Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Cerddoriaeth yn unig .... cerddoriaeth swynol     

Cerddoriaeth yn unig .... cerddoriaeth swynol Profwch ynni, cyffro, emosiwn a thrydan Motown yng Nghanolfan Mileniwm Cymru o 27 Awst tan 1 Medi pan ddaw’r sioe lwyddiannus glasurol Dancing in the Streets yn ôl i Gaerdydd.

Ar ôl gwerthu pob tocyn i sioeau y llynedd, mae Dancing in the Streets yn ddathliad llwyfan gwych o flynyddoedd euraid Motown. Mae hwn yn ddathliad trawiadol o gerddoriaeth glasurol o galon Dinas y Moduron – Detroit! Dywed Fiona Allan, Cyfarwyddwraig Rhaglennu a Chyfathrebiadau y Ganolfan, ‘Ar ôl gweld ymateb y gynulleidfa y llynedd roeddwn wrth fy modd yn clywed bod y cwmni eisiau dod yn ôl i’r Ganolfan yr eildro. Mae Dancing in the Streets yn sioe sydd yn gwneud i bawb godi ar eu traed i ddawnsio a chanu i alawon yr ydym i gyd yn gyfarwydd â nhw ac yn eu caru ac mae hefyd yn sicrhau eich bod yn gadael y theatr yn fodlon ar eich byd.’

Roedd Motown yn rym amlwg mewn chwalu rhwystrau ledled y byd ac yr un mor bwysig, roedd yn gyfrifol am gynhyrchu rhai o ganeuon mwyaf dylanwadol a pharhaol yr 20fed ganrif. Bydd Dancing in the Streets yn eich tywys trwy ganeuon Motown gyda chlasuron fel I Heard it Through The Grape Vine, Baby Love, My Girl, Signed Sealed Delivered, I’m Yours, Reach Out I’ll Be There a Stop in The Name of Love.

Gyda gwisgoedd gwych, bydd y perfformwyr dawnus yn ail-greu gwychder eu harwyr gan berfformio’r synau a’r ynni yn berffaith. Bydd y cantorion yn perfformio’r caneuon poblogaidd bythgofiadwy a wnaethpwyd yn enwog gan artistiaid fel The Four Tops, The Temptations, Marvin Gaye, Gladys Knight, Lionel Ritchie a The Supremes.

Mae tocynnau'r sioe hon yn amrywio o £5 i £28 ac i archebu eich tocynnau, cysylltwch â swyddfa docynnau a gwybodaeth y Ganolfan ar 08700 40 2000 neu ewch i: www.yganolfan.org.uk
Wales Millennium Centre  
web site
: www.wmc.org.uk

e-mail:
Monday, August 6, 2007back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk