Llwyfan arddangos rhyngwladol ar gyfer ymarfer perfformio yng Nghymru
|
Bydd rhai o artistiaid perfformio cyfoes gorau Cymru yn cyflwyno eu gwaith i gynulleidfaoedd rhyngwladol yn yr Edinburgh Showcase fis Awst eleni.
Bydd y cynulleidfaoedd nid yn unig yn mwynhau perfformiadau gan artistiaid blaengar a beiddgar, ond hefyd yn gallu dysgu am y datblygiadau diweddaraf mewn ymarfer perfformio yng Nghymru, gyda lansiad y cyhoeddiad Platfform 3/tri gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru.
Platfform 3/tri yw’r trydydd mewn cyfres o gyhoeddiadau sy’n archwilio ymarfer perfformio cyfoes yng Nghymru. Mae’n ein procio i feddwl am ymdrechion i ddogfennu a rhoi sylw i waith artistig yng Nghymru. Ochr yn ochr â hyn, mae’n ymdrin â themâu ar gofio digwyddiadau artistig o’r gorffennol ac yn codi cwestiwn yngl_n â’r hyn sy’n wybyddus a’r hyn sy’n cael ei gadw.
Mae’r cyhoeddiad yn cynnwys artistiaid megis Simon Whitehead, sgyrsiau gydag Ivor Davies, Richard Gough ac Awst & Walther; erthyglau gan Philip Babot ar André Stitt; James Tyson ar Sioned Huws a David Adams ar Theatr a’r Cof.
Dywed Ceri Jones, Pennaeth Prosiectau gyda Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru, ‘Lansiwyd ein cyfres o gyhoeddiadau platfform gyntaf yn yr ‘Edinburgh Showcase’ yn ôl yn 2003; cyhoeddir yr argraffiad newydd hwn mewn da bryd ar gyfer y dyrfa o hyrwyddwyr rhyngwladol sy’n mynychu ‘Showcase’. Yn ogystal â’r artistiaid o Gymru a raglennir yn ‘Showcase’, bydd Platfform yn cynnig cynrychiolaeth ddeinamig o’r ymarfer perfformio bywiog cyfoes yng Nghymru’.
Mae’r perfformiadau yn yr Edinburgh Showcase eleni yn cynnwys cynhyrchiad newydd gan Volcano Theatre Company a chyflwyniad gan yr artist perfformio Eddie Ladd – gwaith a gomisiynwyd yn ddiweddar gan y Royal Opera House.
Mae ‘A few Little Drops – The Extraordinary Life of Water’, cynhyrchiad Volcano Theatre Company a gyfansoddwyd gan y bardd Cymreig Robert Minhinnick, yn adrodd stori d_r, stori am wastraff a thrychineb, ond hefyd am lanhau, adfywio, haelioni a gobaith. Mae’r cynhyrchiad, a fu ar daith trwy Gymru yn ddiweddar, yn cael ei lwyfannu ar lwyfan awyr agored trawiadol.
Mae ‘Cof y corff/muscle memory’, gan Eddie Ladd, un o artistiaid perfformio mwyaf gwreiddiol a bywiog Cymru, yn ddarn coreograffig sy’n ceisio ailgysylltu â munudau arwyddocaol yn hanes Cymru. Bydd perfformiad Eddie Ladd yng Nghaeredin yn cynnig cyflwyniad pryfoclyd i’r ysgogiad a’r prosesau sydd wedi siapio’r cynhyrchiad.
Artistiaid perfformio eraill o Gymru sy’n cael sylw yn Showcase yw Good Cop Bad Cop a Gerald Tyler sy’n cael eu cynrychioli yn y Ffair Fasnach, gan geisio sefydlu cyswllt â’r prif raglenwyr a datblygu gwaith cydweithrediadol â theatrau a gwyliau ledled y byd. Daw hyn yn sgil llwyddiant y syrcas gyfoes o Gaerdydd sydd wedi ennill bri rhyngwladol - NoFit State Circus - fu’n teithio eu cynhyrchiad arobryn ‘Immortal’ yn rhyngwladol dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ar ôl sefydlu cysylltiadau yn Showcase yn 2005.
Disgwylir i tua dau gant o raglenwyr a chynhyrchwyr rhyngwladol fynychu degfed penblwydd Edinburgh Showcase y Cyngor Prydeinig i weld rhaglenni dethol o weithiau gyda hyd at 30 o artistiaid mwyaf addawol y DU, gan rychwantu ysgrifennu newydd, theatr gorfforol a gweledol, celf byw a gosodiadau aml-gyfrwng.
Cyhoeddir Platfform 3/tri gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru. Mae’r presenoldeb Cymreig yn yr Edinburgh Showcase yn fenter a noddir gan y Cyngor Prydeinig a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru.
|
web site: |
e-mail: |
Sunday, August 19, 2007 |
|
|
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999