![]() “ Her y dramodydd yw darganfod stori sydd yn ‘bwysig’ iddo i’w rannu. S yw’r stori yn peri i’r galon danio yna yn sicr fydd y sparc yn tanio yng nghalonnau’r gynulleidfa. Heb y sparc y peryg yw mai ond geiriau yw’r ddrama, sy’n disgrifio emosiwn ac nid rhywbeth y gallwn brofi. Mae pob drama yn daith ddramatig a herfeiddiol i’r dramodydd. Yn y dechrau yn hedyn i’w drafod - boed yn lluniau, yn gerddoriaeth, yn atgofion, yn dân ar groen. Yna yn ddrafft cyntaf, yn drafodaeth, yn gyfnod i feddwl ac ail-feddwl a chysgu ar y syniad. Yna cyfarfod a phatrwm newydd a chynllun i greu'r ail ddrafft a thrafodaeth bellach. Y cam anturus wedyn i gastio'r actorion, cael go ar weithdy a thrafodaeth bellach. Mynd ati wedyn i ail-ysgrifennu i greu drafft ymarfer, eistedd a gwylio’r actorion yn cynnig syniadau llwyfannu a chymeriadu, a’r gam olaf i mewn i’r theatr ac i glywed ymateb y gynulleidfa am y tro cyntaf ac yn y cyntedd wedi’r sioe…. Er mai rhywbeth tebyg i hyn yw’r daith bob tro, gwahanol iawn fu fy mhrofiad o weithio ar bob un ddrama a hynny oherwydd lleisiau a chymeriadau unigryw pob un dramodydd. Ar her fwyaf i mi oedd dysgu sut i wir wrando ar ei stori a cheisio dyfalu'r ffordd fwyaf dramatig i’w llwyfannu. Ambell waith mae’r broses cyfarwyddo yn parhau wedi i’r ddrama gau a’r ymennydd yn asesu a chwestiynu'r penderfyniadau a’r syniadau ymhell ar ôl i’r gynulleidfa adael. Ond dyma’r ffordd i esblygu a deall y grefft fwy mwy, sef bod yn agored i gysidro cyn bwrw ymlaen at her y ddrama nesaf sydd yn barod i’w llwyfannu.” |
Sgript Cymru web site: www.sgriptcymru.com |
e-mail: |
Thursday, February 1, 2007![]() |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999