Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

DRAMÂU NEWYDD GAN SGWENNWYR NEWYDD     

DRAMÂU NEWYDD GAN SGWENNWYR NEWYDD Mae rhywbeth calonogol iawn am weld criw o ddramodwyr yn dod at ei gilydd i ysgrifennu dramâu. Un cwmni o awduron brwdfrydig, sydd wedi cael eu cymharu yn y gorffennol i ‘Gwmni Bara Caws ar ddiwedd y 70au’, yw Cwmni Inc. Caiff eu dramâu newydd eu llwyfannu yn Neuadd Llanofer, Caerdydd nos Iau, nos Wener a nos Sadwrn 17-19 Mai am 7.30pm.

Gyda chyn lleied o ddramâu newydd yn cael eu hysgrifennu yn Gymraeg, ac yn dilyn cwrs sgriptio dair blynedd yn ôl, penderfynodd yr awduron newydd hyn lwyfannu eu gwaith yn hytrach na’i guddio mewn drôr. Gyda chefnogaeth Dewi Wyn Williams a Meic Povey, dyma gynnig diweddara’r awduron newydd hyn yn dilyn eu llwyddiant ddwy flynedd yn ôl gyda Pishyn 6. Yn ôl un adolygiad, llwyddodd y cwmni i greu ‘awyrgylch hwyliog’ ac anffurfiol pan lwyfannwyd eu cynhyrchiad diwethaf a dyna’r bwriad eto gyda’r cynhyrchiad newydd hwn, A4.

Y tro hwn eto, mae’r dramâu yn amrywio o’r hwyliog i’r bisâr ac o’r lleddf i’r llon. O dan gyfarwyddyd Arwel Gruffydd a gyda chefnogaeth Sara Lloyd a Tonya Smith, bydd y cynhyrchiad hwn hefyd yn wledd i unrhyw un sydd â diddordeb ym myd y theatr. Bydd yr awyrgylch yn Neuadd Llanofer yn anffurfiol gyda chyfle i lenwi gwydryn rhwng pob drama, a siawns am sgwrs gyda ffrindiau.

Mae Cwmni Inc yn llwyfannu’r cynhyrchiad newydd hwn, A4 yn Neuadd Llanofer, Caerdydd nos Iau, nos Wener a nos Sadwrn 18-20 Mai am 7.30pm. Aelodau Cwmni Inc yw Huw Derfel, Huw Charles, Lowri Roberts a Glenys Llewelyn.

Nid yw’n addas i blant o dan 16 oed.
 
web site
:

e-mail:
Thursday, May 10, 2007back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk