![]() Mae Porth y Byddar gan Manon Eames yn olrhain y penderfyniad, union hanner can mlynedd yn ôl, boddi pentref Capel Celyn ger Y Bala yng Ngwynedd gan Gorfforaeth dinas Lerpwl. “Daeth y Mesur Seneddol oedd ei angen i greu cronfa ddŵr i rym ar Awst 1af, 1957, er i bob Aelod Seneddol Cymreig, namyn un, wrthwynebu’r ddeddf,” meddai’r dramodwraig adnabyddus, Manon Eames. “Ond cymerwyd wyth mlynedd arall cyn i’r gwaith o godi’r argae ddod i ben a’r boddi ddechrau,” ychwanegodd. O ganlyniad gorlifwyd 12 o gartrefi a ffermydd yn ogystal ag ysgol, llythyrdy, capel a mynwent wrth i ddyfroedd Afon Tryweryn gronni i greu’r llyn 800 erw. O’r 67 o drigolion y pentref collodd 48 eu cartrefi a’u bywoliaeth. Roedd pob un ohonynt yn siarad y Gymraeg fel mamiaith. “Cododd y penderfyniad storm sy’n adleisio hyd heddiw ac a arweiniodd at begynnu barn, carcharu a berw cenedlaethol ,” meddai Cyfarwyddwr Porth y Byddar, Tom Baker. “Mae’r ddrama hon yn nhraddodiad dramâu eraill o’r Alban ac Iwerddon sy’n ymdrin â imperiaiaeth economidd a diwylliannol ar ei fwyaf amrwd,” ychwanegodd. Llwyfannir Porth y Byddar yng Nhanolfan Celfyddydau Teliesin, Abertawe, ar nos Wener, 21 Medi, 2007, am 7.30 o’r gloch. Ar ôl bydd y ddrama’n mynd i: • Theatr Sherman Caerdydd ar nosweithiau Mawrth, Mercher, Iau (gyda surdeitlau Saesneg) a Gwener, 25-28 Medi, 2007; • Theatr Lyric, Caerfyrddin, ar nos Fawrth, 2 Hydref, 2007; • Canolfan Celfyddydau Aberystwyth Arts Centre ar nosweithiau Gwener a Sadwrn, 5 (gyda surdeitlau Saesneg) a’r 6 Hydref; a • Theatr Mwldan, Aberteifi, ar nosweithiau Mercher, Iau a Gwener, 11 (gyda surdeitlau Saesneg). 12 a’r 13 Hydref, 2007. Mae’r cast o un ar ddeg yn cynnwys actorion llwyfan amlwg gan gynnwys Llion Williams, Dyfan Roberts, Wyn Bowen Harries and Betsan Llwyd. “Mae’n fraint fawr bod yn rhan o gynhyrchiad sydd wedi'i selio ar gyfnod mor gyffrous yn ein hanes diweddar,” meddai Rheolwr Marchnata, Theatr Genedlaethol Cymru, Elwyn Williams. “Mae’n stori cymuned a gollwyd ond gellir dadlau i hynny hefyd esgor ar hunan-ymreolaeth a’r sefydliadau gwleidyddol Cymreig sydd gennym heddiw,” ychwanegodd. |
Theatr Genedlaethol Cymru web site: www.theatr.com |
e-mail: |
Monday, September 10, 2007![]() |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999