Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

PORTH Y BYDDAR     

PORTH Y BYDDAR Llwyfannir drama sydd wedi’i selio ar un o benodau mwyaf dadleuol yn hanes diweddar Cymru a chyfres o ddigwyddiadau sydd, yn anad dim, wedi diffinio’r Gymru fodern, yn Theatr Sherman, Caerdydd yr wythnos nesaf.

Mae Porth y Byddar gan Manon Eames yn olrhain y penderfyniad, union hanner can mlynedd yn ôl, boddi pentref Capel Celyn ger Y Bala yng Ngwynedd gan Gorfforaeth dinas Lerpwl.

“Daeth y Mesur Seneddol oedd ei angen i greu cronfa ddŵr i rym ar Awst 1af, 1957, er i bob Aelod Seneddol Cymreig, namyn un, wrthwynebu’r ddeddf,” meddai’r dramodwraig adnabyddus, Manon Eames.
“Ond cymerwyd wyth mlynedd arall cyn i’r gwaith o godi’r argae ddod i ben a’r boddi ddechrau,” ychwanegodd.

O ganlyniad gorlifwyd 12 o gartrefi a ffermydd yn ogystal ag ysgol, llythyrdy, capel a mynwent wrth i ddyfroedd Afon Tryweryn gronni i greu’r llyn 800 erw. O’r 67 o drigolion y pentref collodd 48 eu cartrefi a’u bywoliaeth. Roedd pob un ohonynt yn siarad y Gymraeg fel mamiaith.

“Cododd y penderfyniad storm sy’n adleisio hyd heddiw ac a arweiniodd at begynnu barn, carcharu a berw cenedlaethol ,” meddai Cyfarwyddwr Porth y Byddar, Tom Baker.
“Mae’r ddrama hon yn nhraddodiad dramâu eraill o’r Alban ac Iwerddon sy’n ymdrin â imperiaiaeth economidd a diwylliannol ar ei fwyaf amrwd,” ychwanegodd.

Llwyfannir Porth y Byddar yng Theatr Sherman , Caerdydd, ar nosweithiau Mawrth, Mercher, Iau (gyda surdeitlau Saesneg) a Gwener, 25-28 Medi, 2007, am 7.30 o’r gloch.

Ar ôl hynny bydd y ddrama’n mynd i:

• Theatr Lyric, Caerfyrddin, ar nos Fawrth, 2 Hydref, 2007;
• Canolfan Celfyddydau Aberystwyth Arts Centre ar nosweithiau Gwener a Sadwrn, 5 (gyda surdeitlau Saesneg) a’r 6 Hydref; a
• Theatr Mwldan, Aberteifi, ar nosweithiau Mercher, Iau a Gwener, 11 (gyda surdeitlau Saesneg). 12 a’r 13 Hydref, 2007.

Mae’r cast o un ar ddeg yn cynnwys actorion llwyfan amlwg gan gynnwys Llion Williams, Dyfan Roberts, Wyn Bowen Harries and Betsan Llwyd.

“Mae’n fraint fawr bod yn rhan o gynhyrchiad sydd wedi'i selio ar gyfnod mor gyffrous yn ein hanes diweddar,” meddai Rheolwr Marchnata, Theatr Genedlaethol Cymru, Elwyn Williams.
“Mae’n stori cymuned a gollwyd ond gellir dadlau i hynny hefyd esgor ar hunan-ymreolaeth a’r sefydliadau gwleidyddol Cymreig sydd gennym heddiw,” ychwanegodd.
Theatr Genedlaethol Cymru  
web site
: www.theatr.com

e-mail:
Monday, September 17, 2007back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk