bianchi is the actress, interpreting her own script about Glyndŵr's daughter, Catrin. The powerful English aristocrat Edmund Mortimer was captured by the Welsh in June 1402; five months later he married Catrin.

This was a valuable alliance for Glyndŵr and posed a considerable challenge to King Henry IV and his Lancastrian dynasty.

But Catrin paid dearly for being a pawn in this brutal power-struggle.

When Edmund died during the siege of Harlech, his wife and children were taken to the Tower of London
where they died in mysterious circumstances in 1413.

From the confines of her cell, Catrin looks back over the peaks and troughs of her eventful life. To convey these images and emotions Heledd Bianchi uses literature ranging from the 6th and 7th centuries through to a song of the women on Greenham Common. This helps to give Catrin's experiences a wider reference
symbolizing inter alia the joys of motherhood and the anguish of war.

Huw Garmon's direction has a Brechtian intensity, which means that this monologue is not for the faint-hearted or the couch-potato. The piece conveys the cruelty and discomfort of the Middle Ages, and shows a woman at the very edge of insanity. Especially effective are the moments when Heledd uses mime to suggest that she is craning at the window of her cell, desperate for sights and sounds from the outside world.

'Catrin Glyndŵr' is an important story, forcefully told. It deserves a wide audience and should certainly be considered for treatment on film or television.

Andrew Lambert (Machynlleth)

“Heledd Bianchi unquestionably performs with a lot of passion and emotion, and wears her Welsh heart on her sleeve.” (Three Weeks eDaily, Edinburgh Fringe Fefstival – on the inside 11th August, 2005)

“A worthy play about Catrin Glyndŵr, imprisoned in the Tower of London in 1409 after her father Owain’s uprising against the English. Catrin is passionately portrayed by Heledd Bianchi” (The Scotsman, Edinburgh Fringe Festival, Thu 18 Aug, 2005)

CATRIN GLYNDŴR, 2004


‘Sgrifennwyd gan Heledd Bianchi, Diana Bianchi a Huw Garmon
Addasiad Saesneg gan Diana Bianchi

Perfformiad gan Heledd Bianchi

Cyfarwyddwyd gan Huw Garmon

Cynhyrchwyd gan Heledd Bianchi


I goffau chwe chan mlynedd ers i Owain Glyndŵr gael ei goroni’n Tywysog Cymru a sefydlu y Senedd cyntaf i Gymru yn Machynlleth yn 1404, mae Heledd Bianchi yn cyflwyno sioe un fenyw sy'n adrodd hanes ei deulu ( yn bennaf ei ferch) a gafodd eu carcharu yn Nhŵr Llundain yn ystod gwrthryfel Owain Glyndŵr yn erbyn Brenin Lloegr. Mae’r sioe ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg

Mae Heledd Bianchi, trwy cameos dramatig, can a dawns yn cyflwyno hanes ei
bywyd fel merch i Owain, ei safle fel menyw yn y gymdeithas a oedd ohoni pryd hynny, ei charchariad, a marwolaeth y teulu yn Nhŵr Llundain.

Ym 1409 cafodd gwraig Owain Glyndŵr, ei ferch Catrin a’i wyrion eu carcharu yn Nhŵr Llundain. Cafodd Gruffydd, ei fab ei garcharu yno ym 1405 a dyna lle bu e farw, ond does dim cofnod o le gafodd e ei gladdu.


Yn achos Catrin a'r gweddill o'i deulu, y mae cofnodion sy'n dweud bod Catrin a'i phlant wedi'u claddu yn eglwys San Swithin yn Llundain. Yn anffodus, cafodd yr eglwys ei ddinistrio yn y Tân Mawr ym 1665, a dinistriwyd eglwys arall yn yr un lle yn yr Ail Ryfel Byd. Ar un adeg roedd cynlluniau ar y gweill i adeiladu swyddfeydd ar y safle ond ar ol ymgyrchoedd gan nifer o Gymry, achubwyd y tir a heddiw ceir yno colofn
goffa i Catrin, ei mham a'i mherched.


Gwyr pawb rhywbeth am hanes Owain Glyndŵr, ond prin ydy'r gwybodaeth sydd gennym am ei deulu .
Y bydd y sioe yn unioni'r cam drwy adrodd yr hanes colledig hwn.

Y mae natur y perfformiad hwn yn cyflawni'r amodau a ymddengys o dan adran amrywioldeb ddiwylliannol a rhyw. Bydd y perfformiad yn cyflwyno Catrin yn

Ferch i Owain Glyndŵr, Tywysog Cymru - Sefydlwr y Senedd cyntaf yng
Nghymru.

Fam a welodd ei theulu yn marw o newyn yng ngharchar mwyaf adnabyddus
Lloegr

Fenyw mewn cyfnod lle roedd gwraig yn cael eu thrin fel eiddo'r gŵr

Y mae’r sioe yn amserol ac y bydd yn apelio at drawstoriad o bobl yn ein
cymdeithas. Rhodder pwyslais arbennig ar ddatblygu cynulleidfa o dŵf yr
ifainc, yn enwedig disgyblion TGAU a LEFEL A.


ADOLYGIADAU CATRIN GLYNDRŴR


Seiliwyd y sioe un ferch hon ar hanes Catrin, merch owain Glyndŵr, a gafodd ei charcharu yn Nhŵr Llundain yn ystod gwrthryfel Glyndŵr yn erbyn Brenin Lloegr.

Llwyddodd Heledd Bianchi i gyfleu hanes Catrin trwy gyfres o ganeuon, dawnsfeydd a chameos dramatig, Fel pawb arall, ychydig a wyddwn am hanes teulu Owain Glyndŵr ac roedd gwylio’r perfformiad hwn yn fodd i gael mewnwelediad empathetig iawn. Portreadwyd ei bywyd fel merch i Owain, ei safle fel merch yn y gymdeithas a oedd ohoni bryd hynny, ei charchariad, a marwolaeth y teulu yn effeithiol iawn.

Roedd ôl ymchwilio manwl ar y sgript ac roedd y symud slic o un cameo i'r llall yn gelfydd iawn. Roedd y caneuon yn ychwanegu at y dwyster a'r dawnsio yn cyfleu teimladau Catrin mewn modd cyffrous a theimladwy.

Trueni na fuasai mwy wedi cefnogi’r perfformiad hwn, yn enwedig yn Harlech lle mae cysylltiad mor gryf a dathliad arbennig eleni. Os cewch gyfle i'w weld ewch da chi i chwithau gael dysgu mwy am deulu un o’n harwyr mwyaf ac i fwynhau perfformiad yr actores ddawnus hon.

Janet Mostert
(Athrawes, Ysgol Ardudwy, Harlech)


2004 ydy'r flwyddyn. Di ni mewn hen gapel ym Machynlleth, wythnosau cyn dathliadau 600 mlynedd ers Senedd Owain Glyndŵr. Mae merch mewn gwisg
canoloesol yn ymddangos ar y llwyfan - ac mae Heledd Bianchi'n cadw ein
sylw am wythdeg munud, heb fwy na golau syml ond dramatig ac effeithiau
sŵn i helpu.

Andrew Lambert (Machynlleth)


Nid oes llawer o wybodaeth hanesyddol am fywyd Catrin Glyndŵr, merch Owain Glyndŵr, ond nid yw’r ffaith hon wedi atal Cwmni Bwcibo rhag creu drama gryf, pwerus a diddorol iawn am ei bywyd hi.

Rydym yn ymuno â Chatrin yn Nhŵr Llundain, lle mae hi wedi cael ei charcharu ar ddechrau’r pedwerydd ganrif ar ddeg. Monolog yw’r ddrama hon, gyda’r actores Heledd Bianchi yn chwarae Catrin.

Mae hi’n teithio trwy bob emosiwn yn y sioe. Mae hi’n poeni am ei thynged hi ac am ddyfodol ei theulu; mae hi’n rhoi melltith ar y rhai sydd wedi ei charcharu. Mae hi’n crio; mae hi’n gwaeddi; mae hi’n gweddïo. Ond mae hi’n cadw’n bositif am y sefyllfa yng Nghymru – “Nid oes lladd ar ysbryd, rhaid i’r frwydr barhau,” dywed, ac mae hi’n sôn am ‘genedl’ yn hytrach na ‘byddin’.

Mae Heleddd Bianchi yn portreadu hefyd sut mae’r sefyllfa wedi effeithio ar iechyd meddwl Catrin – mae hi’n mynd o dristwch i hapusrwydd yn gyflym iawn; mae hi’n dawnsio ac yn canu o gwmpas y tŵr, ac yn chwarae gyda chleddyf hudol dychmygol.

Mae tywyllwch y stwidio ar ddechrau’r sioe yn ychwanegu at yr awyrgylch, yn dangos i ni sut mae’n teimlo i fyw mewn lle mor ofnadwy. Clywir sŵn y gwynt yn chwythu, clywir brân yn hedfan ac yn canu, a chlywir lleisiau pobl tu mas i’w carchar.

Ond ar wahân i’r synau hyn a thipyn bach o gerddoriaeth, nid yw’r ddrama yn defnyddio props neu set o gwbwl, ar wahan i bocs a baner Dewi Sant. Yn hytrach, mae lan I Heledd gyfleu popeth. Merch dalentog dros ben yw hi, yn rhoi ei holl i mewn i’r rôl, yn actio gyda phasiwn ac egni – er bod dim ond hanner dwsin o bobl yn y gynulleidfa. Dywedodd hi ar ôl y sioe nad oedd hi’n teimlo’n dda achos ei bod hi’n dioddef o annwyd – hoffwn ei gweld hi ar ei gorau!

Un uchafbwynt y cynhyrchiad yw’r ffordd bod Heledd yn defnyddio llawer o lenyddiaeth Cymraeg. Mae hi’n benthyg geiriau o waith Aneirin ac Iolo Goch, Y Mabinogi a phobol mwy cyfoes fel y bardd Menna Elfyn. Dengys hwn nad yw llawer wedi newid dros y canrifoedd; mae rhyfel dal yn digwydd, mae merched dal yn dioddef, ac mae’r byd dal yn greulon. Ond ymhlith y creulondeb ceir gobaith a chymeriadau ‘inspirational’ a chryf iawn, fel Catrin Glyndŵr.

Sioe arloesol iawn yw Catrin Glyndŵr o gwmni cyffrous ifanc.

Cathryn Scott – Big Issue

Gweler hefyd erthygl gan Heledd Bianchi am sefydliad y cwmni ac adolygiad ar y sioe hon gan Ceri Sherlock ar wefan BARN.
























THE ONE ROAD, 2003


Written and performed by Heledd Bianchi

Directed by Diana Bianchi
Produced by Heledd Bianchi

A one woman cabaret available in both Welsh and English which looks at the political struggles of women in Wales over
the past forty years i.e the miners strike, the Welsh language, Greenham Comon, CND, Anti-Apartheit, War in Iraq and throughout the world

The show is a celebration in memory of Helen Thomas and Mary Crofton - two
women who were at the leading edge of political initiatives in Wales.

Helen Thomas

Helen Thomas was killed on 5th August,1989. She was knocked down outside
Greenham Common by a vehicle transporting horses that was driven by West
Midlands Police. If she had lived, she would have succeeded in having her
case heard in Welsh in a Magistrate's Court in England on 18th August.


Mary Crofton

Although she was born in Limerick, Ireland, Mary Crofton lived most of her
life in Newport, Gwent. She became well-known throughout the land and in
Ireland for her political campainging. She died in 2001 at 82 years of
age. Her funeral was an important event for the Irish community in south
east Wales. A large crowd of people attended at St Mary's Catholic Church
at Snowhill. In the following week, a number of people paid tributes to
her. Amongst the speakers was Arthur Scargill, former miners' leader.



YR UN CAM, 2003


‘Sgrifennwyd a perfformwyd gan Heledd Bianchi

Cyfarwyddwyd gan Diana Bianchi
Cynhyrchwyd gan Heledd Bianchi


Cabaret un fenyw, ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg, sy’n edrych yn ôl ar ddeugain mlynedd o ymgyrchoedd gwleidyddol â frwydrwyd gan fenywod yng Nghymru megis streic y glowyr, yr iaith Gymraeg, Commins Greenham, CND, Gwrth Apartheid, Rhyfel yn Iraq ac ledled y byd.

Roedd dwy ddynes benodol yn sbardun wrth ddatblygu'r ddrama,sef Helen
Thomas a Mary Crofton.

Helen Thomas

Cafodd Helen Thomas ei lladd ar Awst 5ed 1989 gan gerbyd cludo ceffylau â
oedd yn cael ei yrru y tu allan i Gomin Greenham gan Heddlu Gorllewin
Canolbarth Lloegr. Pe bai hi wedi byw y basai wedi llwyddo i gael ei
hachos drwy gyfrwng y Gymraeg mewn llys ynadon yn Lloegr ar Awst 18fed.


Mary Crofton

Ganwyd Mary Crofton yn Limerig, Iwerddon ond treuliodd y rhan fwyaf o
bywyd yng Nghasnewydd, Gwent. Daeth yn enwog led-led y wlad ac yn
Iwerddon am ei ymgyrchoedd gwleidyddol. Bu farw ym 2001 yn 82 oed.Yr oedd
ei hangladd yn achlysur pwysig iawn ir gymuned Wyddelig yn Ne Ddwyrain
Cymru. Daeth torf fawr o bobl i’w hebrwng yn Eglwys Catholig y Santes Fair
yn Snowhill .Yn yr wythnos â chynhaliwyd ar ôl y hebrwng bu nifer o bobl
yn talu eu teyrnged i Mary.Ymhlith y siaradwyr â gwadd, yr oedd Arthur
Scargill, cyn-arweinydd y Glowyr.
future plans
cynlluniau at y dyfodol
All Theatr Bwcibo shows can be booked via the NIGHTOUT scheme by visiting nightout.org.uk

Gallwch fwcio Sioeau Theatr Bwcibo trwy'r cynllun NOSON ALLAN. Ymwelwch a www.nightout.org.uk

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web deisgns / keith@artx.co.uk