![]() Mae dau gwmni celf yng Nghymru, Cwmni Theatr Cut The Cr*p (CTCTC) a Chwmni Theatr True/Fiction wedi eu dethol i gymryd rhan yn ail flwyddyn y prosiect hwn lle y bydd y Ganolfan yn darparu gofod ymarfer a staff y Ganolfan ar gyfer rhoi cyngor ym meysydd cynhyrchu technegol, marchnata, cydlynu gyda’r cyfryngau a nawdd. Dywed Cyfarwyddwraig Rhaglennu’r Ganolfan, Louise Miles-Crust, ‘Un o’n huchelgeisiau yw bod yn ffwrnais llythrennol o ysbrydoliaeth – man lle y gellir datblygu a dangos gwaith Cymreig newydd. Bydd y Prosiect Deori hefyd yn rhoi cyfle i gwmnïau gyflwyno eu gwaith yn Stiwdio Weston i gynulleidfa gyhoeddus a chynulleidfa wadd o bobl celf proffesiynol a chyrff cyllido,” Dangosir y ddau berfformiad ar yr un gyda’r nos mewn perfformiad dwbl yn Stiwdio Weston ar nos Wener 19 a nos Sadwrn 20 Hydref am 7pm. Mae CTCTC yn cyflwyno The Prince of Wales, drama ddoniol wedi’i gosod yng Nghaerdydd gyfoes sydd yn archwilio hunaniaeth, gwerthoedd traddodiadol, Caerdydd a’r hyn sydd yn digwydd pan fo’n harwyr yn ein gadael. Gwneir hyn gyda chyflymdra a hiwmor a’r defnydd o dechnoleg fodern mewn drama a fydd yn integreiddio’r gynulleidfa i mewn i’r profiad theatrig a chwalu’r ‘bedwaredd’ wal. Bydd True/Fiction yn cyflwyno darn o waith yn seiliedig ar The Exquisite Corpse. Bydd y darn arloesol hwn o waith yn creu prosiect ysgrifennu lle y bydd nifer o awduron Cymreig yn cyfrannu eu rhan ac yn trosglwyddo’r gwaith ymlaen, heb wybod beth sydd wedi digwydd ynghynt na beth fydd yn dilyn. Yr awduron yw Branwen Davies, Angharad Devonald, Tracy Harris, Kit Lambert ac Othniel Smith. Fel yr esbonia Cyfarwyddwr Cyswllt True/Fiction Matthew Bulgo (a berfformiodd ym mlwyddyn gyntaf y Prosiect Deori yn Secret of Belonging gan Antic Corporation), “Byddwn yn action yn ddramawriaethol gan sicrhau bod y darnau cyfun yn gweithio a byddwn yn cynnal gweithdai ar y testun gyda’r actorion, gan chwarae gyda ffiniau’r dull swreal hwn o ysgrifennu drama.” Bydd pob cwmni yn cael gofod ymarfer yn Stiwdio Weston yn y Ganolfan am gyfnod o ddatblygu creadigol dwys a bydd staff y Ganolfan ar gael i roi cyngor ym meysydd cynhyrchu technegol, marchnata, cydlynu gyda’r cyfryngau a nawdd os oes angen. Bydd y Ganolfan yn gweithio’n agos hefyd gyda’r cwmnïau sydd yn cymryd rhan i roi syniad iddynt o alwadau lleoliadau eraill ar draws y DU a rhoi cysylltiadau consortiwm defnyddiol iddynt yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Mae ail theatr Canolfan Mileniwm Cymru, Stiwdio Weston, yn ategu’r cynyrchiadau ar raddfa mawr ar y prif lwyfan, Theatr Donald Gordon. Mae maint a chyfleusterau technegol y Stiwdio yn galluogi’r Ganolfan i arddangos mwy o waith arbrofol ac arbenigol gan alluogi’r Ganolfan i weithio gyda grwpiau perfformio arloesol sefydledig a doniau newydd yng Nghymru ac ar draws y byd. Caiff The Prince of Wales a The Exquisite Corpse eu perfformio yn Stiwdio Weston yn y Ganolfan o ddydd Gwener 19 – Sadwrn 20 Hydref am 7pm. Gwahoddir y gynulleidfa i dalu yr hyn y gallant, awgrymir isafswm o £3. I archebu, ffoniwch ein swyddfa docynnau a gwybodaeth ar 08700 40 2000 neu ewch i www.wmc.org.uk |
Wales Millennium Centre web site: www.wmc.org.uk |
e-mail: |
Monday, August 6, 2007![]() |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999