Theatre in Wales

Commentary and extended critical writing on theatre, dance and performance in Wales

Dramau Eisteddfod Casnewydd 2004

Cyhoeddwyd yr erthygl hon gyntaf yn y cylchgrawn Barn

Angharad Elen, Rheolwr Llenyddol Sgript Cymru yn bwrw golwg dros gynnyrch theatrig yr Wyl

Gyda chryn frwdfrydedd y bûm i’n edrych ymlaen at arlwy theatrig yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. Dw i ddim yn meddwl fy mod i’n cofio blwyddyn lle bu ystod mor eang o ddramâu. Nid yn unig hynny, ond roedden nhw i gyd yn argoeli i fod yn rai safonol a chlodwiw. Roedd hi hefyd yn braf gweld Theatr y Maes yn llawn dop, a hynny ar fwy nag un achlysur. Roedd o’n brafiach lle i fod ynddo fo eleni, ac roedd y lleoliad - rhwng y Babell Lên a’r Babell Gelf a Chrefft - fel petai’r pebyll eraill wedi ei derbyn hi’n ‘un-ohonyn-nhw’ o’r diwedd. Does dim ond gobeithio mai parhau i dyfu o nerth i nerth y gwnaiff hi o hyn allan.

Afraid dweud mai’r rheswm pennaf am lwyddiant Theatr y Maes eleni oedd presenoldeb y Theatr Genedlaethol. Roedd y theatr fechan dan ei sang bob dydd - a hynny er gwaethaf y gwres llethol. Ac Eto Nid John Gwil... oedd yr atyniad, sef dathliad o ganmlwyddiant geni’r John Gwilym Jones ar ffurf pytiau o amryw ddramâu o waith yr awdur. Yn anffodus, dim ond dwy o’r tair drama a welais - bu’n rhaid fy nhroi i ffwrdd o berfformiad ddydd Gwener o Dwy Ystafell am nad oedd sedd ar ôl i mi. Ac er mod i’n flin fel tincar ar y pryd, ymfalchïo ddyliwn i fod yn gwneud – pryd tybed oedd y tro diwethaf i Theatr y Maes ddenu cynulleidfa o’r raddfa yma? Er i mi fethu Dwy Ystafell, cefais gryn fwynhad o Ac Eto Nid Myfi o dan gyfarwyddyd Cefin Roberts, ac Un Briodas o dan gyfarwyddyd Judith Roberts. Roedd yn gyfle gwych i’r theatr newydd gyflwyno actorion craidd y cwmni, a roedd y cyfarwyddo yn ddelweddol a chelfydd ar ei hyd.

Y ddrama gomisiwn eleni oedd Lysh, drama newydd gan Aled Jones Williams a bûm yn edrych ymlaen yn eiddgar at y noson agoriadol ers rhai wythnosau. Rwy’n aruthrol o hoff o waith yr awdur rhyfeddol hwn; mae ei ddawn dweud yn delynegol a chyfoethog tu hwnt – bron na fedrwn weld y mêl yn diferu o enau’r cymeriadau ar y llwyfan. Braf oedd gweld bod y sgript-raglen ar werth ar ôl y sioe – dwn i ddim sawl perl o ddyfyniad y clywais, yr oeddwn i wir am eu cofio. Monologau swmpus a disgrifiadol sy’n rheoli’r rhan helaethaf o’r dweud, ac er mor hoff ydw i o’r arddull farddonol, goeth yma, i mi, doi’r ddrama yn wirioneddol fyw yn y pytiau o ddeialog rhwng y cymeriadau. Teimlo oeddwn i efallai bod gormod o bwdin yn y monologau o bryd i’w gilydd, a bod yr awdur yn pentyrru delweddau, yn meddwi ar eiriau ar draul y ddrama rhwng y cymeriadau (er mor brydferth ac ingol y delweddau hynny). I mi, un o’r pethau sy’n ddifyr am y salwch dinistriol hwn, yw’r ffordd y mae’n effeithio ar y berthynas rhwng pobl, a hoffwn fod wedi gweld mwy o ymgom rhwng y cymeriadau â’i gilydd, er mwy rhoi elfen mwy uniongyrchol i’r chwarae. Ond wedi dweud hynny, mae alcoholiaeth yn dueddol o fod yn gyflwr myfïol a menwol iawn, a synnwn i ddim mai adlewyrchu hyn oedd prif fwriad yr awdur yn hyn o beth.

Mae yna dinc metaffuglennol yn y dweud o bryd i’w gilydd, sydd yn ategu brwydr bersonol yr awdur gyda’i emosiynau ei hun. Fel y dywed Sandra (Betsan Llwyd), ‘Efallai na tydwi-i’n ddim byd ond inc. Inc rhywun arall ar bapur rhywun arall [...] Rhywun allan yn fancw sy’n trio creu synnwyr o lanasd ei fywyd ei hun drwydda ni’. Er bod y ddrama wedi deillio o brofiad yr awdur â’i salwch, nid drama hunangofiannol ydi hi, ond cipolwg o ymgiprys pedwar cymeriad gwahanol ag alcoholiaeth, neu “afiechyd y teimladau” fel y mae un o’r cymeriadau yn disgrifio’r cyflwr. Mae’r ymdriniaeth yn un ddofn a dirdynnol ac mae perfformiadau’r actorion yn deilwng o’r dwyster hwnnw. Er hynny, byddwn wedi hoffi dod i ddeall mwy o ymdrech barhaus Sanda wrth iddi geisio dod i delerau ag alcoholiaeth Ifor, ei g_r (Phil Reid).

Unwaith eto mae Aled Jones Williams wedi ysgrifennu drama sy’n edrych yn syth i grombil clwyf amrwd y ddynoliaeth. Mae’n brofiad theatrig a delweddol sy’n fwrlwm o s_n ac yn darlunio gwewyr a’r gobaith sy’n rhan o’n bywydau ni i gyd.


Deinameit! yw cynhyrchiad gwreiddiol cyntaf Llwyfan Gogledd Cymru, ac mae’n seiliedig ar frwydr streicwyr Friction Dynamex yng Nghaernarfon. Yr oedd y streic yn ddigwyddiad hanesyddol ac iddo arwyddocad cenedlaethol oblegid safiad aruthrol y gweithwyr dros eu hawliau moesol. Drama-ddogfen ydyw, sy’n olrhain hanes y streicwyr ar y llinell biced. Rhaid i mi gyfaddef fy mod rhyw fymryn yn ddrwgdybus o’r cynhyrchiad yma i ddechrau. Ai drama oedd y cyfrwng delfrydol ar gyfer creu dogfen?

Dilynwn fywydau a chythryblion pedwar o’r streicwyr a fu allan ar y llinell biced drwy gydol y ddwy flynedd a naw mis y parodd yr anghydfod. Bywydau digon cyffredin a ddarlunnir – mae yma garwriaeth, genedigaeth, marwolaeth, ac yn gefnlen i’r cwbl, mae’r frwydr ddi-dor am y hawl i safon gwell o fyw. Yn ddolen gyswllt i’r golygfeydd, gwelwn wal fideo yn dangos lluniau llonydd o’r streic ynghyd â lleisiau nifer o’r picedwyr eu hunain, sydd yn ategu’r elfen ddogfennol sydd i’r ddrama. Fel y cynhyrchiad diweddar o’r ddrama-ddogfen The Permanent Way gan David Hare, sydd yn olrhain hanes y rheilffyrdd ym Mhrydain, mae’r cynhyrchiad hwn yn llwyddo i fod yn ffeithiol gywir, a hynny heb amharu’n ormodol ar yr elfen ddramatig. Ar ddiwedd y ddrama, mae’r cymeriadau yn gadael y llinell biced, a’r llwyfan yn yr un modd gan dalu gwrogaeth i’r streicwyr eu hunain. Byddwn wedi hoffi dod o’r theatr yn gynddeiriog, a’r awydd i newid pethau yn gryf yndda ‘i; credaf bod yna gyfle wedi’i golli yma i wirioneddol danio’r gynulleidfa.

Mae’n gynhyrchiad sy’n nodweddiadol o gyfarwyddo Ian Rowlands, ac mae cyffyrddiadau hyfryd i’r chwarae ar ei hyd. Yn llinyn annatod drwy’r ddrama mae s_n cyrn y ceir sy’n pasio heibio, a llwyddwyd i gyd-blethu’r rhain yn glyfar iawn i mewn i wead y stori. Yn yr un modd, roedd y gerddoriaeth, gan artistiaid mor amrywiol â Geraint Løvgreen a Lo-Cut a Sleifar yn dra effeithiol gan ein hatgoffa eto o gyfoesedd a phwysigrwydd y streic yma, a ddigwyddodd reit ar ein stepen drws. Cafwyd perfformiadau caboledig, a phortread gwefreiddiol gan Dyfrig Evans o Guto, g_r a thad ifanc sydd yn cael ei dynnu rhwng ei ddyletswydd i ddarparu ar gyfer ei deulu â’i egwyddorion sylfaenol.

Fel un sy’n dod o ardal Caernarfon, byddwn yn dod i gyswllt dyddiol â’r streic ar fy nhaith rhwng Llandwrog a Bangor, gan ganu’r corn wrth basio yn ddiffael. Mwya’r cywilydd i mi, wyddwn i ddim rhyw lawer am y streic ei hun, ond gwyddwn mor bwysig oedd dangos fy mhitw gefnogaeth wrth basio yn y car. A dyna pham, mewn ffordd, bod y ddrama hon mor bwysig. Dathliad ydi Deinameit! yn anad dim, ac un corn hir o gefnogaeth. Mae’n ddathliad o aberth y gweithwyr dros eu hawliau yn ogystal â dathliad o gryfder a phwysigrwydd cymuned. I’r un perwyl, drama gymuned ydi hi yn y bôn ac fel yr awgryma ethos Llwyfan Gogledd Cymru, creu theatr o berthnasedd i gynulleidfaoedd y Gogledd a Chymru benbaladr yw’r bwriad. Roedd y ddrama hon yn llwyddiant yn hyn o beth.

Er bod Shinani’n Siarad, cynhyrchiad diweddaraf Rhosys Cochion, wedi bod ar daith ers fis Chwefror eleni, dyma oedd y tro cyntaf i mi ei gweld. Doeddwn i ddim yn hollol argyhoeddedig y byddai addasiad Sharon Morgan o The Vagina Monologues Eve Ensler yn gweithio yn y Gymraeg – fyddai iaith y nefoedd yn ddigon hyblyg i drafod tab_ mor enfawr? Oedd ganddi’r eirfa? Oedd ganddi’r hyfdra i fedru siarad yn blwmp ac yn blaen am lecyn mor gyfrin yn anatomi’r ferch? Ac, yn fwy amheus fyth - oedd Cymru yn barod am hyn i gyd?

Er mwyn dod o hyd i air Cymraeg amgenach na ‘gwain’ (Geiriadur Bruce) am y vagina, dilynodd Sharon Morgan ôl troed Eve Ensler gan deithio hyd a lled Cymru er mwyn holi merched beth oedden nhw’n galw eu ‘bechingalw’. Egyr y sioe gyda’r actorion yn cyfarch y gynulleidfa yn uniongyrchol gan bwyso a mesur y stôr enfawr o’r enwau hynod a gwallgof y daeth Sharon ar eu traws - gan gynnwys ‘patsh persli’ a ‘camfflobatshen’ - cyn setlo ar ‘shinani’ oherwydd moethusrwydd ei s_n. Mae moethusrwydd a melfed a gofalu ac esmwytho yn chwarae rhan amlwg iawn yn y cynhyrchiad - mae ymhlyg yn angen y cymeriadau, yn weledol ac yn llafar, ac mae’n rhan annatod o bwrpas y ddrama yn ei hanfod. Dywed Gloria Steinhem yn ei chyflwyniad i gyfrol Eve Ensler, “Er mwyn parhad yr hil, mae’n rhaid i ferched fod yn ddiogel ac yn hyderus o’u p_er. Mae’n ddamcaniaeth amlwg, ond fel shinani, mae angen llawer o ofal a chariad arni er mwyn ei datguddio.”

Yn wahanol i’r cynhyrchiad gwreiddiol o The Vagina Molologues, nid darlleniad ‘sgript-mewn-llaw’ yw hwn, ond yn hytrach mae’n berfformiad cyflawn a theatrig. Yn ganolog i’r chwarae mae soffa fawr goch symbolig ac yn eu tro, mae’r cymeriadau yn ei fwytho ac yn nythu ynddo wrth iddynt rannu eu profiadau gyda ni. Mae’r cynhyrchiad yn mynnu ein sylw o’r cychwyn cyntaf ac mae brwdfrydedd ac egni di-dor yr actorion, Maria Pride, Delyth Wyn a Sharon ei hun, yn gwbl heintus a gafaelgar. Amrywia’r monologau o’r doniol i’r gwirioneddol ddirdynnol, ac mae cyfarwyddo celfydd Catrin Edwards yn sicrhau perfformiadau amheuthun gan yr actorion – Maria Pride yn arbennig – ac undod eglur a diffuant i’r cynhyrchiad yn ei gyfanrwydd.

Mae’n syndod ac yn benbleth i mi na fu mwy o sylw i’r cynhyrchiad hwn yn y cyfryngau, yn enwedig o ystyried ei bod wedi bod yn ein theatrau ers dechrau’r flwyddyn. Hon, yn ddi-os, yw’r sioe orau i mi ei gweld yn y theatr Gymraeg ers blynyddoedd, ac os nad oes gan y wasg Gymraeg yr adnoddau (neu’r hyder efallai) i roi’r sylw haeddiannol iddi, yna mae hynny’n dristwch o’r mwyaf.

Nid yn unig mae addasiad beiddgar Sharon Morgan o The Vagina Monologues Eve Ensler yn dryloyw ac yn raenus, mae hefyd yn brawf pendant bod yr iaith Gymraeg yn gyfrwng byw, modern a deinamig. Trefyd bynciau ac ofnau na thrafodwyd hwy o’r blaen yn y Gymraeg, ac mae hynny ynddo’i hun yn gamp aruthrol. Shinani’n Siarad, yn bendant, oedd pinacl fy Eisteddfod i eleni.

Yr unig siom fawr ynghanol bwrlwm y theatr yn yr Eisteddfod eleni oedd na fu teilyngdod yng nghystadleuaeth y Fedal Ddrama. Soniodd Jeremy Turner yn ei feirniadaeth mai hon yw cystadleuaeth bwysicaf yr Eisteddfod. Mae hi o dragywydd bwys bod proffil a safon y gystadleuaeth hon yn codi yn y blynyddoedd nesaf er mwyn sicrhau parhad y ddrama fel cyfrwng byw a theilwng. Gobeithiaf fod yr awduron yn eich plith a gafodd fwynhad o gynnyrch theatrig Eisteddfod Casnewydd a’r Cylch yn ystyried troi eich golygon at y gystadleuaeth hon yn Eisteddfod Eryri y flwyddyn nesaf, fel y byddwn yn parhau i weld drama o’r radd flaenaf yn ffynnu yng Nghymru.

author:Angharad Elen

original source: Barn, Medi 2004
23 September 2004

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk