Canolfan Mileniwm Cymru yn gwerthu dros £20 miliwn o docynnau |
![]() Wrth gyhoeddi’r ffigurau hyn dywedodd Cadeirydd y Ganolfan yr Arglwydd Rowe-Beddoe, ‘Mae’r rhain yn ffigurau pwysig i ganolfan ddiwylliannol sydd wedi bod ar agor am lai na thair blynedd. Bellach mae dros 1.5 miliwn o ymwelwyr wedi ymweld â’r Ganolfan. Ac yn bwysicach, rydym yn parhau i ddenu cynulleidfaoedd newydd – er enghraifft, roedd 49% o’r holl gynulleidfa ar gyfer y sioe gerdd ddiweddar ‘Never Forget’ yn rhai a brynodd docynnau i’r Ganolfan am y tro cyntaf’. Fel unrhyw fusnes, mae Canolfan Mileniwm Cymru yn adolygu ei weithrediadau yn rheolaidd ac mae’n symleiddio ei wasanaethau i sicrhau llwyddiant parhaus. Gyda rhaglennu arloesol mae’n edrych yn barhaus am ffyrdd o ddenu cynulleidfaoedd newydd sbon. Er enghraifft, yr haf hwn cynhaliodd y Ganolfan gyfres o ffilmiau, yn cynnwys Elvis on Tour oedd yn cyd-daro â 30ain mlynedd ers marw’r Brenin ei hun. Roedd 48% o’r cynulleidfaoedd i’r ffilmiau yn gynulleidfaoedd newydd i’r Ganolfan. Yr wythnos hon mae Canolfan Mileniwm Cymru yn mynd i’r awyr agored i Roald Dahl Plass ar gyfer tymor o bythefnos mewn pabell enfawr yn dangos Immortal NoFit State Circus; gwerthwyd pob tocyn ar gyfer y sioe yng Ng_yl Caeredin am ddwy flynedd yn olynol. Unwaith eto mae’r cynhyrchiad hwn wedi’i dargedu at gynulleidfaoedd newydd a gwahanol nad ydynt efallai wedi ymweld â’r Ganolfan o’r blaen. Wrth i’r busnes aeddfedu mae strwythurau trefnyddol a sefydlwyd cyn agor y Ganolfan yn cael eu hadolygu gan ei Fwrdd Ymddiriedolwyr i sicrhau bod y busnes yn paratoi ar gyfer yr ail gam yn natblygiad y Ganolfan. Ar hyn o bryd mae’r holl raglenni artistig, yn cynnwys darpariaeth addysg a chymunedol, yn cael eu hadolygu gyda’r nod o greu gwell synergedd gyda chyrff preswyl y Ganolfan yn cynnwys Opera Cenedlaethol Cymru, Diversions ac o 2008/09, Cerddorfa Genedlaethol Cymru y BBC. ’Trwy chwarae rôl hwyluso’, meddai Judith Isherwood, Prif Weithredwraig y Ganolfan, ‘mewn partneriaeth gyda’r Ganolfan gyfan, byddwn yn datgloi potensial y prosiect cyffrous hwn a chyflwyno rhaglen sydd ag effaith hyd yn oed yn fwy’. Newidiadau allweddol eraill sydd ar y gweill: Mae Rheolaeth Cyfleusterau yn dod yn fewnol yn yr hydref i gynnal y safonau uchaf o ofal cwsmer gyda chysondeb ar draws pob maes o’r busnes Mae brand newydd ar gyfer y Ganolfan wedi’i lansio yn ddiweddar, unwaith eto i adlewyrchu’r ffaith bod y busnes yn aeddfedu a rhoi’r proffil uchaf i ganolfan eiconig yng Nghymru. Mae rheolaeth y Ganolfan yn bwriadu symleiddio ei weithrediadau blaen t_, tocynnau, teithiau tywys a gwasanaethau Sherpa; unwaith eto gyda’r nod o gyfoethogi profiadau ymwelwyr i ganolfan gelfyddydau eiconig Cymru. O ganlyniad i’w ganolbwyntio o’r newydd ar ofal cwsmer mae’r Ganolfan eleni yn rownd derfynol Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol am Ansawdd a Gofal Cwsmer (cyhoeddir yr enillydd yn Showcase Cymru yng Nghastell Bodelwyddan ar 4 Hydref). Ychwanegodd Judith Isherwood “Mae’r Ganolfan yn fusnes sylweddol gyda throsiant blynyddol o dros £13 miliwn, ac mae gwerthiant tocynnau yn cyfrif am tua £7 miliwn yn flynyddol. Yn union fel unrhyw weithgarwch ar y raddfa hon, ymdrechwn i gael ymarfer gorau yn rheolaeth y Ganolfan, gan geisio sicrhau bod ein holl ymwelwyr yn cael profiad sydd yn gweddu i leoliad cenedlaethol a rhyngwladol ar gyfer y celfyddydau mynegiannol. I wireddu ein huchelgeisiau diwylliannol fel Canolfan genedlaethol yng Nghymru ar gyfer y celfyddydau mynegiannol mae’n hanfodol ein bod yn cyflawni ymarfer gorau ym mhob maes o’n busnes. Rydym eisoes yn gartref i nifer o brif cyrff diwylliannol a’r flwyddyn nesaf bydd Cerddorfa Genedlaethol Cymru y BBC yn ymuno â ni pan gaiff Cam 2 o’r adeilad ei gwblhau. Wrth i ni gychwyn ar y cam cyffrous nesaf hwn yn natblygiad y Ganolfan byddwn yn sicrhau bod strwythurau cadarn yn bodoli i gyflwyno blaenoriaethau diwylliannol y dyfodol Llywodraeth Cynulliad Cymru.” |
canolfan y mileniwm web site: www.wmc.org.uk |
e-mail: |
Tuesday, September 4, 2007![]() |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999