Theatre in Wales

Theatre, dance and performance reviews

Theatr Genedlaethol Cymru

Theatr Genedlaethol Cymru- Plas Drycin , ar daith , February 24, 2005
Erbyn gweld, efallai nad y fi oedd yr un i fynd i adolygu Plas Drycin - ond mae'n debyg y byddai Cwmni Theatr Genedlaethol Cymru wedi bod yn falch o weld unrhyw un cyn belled nad Ceri Sherlock oedd ei enw!

Ond y gwir amdani yw nad ydw i yn gredwr mawr mewn ffars hyd yn oed mewn cysylltiad ag enwau fel Whitehall, Ray Cooney a Brian Rix er y gallwn werthfawrogi camp y storo slic a'r cynhyrchu llyfn y tu l i'r miri gorffwyll ar y llwyfan.

Ond er bod rhai o'r elfennau hyn yn Plas Drycin sydd ddim yn ffars yng ngwir ystyr y gair - ni allwn, wrth wylio'r perfformiad cyntaf yn Theatr Gwynedd, Bangor, beidio holi fy hun ai dyma'r math o gynhyrchiad a safon y mae rhywun yn ei ddisgwyl gan ein theatr genedlaethol.

Nid dweud yr ydw i fod ein Cwmni Theatr Genedlaethol uwchlaw perfformio ffars ac na ddylai ond anelu at yr uchel ael ond dweud y dylai fod rhyw sglein, rhyw elfen X yn perthyn i berfformiad cwmni cenedlaethol gyda'r sgrifennu wedi ei dwtio a'i gaboli i'r fath raddau ag i fod heb frychau a'r cynhyrchu mor llyfn nad ydych yn gweld y dechneg.

Yr oedd mwy o ddisgwyl hynny nag erioed yn dilyn y gernod gafodd y cynhyrchiad diwethaf y cwmni gan Ceri Sherlock. Hwn, wedi'r cyfan, oedd y cyfle cyntaf i'w ateb a gweithredoedd.

Ysgafn a joli
Wrth gael ei chanmol ar y radio, fore'r perfformiad cyntaf dywedodd yr awdur, Gwyneth Glyn; am ei drama;

"Mi fyddwn i'n annog pobol i fynd i'w gweld hi. Mae hi yn sbort, yn ddrama fach ysgafn, joli i'r teulu."

Ond awgryma'r geiriau theatr genedlaethol ynddynt eu hunain rywbeth mwy na hynny i mi. Rhywbeth gwell ac uwch na'r cyffredin gyda disgwyliadau rhywun yr un a mynd i weld yr RSC, dyweder, yn perfformio yn Lloegr.

Yr hyn mae theatr genedlaethol yn ei awgrymu i mi yw cyfle i weld hufen y proffesiwn mewn cynyrchiadau y byddai cwmnau eraill yn ymdrechu i ymgyrraedd atyn nhw.

Gadael yn fodlon
Er i'r gynulleidfa adael Theatr Gwynedd yn fodlon iawn 'r hyn a welodd ac er i'r chwerthin borthi'r jcs geiriol a gweledol yn gyson yn ystod y perfformiad ni allwn i yn fy myw deimlo inni gael y rhywbeth sbesial hwnnw a gysylltir a theatr genedlaethol gwlad bydded o ran sgrifennu neu o ran perfformiad.

Yn Theatr Gwynedd daeth rhywun i ddeall beth oedd gan Ceri Sherlock dan big ei gap pan gyfeiriodd at elfennau cynhyrchiad coleg neu yr hen weekly rep wrth sn am Romeo a Juliet gan na welwyd dim yno na allai Bara Caws, dyweder, fod wedi ei wneud gystal.

Ond ara deg rwan, rydw i'n prysur fynd i sn mwy am fy syniad i o rinweddau Theatr Genedlaethol nag am y cynhyrchiad hwn ac mae'n bwysig imi brysuro i ddweud i'r gynulleidfa yn Theatr Gwynedd ymddangos yn gwbl fodlon 'r hyn a welodd.

Ac yn y rhaglen fe eglurir mai man cychwyn i "gynllun i ddatblygu sgwennu newydd i'r Theatr Gymraeg gan awduron profiadol ac egin ddarmodwyr" yw y cynhyrchiad hwn gydag addewid o "sioe gomisiwn" ar gyfer yr hydref ac mae meithrin talent, wrth gwrs, yn rhywbeth i'w gymeradwyo a'i gymell.

Gallwn edrych ymlaen at ragor o gyfraniadau gan

Gwyneth Glyn er enghraifft gan fod mwy o addewid nag o ddiffygion ym Mhlas Drycin er y gellid fod wedi tynhau'r sgript a gwella'r stori.

Yn eistedd ymhlith nifer o ferched ieuanc yr oeddwn yn ymwybodol o lawer iawn o chwerthin a fyddai'n hwb i gwmni yn cychwyn ar daith o gwmpas Cymru.

Stori Plas Drycin
Ar noson ddrycinog o fellt a tharanau mae Iorwerth (Owen Arwyn), Ymgyrchydd Rhif 2 Brawdoliaeth Gweriniaeth Gwrtheyrn, yn torri i mewn i blasty sydd ar werth am bris na all pobl leol ei fforddio i osod bom yno er mwyn "deffro Cymru efo'r glec fwyaf a glywodd a erioed".

Ac yntau yn dal yn y t? daw gwerthwr tai (Jonathan Nefydd) yno gyda chwsmer posibl, Sue Roderick.

Ac fel sy'n digwydd mewn plastai ar nosonweithiau drycinog o fellt a tharanau a goleuadau'n diffodd cyrraedd rhagor o ymwelwyr annisgwyl gan gynnwys Nesta (Rhian Blythe), etifedd y plas, a'i chariad seimllyd, twyllodrus a holistaidd, Tristen (Dave Taylor) a'r lliwgar ac anhygoel Athro Celtaidd Rupert V Campbell (Wynford Ellis Owen) sydd wedi dysgu Cymraeg ac yn siarad yn amseroedd amherffaith a gorberffaith y ferf.

Yr olaf i ymuno 'r cwmni brith yw cantores Geltaidd hudolus os amhersain, Gennerys (Carys Eleri Evans) sydd hefyd yn dipyn o ddirgelwch.

Rhyngddyn nhw i gyd does dim rhyfedd fod yna dwyll, dichell, camddealltwriaeth, cyd-ddigwyddiadau, ysbryd, helynt a miri a lot fawr o hwyl.

O'r perfformiadau un Wynford Ellis Owen fel yr ysgolhaig Celteg ecsentrig gafodd y chwerthin mwyaf mewn perfformiad pantomeimaidd o dros ben llestri.

Rhyw fath o Wynff ap Concord gyda llais dwfn ac wedi cael addysg a'r dywediad "Clepiasodd y drws yn fy wyneb."

Perfformiad cynilach, a apeliodd fwy mewn gwirionedd ataf i, oedd un Sue Roderick fel gweddw gweinidog ramantaidd ei thueddiadau sy'n syrthio mewn cariad 'r gwerthwr tai yn y gred mai ef biau Plas Drycin.

Rhannau digon di-liw a roddwyd i'r ddwy ferch arall er i Carys Eleri Evans wneud yn fawr o'i chyfle i 'ganu'n Geltaidd' - gyda'r olwg ar wyneb WEO yn bictiwr fel yr oedd hi wrthi!

Neis ond gwastraffus
Gair cyn gorffen am y rhaglen. Rwy'n si?r i Greenpeace gynnal protestiadau yn gwrthwynebu llai o wastraff papur na hyn.

Yn costio dwybunt mae'n felyn llachar ac yn drawiadol iawn ei diwyg ond o bapur trwchus gyda naw o'i dalennau yn wg neu bron a bod yn wg i bob pwrpas.


Efallai y gellid sgwennu drama am y twll adawyd ganddi yn fforest yr Amazon.

Reviewed by: Glyn Evans

back to the list of reviews

This review has been read 1557 times

There are 37 other reviews of productions with this title in our database:

 

Privacy Policy | Contact Us | © keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk