![]() Drwy gyfres o olygfeydd byr a chaneuon i uno’r cwbl ynghyd, fe gawsom gip ar hanes y Cantre unigryw yma, gyda’r brenin a’i deulu yn gwledda a diota, gan beri i Seithennyn y meddwyn mawr esgeuluso ei ddyletswyddau fel ceidwad y môrglawdd, ac i’r ddinas gael ei boddi o dan y d_r. Wrth wylio’r sioe, daeth golygfeydd o’r Tsunami a darrodd Asia yn 2004 i gof, gan ddychmygu’r panic a’r pryder fyddai’n sicr o fod wedi bod mor amlwg yn y ddau le. Diwedd y sioe oedd unig wendid y cynhyrchiad gan fod y cyfan yn dod i ben mor sydyn drwy un gân ddi-gyfeiliant. Collwyd y cyfle i gyfleu golygfa llawn emosiwn a thristwch o’r ddinas a’i thrigolion wrth iddynt suddo o dan y d_r gan adael y clychau yn canu am byth. Gan nad oedd sôn am raglen i enwi’r unigolion a gymerodd ran, byddai’n anheg imi enwi ambell i wyneb cyfarwydd ynghanol y môr o wynebau. Cafwyd sawl cameo arbennig iawn fel y teulu brenhinol – yn enwedig y ferch a’i nain feddwol (oedd yn fy atgoffa o deulu brenhinol arall llawer mwy diweddar!) ac ysgrifennydd y llys wrth geisio cyfansoddi’r gwahoddiadau i’r Wledd. Roedd Seithennyn ei hun a’i lais swynol a’r criw ifanc oedd yn ein tywys drwy’r stori i gyd yn ychwanegu at lwyddiant y cyfanwaith hwn. Clod mawr i Huw Erith am ei ddawn i greu sgript gomedi gre’ a chyfoethog o dafodiaith Ll_n oedd yn bleser i’w glywed ac yn donic ar Nos Sul gwlyb iawn! Dwi am aros yn yr ardal yma er mwyn llongyfarch Huw Geraint Griffith o ardal Cricieth wedi iddo ennill gwobr arbennig am ei gyfraniad i fyd y ddrama gerdd, sef Gwobr HUGO a gafodd ei gyflwyno iddo yn Theatr Upstairs at the Gatehouse yn Llundain yr wythnos diwethaf. Mae Huw sy’n byw ac yn gweithio yn Llundain wedi bod yn rhan allweddol o sawl cynhyrchiad theatr yn y Gatehouse sef gofod theatr arbennig sy’n cynnig cyfle i gwmniau fedru arbrofi gydag unrhyw sioe newydd cyn mentro ymhellach. Llongyfarchiadau unwaith yn rhagor i Daniel Evans sydd wedi derbyn enwebiad am un o Wobrau Olivier am ei bortread o’r arlunydd George Seurat yn y ddrama gerdd o waith Sondheim ‘Sunday in the Park with George’. Yn ogystal ag enwebiad am yr actor gorau mewn drama gerdd, mae’r sioe wedi derbyn sawl enwebiad am elfennau gwahanol o’r cynhyrchiad. Bydd rhaid aros tan Chwefror 18fed cyn cael gwybod pwy fydd wedi ennill. Ym mis Chwefror hefyd gawn ni glywed os fydd Daniel a Connie Fisher yn llwyddiannus yng Ngwobrau ‘What’s on Stage’ wedi i’r ddau gael eu henwebu gan y cyhoedd. Cofiwch am y sioeau sydd i’w gweld yr wythnos hon sef Meini Gwragedd gan Gwmni Cydweithredol Troed-y-Rhiw yn Neuadd Goffa Tregaron Nos Wener 26ain a Nos Sadwrn 27ain am 8.00yh. Bydd cwmni Theatr y Crwys hefyd yn perfformio eu panto ‘Del Eila a’r Cwangosiaid’ ar nos Sadwrn y 27ain yn Theatr Capel Crwys, Caerdydd am 2.30yh a 7.30yh. |
Y Cymro web site: |
Paul Griffiths e-mail: |
Friday, January 26, 2007![]() |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999