![]() Hwn fydd y tro cyntaf i Ganolfan Mileniwm Cymru gyflwyno cynhyrchiad y tu allan i’r Ganolfan; rhywbeth sydd yn rhan o’i uchelgais hir dymor i raglennu a chyflwyno adloniant o safon uchel y tu mewn yn ogystal â thu allan i’r Ganolfan. Fel yr esbonia Fiona Allan, Cyfarwyddwraig Rhaglennu a Chyfathrebiadau Canolfan Mileniwm Cymru, “ Un o’n hamcanion yw edrych ar wahanol ardaloedd, y tu allan i’r Ganolfan, lle y gallwn raglennu sioeau a fydd yn apelio at, a denu cynulleidfa newydd. Mae’n bwysig ein bod yn gwrando ar ein cwsmeriaid ac yn darparu amrediad o ffurfiau celf ar eu cyfer. “Bydd y syrcas hon, yng nghanol haf, yn denu cryn dipyn o bobl o bob oed rwy’n siŵr. Bydd yn rhan o’n datblygiad cynulleidfa a bydd yn cyflwyno pobl i’r Ganolfan ac i’r theatr mewn ffyrdd gwahanol.” Cynhelir ImMortal uwchben, o gwmpas ac ymysg cynulleidfa mewn ffrwydrad o anhrefn yn llawn coreograffi. Mae perfformiadau ensemble rhyfeddol yn cael eu huno gyda sgiliau syrcas traddodiadol gan greu perfformiad promenâd bywiog yn erbyn cefndir o dafluniadau fideo, dwr, fflamau a thrac sain byw. Mae tocynnau ar gyfer ImMortal yn amrywio o £14-£16 ac i archebu eich tocynnau cysylltwch â swyddfa docynnau a gwybodaeth y Ganolfan ar 08700 40 2000 neu ewch i: www.wmc.org.uk Sefyll a Phromenâd yn unig. Croeso i blant. |
Wales Millennium Centre web site: www.wmc.org.uk |
e-mail: |
Monday, July 30, 2007![]() |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999