Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

beth yw ‘performance’ yn gymraeg? what’s welsh for performance? – Hanes Llafar Celfyddyd Perfformio yng Nghymru     

beth yw ‘performance’ yn gymraeg? what’s welsh for performance?
– Hanes Llafar Celfyddyd Perfformio yng Nghymru Lleoliad: Cardiff School of Art and Design, Howard Gardens, Caerdydd CF24 0SP
Mynediad am ddim – i gadw lle, cysylltwch â mail@performance-wales.org.
07980-981355. Yn Saesneg.

“As yet there exists no grammar covering performance’s discipline, a discipline which is nevertheless clearly distinct from that of theatre. Initially I set out to rectify this absence of a grammar. I took colour as my model. Aside from black and white, painting has three indivisible primaries. Mixing these produces secondary colours. Similarly, performance has three primaries, and these may be mixed to create secondary actions. The primary actions are stillness, repetition and inconsistency.”
[A. Howell, The Analysis of Performance Art – A Guide to its Theory and Practice, 1999]

Mae Anthony Howell yn fardd, nofelydd ac yn artist perfformio. Sefydlodd a bu’n gyfarwyddwr The Theatre of Mistakes - cwmni perfformio arloesol yn y saithdegau, a bu’n arddangos gwaith gyda hwy mewn nifer o leoliadau celf rhyngwladol nodedig o Oriel y Tate i’r Biennale yn Sydney. Mae hefyd wedi cyhoeddi nofel a nifer o lyfrau barddoniaeth ac mae wedi darlithio’n eang ar ei waith perfformio. Ef yw awdur The Analysis of Performance Art, a chydawdur Elements of Performance Art, y casgliad cyntaf o ymarferion perfformio. Mae wedi hyfforddi fel dawnsiwr bale, ac yn ddiweddar datblygodd ‘Tango Art’ –asiad o’r tango a chelfyddyd perfformio, ac mae wedi teithio’n eang gyda hwn.
Am nifer o flynyddoedd bu Howell yn Uwch-ddarlithydd Time-Based Art yn Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd. Yn ystod y cyfnod hwn roedd yn olygydd ar Grey Suit: Video for Art & Literature – cylchgrawn perfformio dylanwadol a ddosbarthwyd ar VHS – ac yn drefnydd Cardiff Art in Time, g_yl celfyddyd perfformio a fideo fwyaf bywiog y DU yn ystod y 1990au.

::Bydd Anthony Howell yn sgwrsio am ei waith ei hun, sîn perfformio Caerdydd yn ystod y 1990au a’i ymrwymiad â Grey Suit a Cardiff Art in Time.

Beth yw “Performance” yn Gymraeg? (What’s Welsh for Performance?)
– Hanes Llafar Celfyddyd Perfformio yng Nghymru

Cyfres o ddigwyddiadau dros ddwy flynedd yn ymwneud ag artistiaid allweddol sydd wedi siapio datblygiad celfyddyd perfformio yng Nghymru ers 1968. Bydd cyfweliadau cyhoeddus gydag Ivor Davies, Roland Miller, Shirley Cameron, Anthony Howell ac eraill yn cyflwyno i’r gynulleidfa agwedd o hanes celf Cymru sydd wedi’i hesgeuluso hyd yma, ond eto sy’n faes hynod o bwysig.
Bydd deunydd dogfennol helaeth (fideos, sleidiau, darluniau ayyb) yn cael eu harddangos fel rhan o bob sgwrs. Bwriedir cyhoeddi cyfrol i gyd-fynd â’r gyfres yn 2007.



Prosiect: Dr Heike Roms; mewn cydweithrediad â SHIFTwork Time Based Art Research Group, Cardiff School of Art and Design.
Ariannwyd gan: Gyngor Celfyddydau Cymru.
Gyda chefnogaeth: Prifysgol Cymru Aberystwyth; Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd; a Chapter.
Performance Wales  
web site
: www.performance-wales.org

e-mail:
Monday, March 12, 2007back

Other related news stories on the Theatre in Wales web site :

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk