BRANWEN
|
Yn dilyn taith lwyddiannus iawn yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd; mae Llwyfan Gogledd Cymru wedi penderfynu mynd â’r cynhyrchiad Branwen ar daith eto mewn theatrau dethol ar draws Cymru ac Iwerddon yn ystod Mai 2007, yn ogystal â dyddiad ychwanegol yng Nghlwb Cymru, Llundain ar yr 16eg o Fehefin.
Stori am ddau ysgrifennwr yw Branwen, un Gwyddelig ac un Gymraeg, sy’n cael eu gwthio at ei gilydd i greu sgript ar gyfer ffilm wedi’i animeiddio o’r chwedl Branwen o’r Mabinogion (fersiwn Gymraeg o “An Tain”). Yn y ddrama, sylweddolwn fod yr ysgrifenwyr yn adnabod ei gilydd yn barod o’u dyddiau prifysgol, 15 mlynedd yn ôl roeddent yn gariadon, ond mae llawer yn newid mewn pymtheg mlynedd - i bobl a chenhedloedd.
Mae chwedl y Mabinogion yn stori am dywysoges Gymreig sy’n briod â brenin Gwyddelig - “Efallai mai hwn oedd y bartneriaeth draws Geltaidd cyntaf”; meddai Eifion, y cynhyrchydd ffilm yn y ddrama.
Mae’r ddrama yn gynhyrchiad tair iaith (Saesneg, Cymraeg, a Gwyddelig) wedi ei berfformio yn defnyddio y diweddaraf mewn technoleg digidol ac amlgyfrwng i greu’r set a thaflunio cyfieithiad o’r deialogau Gwyddeleg a Chymraeg, sy’n cael ei ddisgrifio orau fel -
"The gorgeous combination of the three languages will be music to anyone's ears." IRISH METRO
Esbonir Ian Rowlands, Cyfarwyddwr Artistig Llwyfan Gogledd Cymru; “Fel cwmni rydym yn ceisio darparu i’n cynulleidfaoedd adloniant yn ogystal a’r profiad theatrig llawn. Rydym o hyd yn edrych am ffyrdd i gyd-weithio ar gynhyrchiadau ac i weithio yn arloesol er mwyn dod a dimensiwn newydd i’r theatr yng Nghymru.
“Mae yna gyflin clir rhwng stori y ddrama, a’r broses a ddefnyddir i ddatblygu’r cynhyrchiad, sef i uno argoelion a phrofiadau Cymraeg a Gwyddelig. Rydym yn hyderus bod hyn yn cael ei adlewyrchu yn y gwaith gorffenedig a bod Branwen yn cynhyrchiad gwir a gonest.”
BRANWEN – chwedl fodern am gariad dros Fôr Iwerddon.
CAST
Dafydd Dafis
Ffion Dafis
Lochlann O’Mearain
Bridin Nic Dhonncha
Dafydd Dafis - Yn wreiddiol o Rosllannerchrugog, mae Dafydd wedi gweithio i sawl theatr a chwmni teledu wedi hyfforddi yng Ngholeg Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd. Mae Dafydd hefyd yn gerddor ac wedi rhyddhau Cryno Ddisg.
Ffion Dafis – Yn wreiddiol o Fangor ond nawr yn byw yng Nghaerdydd. Mae Ffion wedi actio mewn sawl drama deledu, yn bennaf Amdani, yn ogystal â chynyrchiadau drama i Hwyl a Fflag a Chwmni Theatr Gwynedd. Mae Ffion hefyd wedi treulio amser yn Academi Ffilm Efrog Newydd.
Lochlann O’Mearain – Wedi’i hyffordd yng Nghanolfan Samuel Beckett, Coleg y Drindod, Dulyn, mae Lochlann wedi actio mewn sawl drama yn yr Iwerddon ac ym Mhrydain, yn ogystal ag ymddangos mewn sawl cynhyrchiad teledu a ffilm gan gynnwys gwaith i Disney a’r BBC.
Bridin Nic Dhonncha – wedi’i hyfforddi yn Ysgol Actio Gaiety. Mae hi wedi actio mewn sawl drama Wyddelig o dan gyfarwyddyd Darach Mac Con, yn ogystal ag ymddangos mewn cynyrchiadau yn Theatr Axis, Dulyn, ac yn Ysgol Actio Gaiety.
|
web site: |
e-mail: |
Tuesday, April 24, 2007 |
|
|
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999