Bydd y dramodydd o Gymru, Mark Jenkins (awdur adnabyddus Playing Burton) yn dychwelyd i Ganolfan Mileniwm Cymru ym mis Mawrth gyda'i gynhyrchiad eithriadol o Rosebud: The Lives of Orson Welles, a enillodd ddwy wobr yng Ngwyl Ymylol Caeredin yn 2004. Rosebud yw un o nifer o berfformiadau drama sy'n dod i Stiwdio Weston y Ganolfan ym mis Mawrth ynghyd â chynyrchiadau gan The Trap, Cwmni Theatr Red Shift a The Black Sheep i enwi ond rhai. Y perfformiad cyntaf i ymddangos yn Stiwdio Weston yw llwyddiant mawr G_yl Ymylol Caeredin Bad Play (15 Mawrth) a berfformir gan The Trap. Mae'r gr_p wedi ymddangos mewn nifer o sioeau poblogaidd gan gynnwys Harry Enfield & Chums a My Hero gan y BBC, Distraction Channel 4 a The In Crowd Radio 4. Mae Bad Play yn wledd ddwy awr sy'n si_r o wneud i'r gynulleidfa cherthin yn uchel. Nesaf ar agenda Stiwdio Weston mae C-90 gan Daniel Kitson a berfformir am ddwy noson o 18-19 Mawrth. Mae'n ddrama rymus am obaith, atgofion, caredigrwydd a diwrnod olaf dyn mewn swydd nad oedd yn bodoli mewn gwirionedd. Mae C-90 yn canolbwyntio ar y pethau bach mewn bywyd a pha mor anhygoel o bwysig ydynt: y gweithredoedd bach o garedigrwydd na chânt eu gweld, cymryd amser i wrando, pwysigrwydd nodi terfyn pethau a pheidio â chadw pobl a bywyd ar hyd braich. Enillodd y perfformiad Fringe First i Daniel Kitson yng Ng_yl Caeredin yn 2006 a'r sioe Unigol Orau yng Ngwobrau'r Llwyfan. Yn dilyn eu perfformiad gwych o Get Carter y llynnedd, daw Cwmni Theatr Red Shift yn ôl ar 21 Mawrth gyda drama newydd; Vertigo ac ailadroddiad llenyddol o glasur seicolegol, cyffrous Hitchcock sy'n neidio o un genre i'r llall. Mae'r cynhyrchiad hwn yn cynnwys diwedd cystal â The Usual Suspects. Mae Red Shift yn defnyddio nofel wreiddiol Vertigo, gan osod y ddrama yn erbyn cefndir ymosodiad yr Almaen ar Baris yn y 1940au. Byddwch yn barod am daith gyffrous o gomedi croch, poenus gyda'n perfformiad nesaf, The Black Sheep: The Joy of Wine (24 Mawrth). Yn yr awr gymeradwy hon o gomedi cymeriad mae gan y Parchedig Andrew Jones yr orchwyl o droi ludiaid sy'n yfed cwrw i yfed diod y brenhinoedd. Wedi'i gynorthwyo'n abl gan brofwr gwin gwirion-ddoeth Ciaran Murtagh, bydd y Parchedig yn newid y ffordd rydych yn teimlo am win am byth. Y darn terfynol o theatr yn Stiwdio Weston ym mis Mawrth yw gwaith Jenkins Rosebud: The Lives of Orson Welles sydd i'w weld ar bum noson yn olynnol o 31 Mawrth - 4 Ebrill. Mae'r awdur Jenkins a'r cyfarwyddwr Josh Richards yn cyfeirio at waith a bywyd Welles yn helaeth. Mae Rosebud yn ddarn bywgraffiadol sy'n manylu ar fywydau a chariadon Orson Welles, yn ddiau athrylith mwyaf enigmatig ein hoes. Mae Rosebud yn ailymweld ag uchafbwyntiau ieuenctid Welles a'r alltudiaeth ddilynol o Hollywood, gan adrodd hanes dyn a ddechreuodd ar y brig gan weithio ei ffordd i lawr mewn perfformiad un-dyn o'r radd flaenaf. Mae Rhaglennydd Theatr Canolfan Mileniwm Cymru, Louise Miles-Crust yn dweud, "Mae gennym gyfuniad gwych o sioeau yn Stiwdio Weston yn ystod mis Mawrth ac mae drama'n amlwg iawn yn y rhaglen. Mae'n bleser gennym groesawu Mark Jenkins yn ôl i'r Ganolfan ar ôl llwyddiant Playing Burton yn 2004 yn ogystal â newydd-ddyfodiaid megis Daniel Kitson a The Trap.” Am ragor o wybodaeth ac i archebu tocynnau, cysylltwch â'r Swyddfa Tocynnau a Gwybodaeth ar 08700 40 2000 neu edrychwch ar y wybodaeth a'r system e-archebu ddiogel yn www.wmc.org.uk |
Canolfan y Mileniwm web site: www.wmc.org.uk |
e-mail: |
Thursday, February 8, 2007![]() |
Other related news stories on the Theatre in Wales web site : |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999