Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Perfformiad Cyntaf yn Ewrop o Book of Longing     

Perfformiad Cyntaf yn Ewrop o Book of Longing Gwaith Cyngerdd Newydd gan Philip Glass
Yn Seiliedig ar Farddoniaeth Leonard Cohen
17 – 18 Hydref 2007-05-23

Wedi’i ddisgrifio fel ‘cyfansoddwr mwyaf pwerus ein hoes’ (The Daily Telegraph) a hefyd yn dathlu ei ben-blwydd yn 70 oed eleni, mae Philip Glass yn cyflwyno gwaith newydd a gomisiynwyd yn seiliedig ar farddoniaeth Leonard Cohen, Book of Longing, yng Nghanolfan Mileniwm Cymru o 17-18 Hydref, a hwn fydd y perfformiad cyntaf yn Ewrop. Bydd tocynnau ar werth ar gyfer Book of Longing ar ddydd Gwener 1 Mehefin ac maent yn amrywio o £5 i £45.

Mae Book of Longing, a gymerodd chwe mlynedd i’w gyfansoddi, yn gydweithrediad rhwng dau o artistiaid enwocaf eu cenhedlaeth. Dywed Glass am y cydweithio, ‘Roeddwn yn meddwl bod gwaith Cohen yn hynod o hardd, personol ac yn ysbrydoliaeth. O’r diwedd ar ôl chwe mlynedd o gydweithio mae’n sêr o’r diwedd wedi ymgyfuno. I mi mae hwn yn wahanol i’m gwaith yn y gorffennol ac yn gyflawniad o freuddwyd artistig.’

Mae Book of Longing yn waith cyngerdd gyda’r nos cyfan a berfformir gan ensemble o gantorion a cherddorion, o gerddoriaeth roc indie, clasurol a chylchoedd cerddoriaeth newydd. Mae Glass ei hun yn chwarae’r allweddellau. Bydd llais unigryw Cohen, i’w glywed ar recordiad, yn adrodd detholiad o’r cerddi, wedi’u tan sgorio gan yr ensemble cerddorol. Cynhelir perfformiad cyntaf y cyngerdd hwn yng Ngŵyl Luminato yn Toronto ym mis Mehefin.

Dywed Prif Weithredwraig Canolfan Mileniwm Cymru, Judith Isherwood, ‘Hwn fydd ail ymweliad Philip Glass â Chanolfan Mileniwm Cymru ac rydym wrth ein bodd i’w groesawu’n ôl yn ystod blwyddyn ei ben blwydd yn 70 oed. Mae cael y perfformiad cyntaf yn Ewrop o’r gwaith newydd hwn yn y Ganolfan yn orchest arall i Gymru ac i’r Ganolfan. Mae’n cynrychioli carreg filltir arall bwysig iawn i ni, gan atgyfnerthu ein safle fel prif chwaraewr yn y celfyddydau perfformio, yn dilyn perfformiad cyntaf Cylch y Fodrwy Opera Kirov yn Ewrop yma yn hwyr y llynedd.

Mae’r perfformiad cyntaf hwn yn unol â’n huchelgais diwylliannol o ddod â’r gorau o’r byd i Gymru. Fel gwlad fechan gyda phoblogaeth o dair miliwn yn unig, mae Cymru bob amser wedi creu argraff yn y byd celfyddydau perfformio ac mae’n parhau i wneud hynny yn y byd cerddorol, ffilm a theatr.”

Ychwanegodd Cyfarwyddwraig Rhaglennu a Chyfathrebu Canolfan Mileniwm Cymru, Fiona Allan, “ Hwn yw’r tro cyntaf i’r Ganolfan fod yn bartner mewn prosiect comisiynu rhyngwladol mawr gyda phartneriaid eraill yn cynnwys Gŵyl Canolfan Lincoln, Gŵyl Spoleto UDA a’r Barbican. Ers i ni gyflwyno’r perfformiad cyntaf o Qatsi Trilogy yn 2005 rydym wedi bod yn ceisio cael dyddiad i Philip Glass ddychwelyd i’n llwyfan – a chreodd hynny argraff fawr arno. Mae’r cynhyrchiad hwn yn gyflawniad artistig enfawr i’r Ganolfan ac rwy’n sicr y byddwn yn gweld cynulleidfaoedd yn teithio cryn bellter i gael y cyfle i weld un o gyfansoddwyr mwyaf dylanwadol ein hoes.”

Mae gwaith cyngerdd Philip Glass yn seiliedig ar ddetholiadau allan o lyfr Leonard Cohen Book of Longing sydd yn gasgliad o 167 o gerddi newydd a ysgrifennwyd dros yr ugain mlynedd diwethaf a 43 o ddarluniau gwreiddiol gan Cohen ei hun.

Cyflwynodd Canolfan Mileniwm Cymru berfformiad cyntaf yn y DU o waith Philip Glass a Godfrey Reggio Quasi Trilogy ym mis Tachwedd 2005.

Cynhelir sgwrs cyn y sioe gyda Philip Glass o 6.30pm – 7pm ar nos Iau 18 Hydref yn y prif theatr, Theatr Donald Gordon. Mae mynediad i’r sgwrs am ddim i ddeiliaid tocynnau un o’r perfformiadau.

Mae’r tocynnau ar gyfer Book of Longing yn amrywio o £5 i £45 ac mae yn y Ganolfan o 17-18 Hydref. I archebu eich tocynnau cysylltwch â swyddfa docynnau a gwybodaeth y Ganolfan ar 08700 40 2000 neu ewch i www.wmc.org.uk
 
web site
:

e-mail:
Saturday, May 26, 2007back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk