![]() Sefydlodd Cynulleidfaoedd Cymru ‘The Knowledge’ dros flwyddyn yn ol i ddatblygu dealltwriaeth o gynulleidfaoedd theatr. Mae’r adroddiad cyntaf yn cyd-dynnu canlyniadau o dros 20 adroddiad unigol a gynhyrchwyd dros y flwyddyn diwethaf. Mae pob adrodiad unigol yn dadansoddi data’r theatr, ac yn dangos o le mae’r gynulleidfa yn dod, pa mor aml maen’t yn ymweld a’r theatr, a pa fath o bobl sy’n mynychu. Mae’r adroddiad meincnodi yn uno’r wybodaeth o bob rhan o Gymru am y tro cyntaf. Mae’r adroddiad yn dangos bod gwerthiant tocynnau, incwm a’r nifer o gartrefi sy’n bwcio wedi cynyddu rhwng 2004/5 a 2005/6 yn yr 20 theatr a gymrodd rhan yn y prosiect. Yn 2005/6 gwerthwyd dros 900,000 o docynnau i 9,533 o berfformiadau, yn creu dros £8m o incwm. Dangosodd yr adroddiad bod o leiaf un person o bob sector cod post yng Nghymru wedi mynychu digwyddiad celfyddydol. Dywedodd Nick Beasley, Prif Weithredwr Cynulleidfaoedd Cymru: “Mae’r adroddiad yma yn garreg filltir pwysig i brosiect ‘The Knowledge’ ac yn ein dealltwriaeth o gynulleidfaoedd theatr yng Nghymru. “Bydd yr adroddiad meincnodi cyntaf yn ein helpu i gynllunio busnes a marchnata, a dros amser mi fydd yn galluogi theatrau i barhau i waredu anghenion y gynulleidfa. “Mae prosiect ‘The Knowledge’ wedi derbyn cefnogaeth theatrau ar draws y wlad, ac yn barod mae 27 wedi cytuno i fod yn rhan o ail flwyddyn y prosiect, ac fe gaiff hwn ei adrodd dros yr haf. Wrth i’r prosiect dyfu, gobeithiwn greu darlun o gynulleidfaoedd theatr yng Nghymru a fydd yn cefnogi tyfiant yn y sector.” |
Audiences Wales web site: www.audienceswales.co.uk |
Nick Beasley e-mail: nick@audienceswales.co.uk |
Monday, June 11, 2007![]() |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999