A ydych yn cofio’r cwmni theatr Brith Gof?
A oeddech yn rhan o’r gynulleidfa ym mherfformiadau Guernika! yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llangefni yn 1983 neu yn Pax yng ngorsaf rheilffordd Aberystwyth yn 1991?
A oeddech yn un o’r rhai a berfformiodd gyda’r cwmni?
A oes gennych ddiddordeb mewn cyfrannu at gofnod llafar o hanes theatr arloesol yng Nghymru?
Mae’r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, Prifysgol Cymru, Aberystwyth a’r Llyfrgell Genedlaethol yn datgan prosiect cydweithredol newydd a fydd yn cyfuno arbenigaeth ac adnoddau’r ddau sefydliad a’u staff.
Cefndir
Rhwng 1981-2002, datblygodd y cwmni theatr Brith Gof ddulliau arloesol o greu perfformiadau yng Nghymru a thu hwnt; gan gynnwys cynyrchiadau theatr gorfforol, perfformiadau wedi’u dyfeisio, gweithiau safle-benodol a gweithiau dwyieithog. Roedd y cwmni hefyd yn arloeswyr yn y maes o ddogfennu perfformiadau byw, gan gynhyrchu llyfrynnau hunan-gyhoeddedig ac fe ffilmiwyd rhai o’u cynyrchiadau mwyaf ar gyfer darllediad teledu. Ar hyn o bryd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru yw prif geidwad rhan sylweddol o’r deunydd ar waith Brith Gof, a hynny mewn sawl diwyg a chyfrwng gwahanol: fideo, ffilm, lluniau a sleidiau, tapiau sain, cynlluniau, lluniadau, byrddau stori, scriptiau ac amrywiol o nodiadau eraill.
Mae’r diddordeb parhaus yng ngwaith Brith Gof gan academyddion a gan y cyhoedd yn golygu y bydd yr archif amhrisiadwy a nodedig hwn yn gasgliad o bwysigrwydd cenedlaethol.
Bwriad
Diben y cydweithrediad hwn yw catalogio, archifo, a chynyddu’r cyrchiad i archif aml-gyfryngol Brith Gof ac i gynyddu’r ymwybyddiaeth o bwysigrwydd hanesyddol, celfyddydol ac esthetig cwmni theatr Gymraeg yn yr 1980au a’r 1990au.
Digwyddiadau
Rhan allweddol o’r fenter yw cyfres o ddigwyddiadau undydd cyhoeddus a fydd yn cael eu cynnal dros y deuddeg mis nesaf o dan y teitl Rhwng Cof ac Archif/Between Memory and Archive.
Fe fydd pob digwyddiad unigol yn canolbwyntio ar gynyrchiadau penodol o gyfnodau gwahanol yn hanes y cwmni ac fe fydd cyn-aelodau’r cwmni - cyfarwyddwyr, perfformwyr, technegwyr a gweinyddwyr - yn ogystal ag arianwyr, beirniaid, ac ymchwilwyr academaidd yn cymryd rhan.
Trwy gyfrwng cyflwyniadau, cyfweliadau a sgyrsiau, arddangosfeydd o waith ymarferol a detholiad o ddogfennau sydd wedi’u copïo a’u paratoi yn arbennig yn y Llyfrgell Genedlaethol - fideos, ffotograffau, cynlluniau, lluniau a nodiadau - y bwriad yw ceisio ail-wysio’r cynyrchiadau ar gyfer cynulleidfa gyfoes.
Beth sy’n dal i oroesi? Beth a daflir i ffwrdd?
Beth a gofir? Beth a anghofir?
A oes yna densiwn neu anghysondebau rhwng yr atgof a’r archif?
Er mwyn medru pontio rhwng y deunydd a gedwir yn yr archif â’r hyn a gofir, rydym yn galw am gyfraniadau gan rai a welodd y cynyrchiadau gwreiddiol.
Fe fydd pob digwyddiad yn rhoi cyfle i gyfrannu:
- mewn sgyrsiau
- mewn ystafell dyddiadur
- trwy lenwi holiadur
Fe fydd pob digwyddiad yn cael eu cynnal yn ddwyieithog ac fe fydd cyfieithiad cydamserol lawn ar gael.
Ond a yw hi’n bosib ail-greu ysbryd y cyfnod?
Sut le oedd Cymru yn 1983?
Ein bwriad yw creu cofnod llafar newydd o ddigwyddiadau a gymerodd le hyd at bum mlynedd ar hugain yn ôl. Fe fydd pob digwyddiad yn cael ei recordio ac fe fydd y dogfennau hynny yn cael eu rhoi i’r Llyfrgell Genedlaethol. Yn ogystal, fe fydd y broses hon yn cyfrannu tuag at fentrau newydd yr Adran a’r Llyfrgell Genedlaethol i ymestyn eu harchifau digidol.
A yw’r gwaith dal yn berthnasol?
A yw’n bosib iddo ysbrydoli cenhedlaeth newydd o ymarferwyr theatr?
Os oeddech yn rhan neu’n dyst i’r cynyrchiadau gwreiddiol, neu os oes gennych ddiddordeb yng ngwaith ac yn hanes Brith Gof, hoffem ymestyn croeso gwresog i bawb.
Cynhelir pob digwyddiad yn rhad ac am ddim
Rhaglen
Yn y digwyddiad undydd cyntaf ar ddydd Sadwrn Hydref 13, fe fydd sefydlwyr y cwmni, Lis Hughes Jones ac Mike Pearson, yn cyflwyno tri o weithiau Brith Gof o’r cyfnod pan leolwyd y cwmni yn yng Nghanolfan yr Ysgubor, Aberystwyth: seiliwyd Gernika! (1983) ar ddinistriad y dref Basgaidd yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen, ac fe grëwyd y gwaith ar y cyd â Cwmni Theatr Cymru yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llangefni; canolbwyntiodd Ymfudwyr (1983) ar brofiadau’r rhai a ymfudodd o Gymru ac fe berfformiwyd y gwaith yn yr Ariannin, yn yr Eidal, yng Ngwlad Pwyl ac yn Sbaen; ac yn olaf, Rhydcymerau (1984) a ysbrydolwyd gan waith Gwenallt a D.J. Williams.
Digwyddiad I: Dydd Sadwrn Hydref 13 10yb-4.30yh
Gwthio'r ffiniau: Ymfudwyr (1983), Gernika! (1983) Rhydcymerau (1984)
Stiwdio y Ffwndri, Adeilad Parry-Williams, Campws Penglais, Aberystwyth
Digwyddiad 2: Dydd Sadwrn Rhagfyr 1 10yb-4.30yh
Pax: Gorsaf Reilffordd Aberystwyth (1991)
Y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru; Gorsaf Aberystwyth
Trefnir pob digwyddiad ar gyfer yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu gan yr Athro Mike Pearson a Margaret Ames.
A fwy o wybodaeth, cysylltwch â:
Gareth Ll_r Evans
Ebost: gareth.llyr@dsl.pipex.com
Ffon: 07793-032046
|