Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

AIL FYW TRYWERYN     

AIL FYW TRYWERYN 
Bydd actor o Feirionnydd sy’n dal â chof byw am foddi cymuned Cwm Tryweryn ger Y Bala’n ail fyw’n cyfnod cythryblus hwnnw wrth chwarae rhan arweinnydd y protestwyr lleol yn erbyn y boddi mewn drama newydd sbon a lwyfannir yn Clwyd Theatr Cymru, Yr Wyddgrug , yr wythnos nesaf – wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yn y dref.

Bechgen ysgol 16 oed oedd Dyfan Roberts o Rydymain pan ddiflannodd pentref Capel Celyn o dan ddŵr ar gyfer dibenion dinas Lerpwl.

“Roedd teimladau cryfion iawn yn yr ardal wrth i’r gwrthwynebiad i’r boddi a’i arwyddocâd gynyddu,” meddai’r actor sy’n chwarae rhan Dafydd Roberts yn Porth y Byddar, drama Manon Eames sy’n seiliedig ar benderfyniad Corfforaeth Lerpwl i fwrw ymlaen â’r boddi union 50 mlynedd yn ôl.
“Cofir Dafydd Roberts fel ffermwr, postmon a blaenor capel di-rodres a’r mwyaf anfoddog o arweinwyr gafodd ei orfodi i fabwysiadu’r fantell heb fai nac awydd personol,” ychwanegodd.

O ganlyniad gorlifwyd 12 o gartrefi a ffermydd yn ogystal ag ysgol, llythyrdy, capel a mynwent wrth i ddyfroedd Afon Tryweryn gronni i greu’r llyn 800 erw. O’r 67 o drigolion y pentref collodd 48 eu cartrefi a’u bywoliaeth. Roedd pob un ohonynt yn siarad y Gymraeg fel mamiaith.

“Daeth y Mesur Seneddol oedd ei angen i greu cronfa ddŵr i rym ar Awst 1af, 1957, er i bob Aelod Seneddol Cymreig, namyn un, wrthwynebu’r ddeddf,” meddai’r dramodwraig adnabyddus, Manon Eames.
“Ond cymerwyd wyth mlynedd arall cyn i’r gwaith o godi’r argae ddod i ben a’r boddi ddechrau,” ychwanegodd.

Mae Porth y Byddar yn gynhyrchiad ar y cyd rhwng Clwyd Theatr Cymru a Theatr Genedlaethol Cymru production a chyfarwy6ddir y cast o 11 gan Tim Baker.

“Yn ôl Henry Brooke, y Gweinidog Materion Cymreig ar y pryd, boddi Capel Celyn oedd y dull amlycaf a rhataf o sicrhau cyflenwad dŵr i Lerpwl,” meddai Tim Baker.
“Ond cododd y penderfyniad storm sy’n adleisio hyd heddiw ac a arweiniodd at begynnu barn, carcharu a berw cenedlaethol,” ychwanegodd.

Llwyfannir Porth y Byddar yn Clwyd Theatr Cymru, Yr Wyddgrug, ar nosweithiau Mawrth, Mercher, Iau a Gwener, Awst 7-10, 2007. Bydd pob perfformiad yn dechrau am 7.30 o’r gloch gyda pherfformiad ychwanegol, brynhawn Sadwrn, Awst 11, 2007 am 2.30 o’r gloch. Ceir gwasanaeth bws rheolaidd, sy’n rhad ac am ddim, o Faes yr Eisteddfod i Clwyd Theatr Cymru.

Bydd yn ddrama’n teithio hefyd o gwmpas prif theatrau Cymru yn ogystal ag un perfformiad yn Llundain yn yr Hydref.

“Mae’n fraint fawr bod yn rhan o gynhyrchiad sydd wedi'i selio ar gyfnod mor gyffrous yn ein hanes diweddar,” meddai Rheolwr Marchnata, Theatr Genedlaethol Cymru, Elwyn Williams.
“Mae’n stori cymuned a gollwyd ond gellir dadlau i hynny hefyd esgor ar hunan-ymreolaeth a’r sefydliadau gwleidyddol Cymreig sydd gennym heddiw,” ychwanegodd.

Bydd Clwyd Theatr Cymru hefyd yn gartref i Theatr Bara Caws yr wythnos nesaf. Mae’r cynhyrchiad diweddaraf, Caffi Basra, yn dynodi degfed pen-blwydd ar hugain y cwmni ac fe’i llwyfannir o nos Lun tan nos Iau, Awst 6-9, 2007. Bydd pob perffomiad yn dechrau am 8.00 o’r gloch ac roedd un aelod o’r cast, Dyfed Thomas, â rhan yn ‘Croeso i’r Royal’ – cynhyrchiad cyntaf Theatr Bara Caws yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam ym 1977.
Theatr Genedlaethol Cymru  
web site
: www.theatr.com

e-mail:
Monday, July 30, 2007back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk