Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

MEISTR CHWERTHIN     

MEISTR CHWERTHIN Bydd drama un o feistri comedi lenyddiaeth y byd Gorllewinol yn cychwyn ar daith o gwmpas prif theatrau Cymru, yn ogystal ag un perfformiad yn Llundain, fis nesaf.

Cyfieithiad yw Cariad Mr Bustl o Le Misanthrope ou l’Atrabilaire amoureux gan y dramodydd Ffrengig o’r ail ganrif a’r bymtheg, Molière. Ystyrir y ddrama gan lawer yn un o’i gampweithiau mwyaf ac mae’r cyfieithiad gan yr awdur a’r dramodydd toreithiog, Gareth Miles.

Comedi foesau yw Cariad Mr Bustl ac mae’n dynodi diwedd tymor o bedair drama glasurol gan Theatr Genedlaethol Cymru.

“Hyd yn hyn mae’r tymor, a ddechreuodd gyda drama Saunders Lewis, Esther, ac yna Diweddgan gan Samuel Beckett a’r addasiad llwyfan o nofel enwog Islwyn Ffowc Elis, Cysgod y Cryman, wedi denu cynulleidfaoedd o ragor na 12,000 o bobl,” meddai Swyddog Marchnata Theatr Genedlaethol Cymru,” Elwyn Williams.
“Bydd Cariad Mr Bustl eto’n sicr o daro deuddeg ymysg ein cynulleidfa cynyddol a ffyddlon,” ychwanegodd.

Yn hytrach na chadw at y Llys Ffrengig gwreiddiol adleolir Cariad Mr Bustl un nauddegau’r ganrif ddiwethaf ac mae’r ddrama’n cylchdroi o gwmpas ymgais nifer o ddynion i ddenu serch gwraig weddw gyfoethog a deniadol. Mae’r plot yn ymwneud ag ymgais dyn i foesoli byd llygredig gyda’r prif gymeriadau’n dadlau’r hawl o leisio barn beth bynnag y canlyniadau. Y canlyniad yw comedi sy’n difyrru’r glust a’r llygad.

“Llwyddodd Molière gyfuno elfennau ffars y Commedia del’Arte Ffrengig gyda chomedi mwy soffistigedig ei gyfnod,” meddai Cyfarwyddwr Artistig Cynorthwyol Theatr Genedlaethol Cymru, Judith Roberts,
“Er i Le Misanthrope, gyda’i helfen gref o foesoli, achosi cryn st?r pan gafodd ei llwyfannu gyntaf ym 1666 mae’r ddrama wedi goroesi ac yn hawlio’i lle fel drama enwocaf Molière,” ychwanegodd.

Gellir gweld Cariad Mr Bustl yn;
• Theatr Sherman, Caerdydd ar nosweithiau Iau a Gwener, 3-4 Mai, 2007.
• Canolfan Gelfyddydau Taliesin, Abertawe, ar nosweithiau Iau a Gwener, 10–11 Mai, 2007.
• Theatr Gwynedd, Bangor, ar nosweithiau Mercher, Iau, Gwener a Sadwrn, 15–18 Mai, 2007.
• Theatr Bloomsbury, Llundain, ar nos Fawrth, Mai 29, 2007.
• Canolfan Celfyddydau Aberystwyth ar nosweithiau Gwener a Sadwrn, 1-2 Mehefin, 2007.
• Clwyd Theatr Cymru, Yr Wyddgrug, ar nos Fawrth, Mehefin 5, 2007.
• Theatr Mwldan, Aberteifi, ar nosweithiau Gwener a Sadwrn, 8–9 Mehefin, 2007.

Bydd pob perfformiad yn dechrau am 7.30 o’r gloch.

Mae’r 10 o aelodau cast Cariad Mr. Bustl yn cynnwys Huw Garmon, fu’n chwarae rhan Hedd Wyn yn y ffilm o’r un enw a enwebwyd ar gyfer yr Oscar, yn ogystal ag actorion llwyddiannus ac amlwg eraill ar lwyfan a theledu fel Llion Williams, Rhian Morgan, Jonathan Nefydd a Mirain Haf.

“Er bod Cariad Mr. Bustl yn dirwyn ein tymor o ddramâu clasurol i ben y mae yna sawl agwedd newydd sbon i’r cynhyrchiad,” ychwanegodd Elwyn Williams.
“Mae’n gyfieithiad nad sydd wedi’i pherfformio o’r blaen a dyma’r tro cyntaf i Theatr Genedlaethol Cymru lwyfannu cynhyrchiad o waith Molière - ond yn fwy na dim y mae’n ddrama sy’n hwyl gynddeiriog,” meddai.
theatr genedlaethol cymru  
web site
: www.theatr.com

e-mail:
Sunday, April 15, 2007back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk