Theatre in Wales

Commentary and extended critical writing on theatre, dance and performance in Wales

Ymateb BARA CAWS i Atodiad C

Pwyllgor Addysg a Hyfforddiant ar ol l6 oed

l. Yn eich barn chi, ar wahan i ddarparu arian ychwanegol, beth ddylai/gall y Cynulliad ei gynnig i'r celfyddydau yng Nghymru a sut y gall y Cunulliad ddatblygu'i Bolisi Celfyddydau a Diwylliant terfynol ei hun?

Awgrymwn y dylid gwahanu'r Celfyddydau oddiwrth 'Addysg a Hyfforddiant ar ol l6 oed' ac apwyntio Ysgrifennydd gyda chyfrifoldeb dros ddiwylliant. Mae gennym amheuon am y model lle mae'r Cynulliad yn llywio ac ariannu'r Celfyddydau yn uniongyrchol. Mi fydd wastad angen asiantiaeth rhwng y cynulliad a'r gwneuthurwyr. Yn hynny o beth blaenoriaeth y Cynulliad fyddai i ddiwygio'r system bresennol er mwyn creu corff sydd fwy atbeol i'r cyfranogwyr a'r gwneuthurwyr.
Rydym yn cefnogi'r egwyddor hyd braich.


2. Beth ddylai prif egwyddor polisi'r celfyddydau a diwylliant yng Nghymru fod?

Rydym ni o'r farn mae hygyrchedd yw'r brif egwyddor i'r Celfyddydau yng Nghymru. Am ein bod ni'n gwmni theatr proffesiynol sydd yn mynd a'r theatr i'r gymuned, ein dadansoddiad ni o hygyrchedd yw cyrraedd y gynulleidfa ehangaf bosib. Wrth gwrs, mae'n sïwr fod gan y sawl sy'n gweithredu yn y theatr amatur / gymunedol ddadansoddiadau tra gwahanol i'n rhai ni. Ond, rhaid cofio fod gan y ddwy garfan rôl i'w chwarae mewn strwythur theatrig cenedlaethol sydd yn arddel hygyrchedd fel prif egwyddor. Ond, ni all datblygiad pellach yn y nifer sy'n profi theatr, boed yn aelod o gynulleidfa neu yn gyfranogydd, ddim ond digwydd drwy fwy o fuddsoddiad.

3. A ddylai egwyddor polisi o'r fath gael ei seilio ar y celfyddydau yng Nghymru neu ar Gelfyddydau Cymreig? Beth ddylai'r cydbwysedd rhwng y ddau fod?

Nid ydym yn hollol sïwr beth yw'r gwahaniaethau rhwng y Celfyddydau yng Nghymru a Chelfyddydau Cymreig. Os mai'r gwahaniaeth yw'r gwahaniaeth rhwng diwylliant Cymraeg traddodiadol a'r celfyddydau proffesiynol, yna yn ddiau mae yna rôl i'r ddau chwarae yn y Gymru gyfoes. Rydym yn credu fod yna ormod o bwyslais ar "amatur" yn yr hinsawdd bresennol a fydd yn y tymor hir yn ein tywys tuag at ddiffyg egni diwylliannol ac artistig.




4. O gael "llechen lân", sut fyddech chi'n awgrymu y dylai'r Cynulliad strwythuro ei drefniadau ar gyfer ariannu a rheoli/datblygu'r celfyddydau yng Nghymru?

O gael "llechen lân" credwn y byddai corff cytras i'r Cyngor Celfyddydau yn datblygu'n organig ac mewn amser byddai'n dioddef yr un problemau â CCC. Felly, nid oes unrhyw bwynt mewn cael gwared o'r Cyngor, yn hytrach rhaid diwygio ymarferion gwaith y corff presennol i sicrhau fod yna dryloywder ac atebolrwydd drwy ddilyn esiampl y Cynulliad.


5. Yn eich profiad chi, pa mor agored a hygyrch y mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi bod wrth wrando ar eich barn ac ymgymryd â'ch syniadau? Gan ddefnyddio'r Strategaeth Ddrama fel enghraifft, a ydych o'r farn fod y broses ymgynghori wedi'i rheoli'n dda neu a ddylid bod wedi gwneud pethau'n wahanol?

Yn y gorffennol rydym wedi cynnal perthynas adeiladol gyda Chyngor Celfyddydau Cymru, felly ni allwn siarad o safbwynt y rhai sydd wedi cael cam. Mae'n amlwg i ni fod y Cyngor wedi gwneud cryn dipyn o gamgymeriadau wrth iddo weithredu ei bolisi drama, polisi yr oeddem ni yn y bôn yn ffafriol iddo. Rydym o'r farn ei bod hi'n hen bryd i ddiwygio'r theatr Gymraeg ac i gael gwared a'r elfennau llai cynhyrchiol/llwyddiannus ohoni. Y gamp yw sut y mae asesu safon a chyfanrwydd artistig unigolyn neu gwmni? Pe tai Cyngor Celfyddydau wedi creu proses wrthrychol o asesiad, yna awgrymwn efallai na fuasai'r ffiasco diweddar wedi digwydd. Gonestrwydd yw'r allweddair. Yn anffodus mae "gwleidyddiaeth" wastad yn llesteirio'r broses.


6. A ydych o'r farn fod strwythur a threfn y Cyngor yn briodol i'w alluogi i ddatblygu strategaethau celfyddydau cenedlaethol a rheoli dosbarthiad arian y Cynulliad?

Nid ydym o'r farn fod Cyngor Celfyddydau Cymru, ar ei wedd bresennol, yn abl i weinyddu arian y Cynulliad er lles y gymuned gelfyddydol. Serch hynny, wedi ail strwythuriad yn dilyn y broses ymgynghorol hon, hyderwn y bydd y Cyngor
ar y cyd â'r Cynulliad, (a gobeithio Ysgrifennydd Diwylliannol Cymreig), yn abl i strategaethu ar gyfer dyfodol llewyrchus i'r Celfyddydau yng Nghymru. Gallwn ragweld model lle bydd y cwmnïau Cenedlaethol, banerlongau dawns/drama ac opera yn atebol ac yn cael eu hariannu yn uniongyrchol gan y Cynulliad. Bydd hyn o les i'r ddarpariaeth Genedlaethol Gymraeg ei hiaith, a bydd yn sicrhau cydraddoldeb gyda'r ddarpariaeth Saesneg ei hiaith, sydd ar hyn o bryd yn cael ei ffafrio. O brofiad mae'n amlwg nad oes gan y Theatr Gymraeg y pwer i ddenu arian o'r sector breifat. Yn hynny o beth, mae angen mwy o gefnogaeth gyhoeddus ar gyfartaledd i'r Theatr Gymraeg, neu o leiaf cydraddoldeb a'r iaith Saesneg.


7. Yn eich barn chi, a yw'r celfyddydau wedi'u cefnogi'n dda ar draws pob rhanbarth o Gymru, yn enwedig wrth hyrwyddo'r Gymraeg?

O ystyried canran y Cymru Cymraeg yng Nghymru, mae'r ddarpariaeth yn hanesyddol wedi bod yn eithaf da. Serch hynny, rydym yn pryderu yngly^n â holl natur ariannu'r 'Pwerdy' a'r oedi sydd wedi bod ynghylch â'r datblygiad. Wrth i'r iaith Gymraeg gynyddu yn ddaearyddol mae yma fwy o angen darpariaeth theatrig Gymraeg yn y de. Gwasanaeth yr ydym ni, yn dilyn cyngor y CCC, yn awyddus i'w gyflawni petai lefel ein grant yn caniatáu y fath esblygiad. Ein ofn ni yw na fydd y sefyllfa yn newid yn sgil dyfodiad y theatr Genedlaethol. Os ystyriwn y ddarpariaeth theatrau yng Nghymru, yn gyffredinol mae yna fuddsoddiad sylweddol wedi bod, ond oni bai y bydd yna fuddsoddiad yn y cynnyrch eu hunan, mi fyddai'r buddsoddiad yn y llwyfannau yn ofer oherwydd ni fydd yna
gynnyrch i'w lwyfannu a'i hyrwyddo.

8. A ydych yn cytuno â'r egwyddor o 'cyllido llai er gwell' h.y. sianelu adnoddau ar llai o fudiadau gyda golwg ar wella ansawdd y cynhyrchiadau yn sylweddol?

Mae angen theatr genedlaethol arnom i warantu cynnyrch o safon ar gyfer y gynulleidfa a hefyd i gynnig strwythur gyrfaol adeiladol ar gyfer y gwneuthurwyr. Ond, ni ddylai datblygiad theatr Genedlaethol fod ar draul cwmnïau bach megis cwmnïau prosiect a sgwennu newydd. Mewn hinsawdd theatrig cyffrous yr hyn sydd angen yw cydbwysedd rhwng y ddau er mwyn sicrhau fod y naill a'r llall yn bwydo oddi ar greadigrwydd ei gilydd. Siom oedd clywed nad oedd yr un grant prosiect drama wedi ei gynnig eleni oherwydd trafferthion ynghylch y strategaeth. O ganlyniad mae'n bosib na fydd yna ddrama gomisiwn yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

9. Pa gorff/gyrff ddylai chwarae rôl allweddol wrth reoli a dosbarthu arian Ewrop i'r celfyddydau?

Yr un corff ag sy'n dosbarthu'r grantiau.






10 Beth gall y celfyddydau gyfrannu at fynd i'r afael a dieithrwch cymdeithasol yng Nghymru a pha rwystrau sy'n atal unrhyw gynnydd ar hyn o bryd?

Mae'n hanfodol fod gennym ni asiantaeth lysgenhadol ar ran y celfyddydau yng Nghymru. Cenedl fechan ydym a thrwy ein diwylliant y mae modd i ni gyfreithloni ein hunan ar lwyfan rhyngwladol. Dyma wnaeth Quebec ac efallai y dylem ddilyn ei hesiampl. Byddai modd i'r Celfyddydau Rhyngwladol Cymru weithio'n agos gyda Ysgrifennydd diwylliant Cymraeg i godi ymwybyddiaeth o'n diwylliant cynhenid dramor.

11 Sut gall y celfyddydau gyfrannu at fynd i'r afael a dieithrwch cymdeithasol yng Nghymru a pha rwystrau sy'n atal unrhyw gynnydd ar hyn o bryd?

Nid ydym yn credu mai prif swyddogaeth y theatr yw ymdrin â dieithrwch cymdeithasol. Er hynny, credwn fod gan rai sectorau o'r proffesiwn fwy o allu i ymdrin â'r broblem, megis 'theatr i bobl ifanc'. (Yn wir, dan gyfundrefn gyda ysgrifennydd diwylliannol yn gyfrifol am ariannu ein celfyddydau, awgrymwn y posibilrwydd o adael theatr i'r bobl ifanc dan ofal y pwyllgor dros 16.) Credwn mai ein rôl ni yn Bara Caws yw i ddiddanu, symbylu a chyffroi cynulleidfaoedd ledled Cymru heb agenda addysgiadol, er wrth gwrs mae yna elfen addysgiadol a chymdeithasol i bob profiad theatrig. Mae gan theatr y gallu i uno a dylanwadu ar gwrs cymdeithas ac mae cymdeithas gyda bywyd artistig byrlymus yn un iach a gobeithiol.

12. Pa gymorth ddylai'r Cynulliad ei ddarparu i gynnal neu gynyddu hyfywedd ac incwm y diwydiannau creadigol yng Nghymru?

Buddsoddi'n well yn y cyfrwng. Mae gan pob math o theatr, o ddarpariaeth genedlaethol i'r gweithdy gyda phlant dan anfantais ei rôl yn y gymdeithas sydd ohoni. Yr hyn sy'n bwysig yw safon a rhagoriaeth. Gallwn gyflawni hyn drwy fuddsoddiad gwell. Rydym yn ffyddiog fod y Cynulliad yn ymwybodol fod ein diwydiannau diwylliannol yn chwarae rhan bwysig yn economi ein gwlad. Nid yw buddsoddi yn y Celfyddydau yn fuddsoddiad gwag, mae'n fuddsoddiad mewn sicrhau swyddi, yn arbennig mewn rhai ardaloedd llai breintiedig. Nid yw'r theatr yn eilitaidd. Mae ganddo rôl hanfodol i'w chwarae yn economi Cymru.


















--------------------------------------------------------------------------------

PARHAD O YMATEB BARA CAWS I ATODIAD C. - AROLWG O'R CELFYDDYDAU
PARTHED Y CYFARFOD 30 o FAWRTH YN THEATR GOLGEDD CYMRU LLANDUDNO.


THEMA
O SAFBWYNT THEATR BARA CAWS FEL THEATR GYMUNED

DATBLYGU RHAGORIAETH AC HYGYRCHEDD 1

GWELLA ANSAWDD BYWYD UNIGOLION A CHYMUNEDAU 2

ATGYFNERTHU HUNANIAETH GENEDLAETHOL A STATWS 3
RHYNGWLADOL CYMRU

PWYSIGRWYDD Y DIWYDIANNAU CREADIGOL I FYD GWAITH 3
YNG NGHYMRU

HYFFORDDIANT O DALENT AR GYFER Y PROFFESIWN 3

CEFNOGI ADDYSG A DINASYDDIAETH FYWIOG 6



author:Bara Caws

original source: National Assembly for Wales
24 March 2000

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk