Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Beth yw “Performance” yn Gymraeg?     

Beth yw “Performance” yn Gymraeg? Timothy Emlyn Jones a John Chris Jones .......22 Chwefror 2007 - 6pm
gyda gwestai arbennig: Andrew Knight

::Bydd Timothy Emlyn Jones, John Chris Jones ac Andrew Knight yn sgwrsio am eu cyfraniad i’r rhaglen berfformio ryngwladol yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam ym 1977. (Ymysg yr arddangoswyr oedd Joseph Beuys, Mario a Marisa Merz a Jannis Kounellis; ac yr artist Cymreig, Paul Davies).

LLeoliad: Cardiff School of Art and Design, Howard Gardens, Caerdydd CF24 0SP

Mynediad am ddim - i gadw lle, cysylltwch â mail@performance-wales.org. 07980-981355.

Yn Saesneg.

‘Eleni, hefyd, mewn cydweithrediad â Chyngor Celfyddydau Cymru, ‘rydym yn cyflwyno rhywbeth sy’n hollol newydd ar faes yr Eisteddfod – Celfyddydau Berfformiadol. Yn yr ail bafiliwn fe gynigiwn daith drwy amser a thrwy’r byd Celtaidd gyda golwg newydd ar yr etifeddiaeth Geltaidd mewn ffordd sydd heb fod yn hollol draddodiadol: fe fydd yno arddangosfa o ddelweddau a phrintiadau a phob diwrnod fe fydd gwahanol arlunwyr yn datgan eu neges, nid trwy arlunio a cherflunio, ond trwy berfformio er mwyn ysgogi trafodaeth a sgwrs gyda’r gynulleidfa. Disgwyliwn I hyn fod yn un o’r digwyddiadau mwyaf cyffrous ym myd celfyddyd yn y blynyddoedd diweddar yng Nghymru.’
(Eisteddfod Genedlaethol Frenhinol Cymru. Y Rhaglen Swyddogol. Wrescam a'r Cylch 1977)

Ym 1977 trefnodd Cyngor Celfyddydau Cymru arddangosfa wythnos o hyd oedd yn cynnwys celfyddyd perfformio ryngwladol yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam. Cafodd y digwyddiad, oedd â’r teitl Fel y darfu’r gorffennol - fel y del y dyfodol, ei guradu o dan faner y Free International University gan Caroline Tisdall, oedd ar y pryd yn feirniad celf y Guardian, a Timothy Emlyn Jones, ac ymysg yr arddangoswyr oedd Joseph Beuys, Mario a Merisa Merz, Jannis Kounellis, Brian O’Doherty/Patrick Ireland, Rose Finn-Kelcey, Tina Keane, Nigel Rolfe, John Chris Jones a Timothy Emlyn Jones (ac eraill). Roedd ymateb y wasg gyhoeddus yn rhagweladwy, gan iddynt gondemnio’r fenter fel ‘gwastraff arswydus o arian cyhoeddus’, a gofynnwyd cwestiynau i Ysgrifennydd Cymru am y mater. Daeth y digwyddiad hefyd yn adnabyddus oherwydd yr artist Cymreig lleol Paul Davies. Ystyrir bod ei ymyriadau (answyddogol) Welsh Not a Spiral Gag a grëwyd yn yr Eisteddfod yn ‘gychwyn ar gelfyddyd wleidyddol Gymreig gyfoes hunanymwybodol’ (Shelagh Hourahane).
 
Timothy Emlyn Jones yw Deon Coleg Celf Burren. Yn wreiddiol roedd yn artist perfformio, yn arddangos gyda Beuys, Stuart Brisley a John Latham, ond mae ei waith diweddar wedi canolbwyntio ar ddarlunio perfformiadol fel proses o ymholi. Mae’n arddangos yn rhyngwladol ac wedi’i gynnwys mewn casgliadau cyhoeddus mewn nifer o wledydd.
 
Bu John Chris Jones yn arloeswr ym maes dylunio systemau ac ymchwil dyfodolion. Ystyrir ei lyfr Design Methods yn arf cyfeiriol safonol i ddylunwyr. Mae ei agwedd at ysgrifennu a chyhoeddi yn hynod o berfformiadol, gan iddo ddefnyddio yn aml dulliau cyfansoddi ar hap. Dros y blynyddoedd diwethaf mae wedi archwilio ysgrifennu ar y we fyd-eang, gan ddyfeisio i bob pwrpas yr hyn a elwir bellach yn flog ar y we (softopia.demon.co.uk).
 
Bydd Timothy Emlyn Jones, John Chris Jones ac Andrew Knight yn sgwrsio am eu cyfraniad i’r rhaglen berfformio ryngwladol yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam ym 1977.


Beth yw “Performance” yn Gymraeg? (What's Welsh for Performance?)
- Hanes Llafar Celfyddyd Perfformio yng Nghymru

Cyfres o ddigwyddiadau dros ddwy flynedd yn ymwneud ag artistiaid allweddol sydd wedi siapio datblygiad celfyddyd perfformio yng Nghymru ers 1968. Bydd cyfweliadau cyhoeddus gydag Ivor Davies, Roland Miller, Shirley Cameron, Anthony Howell, Timothy Emlyn Jones a John Chris Jones yn cyflwyno i'r gynulleidfa agwedd o hanes celf Cymru sydd wedi'i hesgeuluso hyd yma, ond eto sy'n faes hynod o bwysig.

Bydd deunydd dogfennol helaeth (fideos, sleidiau, darluniau ayyb) yn cael eu harddangos fel rhan o bob sgwrs.
Bwriedir cyhoeddi cyfrol i gyd-fynd â'r gyfres yn 2007.

Hydref 2006 - Ionawr 2008

Tymor 1 (2006-7):
Ivor Davies .......... 12 Hydref 2006 6pm
Shirley Cameron & Roland Miller .......... 23 Tachwedd 2006 6pm
Timothy Emlyn Jones & John Chris Jones ...22 Chwefror 2007 6pm
Anthony Howell .......... 15 Mawrth 2007 6pm.


Prosiect: Dr Heike Roms
Mewn cydweithrediad â SHIFTwork Time Based Art Research Group, Cardiff School of Art and Design (Director: André Stitt).
Ariannwyd gan: Gyngor Celfyddydau Cymru.
Gyda chefnogaeth: Prifysgol Cymru Aberystwyth; Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd; Chapter.

performance wales  
web site
: www.performance-wales.org
Heike Roms
e-mail:
Tuesday, February 20, 2007back

Other related news stories on the Theatre in Wales web site :

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk