Theatre in Wales

Commentary and extended critical writing on theatre, dance and performance in Wales

Yr Adroddiad Boyden

Dadansoddiad Kate Woodward

Cyhoeddwyd yr erthygl hon gyntaf yn y cylchgrawn Barn



Bu’r gymuned theatrig yng Nghymru trwy’r felin yn ystod y blynyddoedd diwethaf, yn bennaf oherwydd bod diffyg buddsoddiad, a chynllunio tymor hir, ond hefyd o ganlyniad i Strategaeth Ddrama 1999 Cyngor Celfyddydau Cymru. Dyma strategaeth a ofynnodd i gwmniau amrywiol gystadlu yn erbyn eu gilydd am arian ac am eu bodolaeth; strategaeth fethedig a esgorodd ar lawer o ddrwgdeimlad rhwng cwmniau, a rhwng y cwmniau eu hunain a’r Cyngor Celfyddydau. Ers y cyfnod du hwnnw, cymerwyd camau breision i adfer y sefyllfa. Buddsoddwyd mewn theatr iaith Gymraeg, gyda dyfodiad Theatr Genedlaethol Cymru, a rhoddwyd sefydlogrwydd hefyd i’r cwmniau sy’n darparu Theatr i Bobl Ifanc.

Yn y cyd-destun hwn, fe fu Theatr Genedlaethol Iaith Saesneg (Th.GIS) i Gymru yn bwnc llosg syrffedus, a fu yn seinio fel dolef diddiwedd drwy’r gymuned theatrig. Dau _r sy’n gysylltiedig â’r awydd am Th.GIS yw Terry Hands a Michael Bogdanov. Mae’r ddau ohonynt yn gyfarwyddwyr rhyngwladol profiadol dros ben, y ddau wedi gweithio gyda’r RSC, ac i raddau helaeth yn Ewrop. Yr hyn sy’n uno’r ddau yw’r gred bod yna gagendor mawr gan nad oes yna theatr gynhyrchu ar raddfa fawr i oedolion yn Ne Cymru. Fel cyfarwyddydd artistig ar Clwyd Theatr Cymru, mae Hands yn gyfrifol am yr unig theatr sy’n cynhyrchu trwy gydol y flwyddyn, ond mae ei safle yn y Wyddgrug yn ei gosod yn agosach at Fanceinion a Lerpwl. Wedi pum mlynedd o ymweld â’r Theatr Newydd, Caerdydd, i gyflwyno tymhorau o waith, mae gan Hands awydd i gael canolfan parhaol yn y brifddinas, ei wreiddiau RSC yn amlwg, gan y byddai ei ganolfan yng Nghaerdydd yn ‘Barbican’ i’w ‘Stratford’ yng Ngogledd Ddwyrain Cymru. Ar y llaw arall, ceir Michael Bogdanov, a’i Wales Theatre Company, a gysylltir yn bennaf â Theatr y Grand, Abertawe, yn ogystal â’r _yl flynyddol yn Llwydlo. Mae enw ei gwmni yn datgelu llawer am ddyheadau Bogdanov, a soniwyd am y cwmni yn ddiweddar yn The Guardian fel ‘the Welsh National Theatre-in-waiting’.
Ond mae dadlau cyson am theatr genedlaethol wedi rhoi trafodaethau mwy sylweddol am iechyd sylfaenol theatr yng Nghymru yn gyfan, o’r neilltu. Yn ddiweddar yn y Western Mail, dadleuodd Joyce McMillan, beirniad theatr The Scotsman, nad yw’r sefyllfa yng Nghymru yn iawn ar gyfer creu Theatr Genedlaethol.
Adrodda hi am y gymeradwyaeth ddigymell a roddwyd i gais yng nghynhadledd Rhagfyr
Cymdeithas Celfyddydau Perfformio Cymru am i gynadleddwyr geisio peidio â chrybwyll y geiriau “theatr genedlaethol” gydol y dydd. Gyda dyrnaid o gwmnïau cyfrwng Saesneg yn ymladd i oroesi, gellir gweld y modd y byddai trafodaeth ynghylch theatr genedlaethol yn dân ar eu croen ac yn ymddangos yn afrealistig.
Aiff darn Mcmillan ymlaen i ddadlau na all Theatr Iaith Saesneg (Th.IS) yng Nghymru gynnal prosiect theatr genedlaethol am flynyddoedd eto ac “nad oes achos tros hyd yn oed ei drafod tan y gall y genedl gefnogi rhwydwaith o o leiaf ddeg cwmni gydol - blwyddyn cryf wedi’u hariannu’n ddigonol, sy’n rhoi llais i amrywiaeth ddaearyddol a chymdeithasol Cymru ac yn gwthio yn ei blaen y dasg o ddatblygu repertoire cyfoethog ar gyfer yr 21ain ganrif ym mhob math ar iaith a siaredir yng Nghymru”.

Yr wythnos hon, ymddegnys ThGIS yn freuddwyd gwrach, gyda adroddiad hirddisgwyledig Peter Boyden yn dod i’r un casgliad.
Adnabyddir Peter Boyden fel y g_r a lwyddodd i argyhoeddi’r trysorlys i ryddhau 28 miliwn o bunnoedd yn ychwanegol ar gyfer perfformio yn Lloegr, ond dadleua yn ei adroddiad nad oes diben ystryried Th.GIS i Gymru heb fuddsoddi a chyflawni amcanion.

Datagana Boyden y byddai diffyg buddsoddiad yn arwain at tanseilio’r seilwaith, ac yn arwain at sefyllfa lle y byddain amhosib parhau â hyd yn oed y lefelau isel o gynhychu sy’n bodoli ar hyn o bryd. Dywed os nad defnyddir a datblygir y seilwaith yma yn well, fe fydd Th.IS yn dal i fod mewn dyfroedd dyfnion.

“Dylai cael isadeiladaeth gynhyrchu broffesiynol a chynaladwy yn ei lle cyn sefydlu theatr genedlaethol aeddfed – pa un ai bo’n adeilad, yn ffederasiwn neu’n gorff comisiynu. Mae’r ymgynghori’n atgyfnerthu’r farn y dylid gohirio’r drafodaeth tan yr adeg y bydd mwy o waith o ansawdd uchel yn cael ei gyhoeddi yn rheolaidd ar draws y wlad. Nid awgrymu yw hyn nad oes rhinwedd mewn datblygu trafodaeth egniol o gwmpas syniad yr hyn sy’n cael ei alw’n ‘theatr genedlaethol o leisiau lawer’ sy’n adlewyrchu cryfderau diwylliant theatr lluosog.”

Ymgymerodd Peter Boyden â’r ymchwil ar gais Cyngor Celfyddydau Cymru i adolygu’r diwydiant ac i gyflawni papur ar ddyfodol Th.IS , gan fod angen, yng ngeiriau Geraint Talfan Davies, Cadeirydd CCC ‘talu sylw ar frys i ddatblygiad ehangach theatr Saesneg yng Nghymru’. Dilyna hyn gyfnod o anniddigrwydd yn y sector iaith Saesneg, gyda ymarferwyr yn ofni difodiad llwyr theatr a gynhyrchir yng Nghymru, a arweiniodd at 54 o ddramodwyr yn datgan eu cefnogaeth i ddogfen o’r enw State of Play. Galwodd yr adroddiad ar y Cynulliad Cenedlaethol a CCC i weithredu er mwyn meithrin gwaith dramodwyr yng Nghymru i roi llwyfan i’w gwaith i ddatblygu.

Wrth ganol dadl a gweledigaeth Boyden mae’r ‘llwyfan’ llythrennol a throsiadol hyn. Yn hytrach na chefnogi un theatr i gynhyrchu, a fyddai yn ei hanfod yn creu model o theatr genedlaethol, dadleua y dylid sefydlu tymhorau o berfformiadau ar raddfa fawr i Clwyd Theatr Cymru yng Nghaerdydd ac Abertawe. Awgryma y dylid cefnogi Theatr y Sherman yng Nghaerdydd fel adeilad ac fel cwmni, er mwyn datblygu a gweithredu gweledigaeth newydd a fyddai’n ei greu yn galon cynhyrchu theatr cynhenid yn y brifddinas. Enwa Theatr y Dorch, Aberdaugleddau, a dywed y dylid gynyddu ei gwaith cynhyrchu i ddod yn ddarparwr allweddol gwaith graddfa canolig i ganolfannau trwy Gymru.

Sonia am y diffygion presennol:

“Nodweddir theatr Saesneg yng Nghymru gan lefelau isel o fuddsoddiad, seilwaith wan,
lefelau isel o gynhyrchiant a galw am theatr gynhenid o du canolfannau cyflwyno a
chynulleidfaoedd nad ydyw’n cael ei fodloni” meddai.

O ganlyniad i hyn, fe fu nifer helaeth o weithwyr, boed yn actorion, technegwyr neu’n gyfarwyddwyr, adael Cymru i weithio yn y theatr yn rhywle arall, neu yn gadael y sector yn gyfan gwbl. Yn ddiweddar, gwelwyd y dramodydd ifanc cyffrous Gary Owen, yn cyfieithu un o’i ddramau Cymraeg Amser Canser, (a lwyfannwyd llynedd) i’r Saesneg (Cancer Time) a’i lwyfannu yn Llundain, drwy honni fod yna fwy o gyfleoedd i ddramodydd o Gymru yn Lloegr. Ceir eironi gyda drama arall o’i eiddo, Ghost City, (a leolir yng Nghaerdydd) yn derbyn ymateb tra-llwyddiannus yn Efrog Newydd, tra bu gorfod canslo perfformiad ohono mewn canolfan yng Nghymru o ganlyniad i ddiffyg gwerthiant tocynnau. Hefyd, ym 2003, dim ond 17% o raddedigion cwrs actio’r Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (CBCDC) a ddaeth o hyd i’w gwaith proffesiynol cyntaf yng Nghymru, sy’n awgrymu bodolaeth rhagdybiaeth niweidiol, (sy’n bodoli mewn meysydd eraill hefyd), sef fod yn rhaid i dalent adael Cymru er mwyn gwireddu’i botensial. Da o beth felly yw gweld Boyden yn awgrymu sefydlu cysylltiadau rhwng sefydliadau hyfforddi prifysgol a chwmnïau proffesiynol. Sefydlwyd hyn yn anffurfiol gan CBCDC eisoes, gyda Tim Baker, Michael Bogdanov a Peter Doran ymhlith y rai sydd wedi cyfarwyddo sioeau myfyrwyr.

Yn ogystal, awgryma’r adroddiad y dylid:

cyllido Cynhyrchydd Creadigol a fydd â’r adnoddau digonol ac a fydd yn seiliedig
yn Ne Cymru fel cynhyrchydd, i hybu cydweithio newydd, dyfeisgar ac uchel eu proffil.
gwireddu potensial Volcano a Hijinx i fwyafu eu galluoedd cynhyrchu.
cefnogi awydd cwmnïau Theatr Mewn Addysg/Theatr Pobl Ifanc i deithio yn y
gymuned

Mae’r adroddiad yn un uchelgeisiol, cadarnhaol, ac yn fwy pwysig, yn hyblyg, ac fe fyddai ei gwireddu yn gam enfawr i theatr iaith Saesneg yng Nghymru. Mae’r awgrymiadau parthed hyfforddi pobl proffesiynol, a chreu cysylltiadau a chydweithio rhyngwladol i’w croesawi yn fawr, er mwyn croes-beillio syniadau a meithrin unigolion ar raddfa rhyngwladol, a fyddai’n cyfoethogi’r sin yng Nghymru. Y nod, i Boyden, yw creu diwylliant theatr gref ledled Cymru, a’r unig ffordd o wneud hynny yw trwy ymrwymiad cadarn a hirdymor.
Awgrymiadau wrth gwrs, a geir gan Boyden, ac fe geir cyfnod ymgynghorol o chwe wythnos i drafod yr adroddiad goleuedig hwn. Y gobaith yw y bydd yn arwain at ‘meithrin ecoleg cynhyrchu a nodweddir drwyddi draw gan safon uchel, blaengaredd ac amrywiaeth’, ac yn bwydo i fewn i ddiwylliant ehangach y celfyddydau perfformio yng Nghymru, diwylliant a fu’n ‘Sindarela’ i ffurfiau celfyddydol eraill Cymru ers mor hir.

author:Kate Woodward

original source: Barn
28 September 2004

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk