![]() Pan berfformir addasiad llwyfan o nofel enwog Islwyn Ffowc Elis, Cysgod y Cryman, mewn theatr yn Llundain fis nesaf bydd llond bws wedi’i drefnu gan ffermwraig o Wynedd yn hwb o’r gynulleidfa. Cafodd Megan Lloyd Williams o Gwm Ystradllyn ger Porthmadog y syniad o deithio i Lundain o weld cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru o Cysgod y Cryman ar ôl methu cael tocyn ar gyfer un o’r perfformiadau yn ystod y daith diweddar gyda’r ddrama o gwmpas prif theatrau Cymru. “Doedd yna ddim tocyn ar ôl ym Mangor, Ywr Wyddgrug, Aberystwyth, Aberteifi na Chaerfyrddin,” meddai. “Doedd gen i ddim dewis ond sicrhau bws a gwadd rhgai erailgafodd yr un siom i deithio i weld y cynhyrchiad yn Llundain,” ychwanegodd. Llwyfannir Cysgod y Cryman yn Theatr Bloomsbury, sy’n dal cynulleidfa o hyd at 560, ar nos Iau, Ebrill 5, 2007, am 7.30 o’r gloch. Lleolir y theatr yn Stryd Gordon ger gorsafoedd tren danddaearyddol Euston, Sgwâr Euston, Stryd Goodge and Stryd Warren. Yr prif orsaf agosaf yw Euston. Dyma’r tro cyntaf i Theatr Genedlaethol Cymru deithio’r tu hwnt i Glawdd Offa gyda chynhyrchiad. “Er mai theatrau Cymru sy’n cael blaenoriaeth rwy’n credu bod yna gynulleidfaoedd i Theatr Genedlaethol Cymru’n arbennig yn Llundain,” meddai Rheolwr Cyffredinol Theatr Genedlaethol Cymru, Sion Hughes. “Bydd hyn hefyd yn rhoi cyfle pellach i’n actorion, dramodwyr a chyfarwyddwyr i arddangos eu talentau,” ychwanegodd. Mae plot Cysgod y Cryman yn ymwneud â’r newidiadau sy’n wynebu’r teulu Lleifior, fferm yn Nyffryn Dychmygol Aerwen yng Ngogledd Powys, wrth i sicrwydd traddodiad wynebu her o gyfeiriad ideoleg, gwleidyddol a chymdeithasol ddaeth yn sgil y Rhyfel Oer. Mae’r gwrthdaro’n anorfod. Mae’r addasiad ar gyfer y llwyfan gan y dramodydd, nofelydd a phrifardd, Siôn Eirian ac wedi’i selio ar gynhyrchiad Saesneg ganddo rai blynyddoedd yn ôl ar gyfer cyfres ‘The Classic Play’ ar BBC Radio 4 ac a wnaeth gyda chydweithrediad llawn Islwyn Ffowc Elis ei hun. “Ni fu erioed cymaint o brynu a darllen ar nofel Cymraeg ag a fu ar Cysgod y Cryman,” meddai Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru, CefinRoberts. “Mae cenedlaethau o ddisgyblion ysgol wedi astudio’r nofel, a ddewiswyd yn lyfr Cymraeg mwyaf poblogaidd yr ugeinfed ganrif, a datblygodd hanes Harri Vaughan a gweddill teulu Lleifior yn rhan o’n chwedloniaeth,” ychwanegodd. Bu’r daith diweddar gyda’r ddrama o gwmpas prif theatrau Cymru’n lwyddiant ysgubol gyda hyd ar 6,000 o docynnau wedi’i gwerthu ar gyfer 17 perfformiad – gyda phob tocyn wedi’u gwerthu ar gyfer naw o’r perfformiadau hynny. “Er bod ‘Cysgod y Cryman’ yn nofel ei chyfnod ac yn ymdrin ag egwyddorion comiwnyddiaeth mae’n anhygoel bod ei hapêl wedi goroesi yn bell ar ôl i’r llen haearn ddiflannu,” ychwanegodd Cefin Roberts “Os y bu angen prawf o lenyddiaeth fawr erioed - dyma fo,” meddai. Dylai’r rhai fethodd â sicrhau tocyn ar gyfer perfformiad yng Nghymru ac sy’n awyddus teithio i Lundain gysylltu â Megan Lloyd Williams ar 01766 530319. |
Theatr Genedlathol Cymru web site: www.theatr.com |
e-mail: |
Wednesday, March 21, 2007![]() |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999