Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Bag Ddawns     

Bag Ddawns Am y bedwaredd flwyddyn yn olynol mae Theatr Spectacle, Theatr Iolo a Theatr Gwent yn cyd-weithio ar gynhyrchiad ar gyfer ysgolion yn eu hardaloedd nhw. Theatr Spectacle sydd yn ymgymeryd a’r cynhyrchiad hwn a byddant yn teithio Ysgolion Cymraeg Caerdydd a’r Fro, Caerffili, Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful, Blaenau Gwent, Sir Fynwy, Casnewydd a Phenybont ar Ogwr

Cyfieithiad Enid Gruffudd o ddrama boblogaidd Mike Kenny yw “Bag Ddawns”, un o’r dramau i bobl ifanc a berfformwyd yn amlach nac unrhyw gynhyrchiad arall. Mae’n ddrama ddi-amser, llawn hiwmor a dwyster. Ceir ynddi hanes Imelda a Neville - y naill yn crwydro’n ddi-baid a’r llall heb unman i fynd. Fel mae’r ddrama’n datblygu datgelir eu profiadau, drwg a da, a’r effaith gaiff eu hatgofion ar eu bywydau. Trwy ddarganfyddiad ac empathi cawn ein denu i mewn i’w byd nhw….neu ein byd ni…?

Prosiect ar gyfer oedran 10 -13 – blynyddoedd 6,7, ac 8 ydy
“Bag Ddawns”. Y nod yw anog trafodaeth ar bynciau sy’n berthnasol i’r gynulleidfa gan ystyried teimladau pobl eraill, ymddiried mewn cyfeillgarwch a chynefino â sefyllfaoedd newydd, ffydd mewn hunan werth a’r hyder i symud ymlaen.

Cyfarwyddwr y ddrama yw Steve Davis, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Spectacle a’r Rheolwr Llwyfan yw Becky Poxon. Matt Lloyd yw’r Cynllunydd a Sammy Gray sy’n gofalu am y props a’r pecyn adnoddau. Yn y llun gwelir yr actorion Carys Parry a Gwion Huw wrthi’n ymarfer.

Mae’r daith yn llawn a’r ysgolion yn edrych ymlaen yn eiddgar at y cynhyrchiad. Mae croeso i unrhyw un i fynychu perfformiad mewn ysgol. Bydd performiad cyhoeddus yng Nganolfan Gelfyddydol Gymunedol, Coleg Morgannwg Rhondda, Nos Iau Gorffennaf 5ed am 7.30 y.h. yn dilyn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol. Croeso i bawb. Ffoniwch Dora Jones y Rheolwr Prosiect ar 01443 430700 ebost info@spectacletheatre.co.uk i drefnu.



Ar daith Mehefin 5ed – Gorffennaf 6ed 2007
Spectacle Theatre  
web site
:

e-mail: info@spectacletheatre.co.uk
Thursday, May 31, 2007back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk