![]() Mae Porth y Byddar gan Manon Eames yn olrhain y penderfyniad, union hanner can mlynedd yn ôl, boddi pentref Capel Celyn ger Y Bala yng Ngwynedd gan Gorfforaeth dinas Lerpwl. “Daeth y Mesur Seneddol oedd ei angen i greu cronfa ddŵr i rym ar Awst 1af, 1957, er i bob Aelod Seneddol Cymreig, namyn un, wrthwynebu’r ddeddf,” meddai’r dramodwraig adnabyddus, Manon Eames. “Ond cymerwyd wyth mlynedd arall cyn i’r gwaith o godi’r argae ddod i ben a’r boddi ddechrau,” ychwanegodd. O ganlyniad gorlifwyd 12 o gartrefi a ffermydd yn ogystal ag ysgol, llythyrdy, capel a mynwent wrth i ddyfroedd Afon Tryweryn gronni i greu’r llyn 800 erw. O’r 67 o drigolion y pentref collodd 48 eu cartrefi a’u bywoliaeth. Roedd pob un ohonynt yn siarad y Gymraeg fel mamiaith. “Yn ôl Henry Brooke, y Gweinidog Materion Cymreig ar y pryd, boddi Capel Celyn oedd y dull amlycaf a rhataf o sicrhau cyflenwad dŵr i Lerpwl,” meddai Cyfarwyddwr Porth y Byddar, Tom Baker. “Ond cododd y penderfyniad storm sy’n adleisio hyd heddiw ac a arweiniodd at begynnu barn, carcharu a berw cenedlaethol,” ychwanegodd. Mae Porth y Byddar yn gyd-gynhyrchiad Clwyd Theatr Cymru a Theatr Genedlaethol Cymru ac fe gyhoeddir yn ffurfiol fod y cynhyrchiad ar y gweill yn y Capel Coffa ar lan Llyn Celyn ddydd Mawrth, Mehefin 26, 2007. Bydd cynrychiolwyr y ddau gwmni’n bresennol yn ogystal â phobl leol sy’n cael eu hatgoffa o’r digwyddiadau yng Nghapel Celyn hanner canrif yn ôl. Gwahoddir Aelodau’r Wasg hefyd yn gynnes. Llwyfannir Porth y Byddar yn Clwyd Theatr Cymru, Yr Wyddgrug, ar nosweithiau Mawrth, Mercher, Iau a Gwener, Awst 7-10, 2007, yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yn y dref. Bydd pob perfformiad yn dechrau am 7.30 o’r gloch gyda pherfformiad ychwanegol, gyda chapsiynnau Saesneg, brynhawn Sadwrn, Awst 11, 2007 am 2.30 o’r gloch. Ceir gwasanaeth bws rheolaidd, sy’n rhad ac am ddim, o Faes yr Eisteddfod i Clwyd Theatr Cymru. Bydd yn ddrama’n teithio hefyd o gwmpas prif theatrau Cymru yn ogystal ag un perfformiad yn Llundain yn yr Hydref. “Mae’n fraint fawr bod yn rhan o gynhyrchiad sydd wedi'i selio ar gyfnod mor gyffrous yn ein hanes diweddar,” meddai Rheolwr Marchnata, Theatr Genedlaethol Cymru, Elwyn Williams. “Mae’n stori cymuned a gollwyd ond gellir dadlau i hynny hefyd esgor ar hunan-ymreolaeth a’r sefydliadau gwleidyddol Cymreig sydd gennym heddiw,” ychwanegodd. |
Theatr Genedlaethol Cymru web site: www.theatr.com |
e-mail: |
Thursday, June 21, 2007![]() |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999