what’s welsh for performance? beth yw ‘performance’ yn gymraeg? Hanes Llafar Celfyddyd Perfformio yng Nghymru |
![]() (fel rhan o EXPERIMENTICA 2007) Beth yw’r berthynas rhwng celfyddyd perfformio â theatr arbrofol? Fe honnir y gellir olrhain datblygiad celfyddyd perfformio yng Ngogledd America o feysydd arlunio a cherflunio, tra bod artistiaid tebyg ym Mhrydain wedi gosod eu hunain yn agosach at y theatr amgen a’i draddodiadau radicalaidd. Yn wir, mae’r ffin rhwng theatr arbrofol a chelfyddyd perfformio yng Nghymru wedi bod yn un hyblyg. Mae artistiaid theatr yng Nghymru yn aml wedi defnyddio strategau celfyddydol a ellir eu holrhain o gelfyddyd perfformio, megis theatr safle-benodol, gwaith corfforol yn seiliedig ar dasgau, perfformiadau parhaol, ac o dalu mwy o sylw i’r gynulleidfa. Bydd tri o artistiaid theatr arbrofol bwysicaf Cymru o’r deg mlynedd ar hugain diwethaf, Janek Alexander, Geoff Moore ac Mike Pearson, yn sgwrsio am eu gwaith, am y sin berfformio yng Nghaerdydd yn y 1970au ac 1980au ac yngl_n â’u cysylltiadau a Chanolfan Gelf Chapter. Gweithiodd Janek Alexander fel perfformiwr a chyfarwyddwr gyda chwmnïau megis Diamond Age, cyn iddo ddod yn rhaglennydd theatr ar gyfer Chapter. Erbyn hyn, Janek yw cyfarwyddwr y Ganolfan. Geoff Moore yw cyfarwyddwyr artsitig Moving Being, un o’r grwpiau perfformio aml-gyfryngol a rhyngddisgyblaethol cyntaf yn y DU. Roedd Mike Pearson yn un o aelodau cychwynnol Cardiff Laboratory Theatre yn yr 1970 a Brith Gof yn y 1980au, ac mae’n parhau i gynhyrchu gwaith gyda Pearson/Brookes. Beth yw “Performance” yn Gymraeg? (What’s Welsh for Performance?) – Hanes Llafar Celfyddyd Perfformio yng Nghymru Cyfres o ddigwyddiadau dros ddwy flynedd yn ymwneud ag artistiaid allweddol sydd wedi siapio datblygiad celfyddyd perfformio yng Nghymru ers 1968. Bydd cyfweliadau cyhoeddus gyda Janek Alexander, Geoff Moore, Mike Pearson, Richard Gough, Phil Babot, André Stitt a Simon Whitehead yn cyflwyno i’r gynulleidfa agwedd o hanes celf Cymru sydd wedi’i hesgeuluso hyd yma, ond eto sy’n faes hynod o bwysig. Bydd deunydd dogfennol helaeth (fideos, sleidiau, darluniau ayyb) yn cael eu harddangos fel rhan o bob sgwrs. Bwriedir cyhoeddi cyfrol i gyd-fynd â’r gyfres yn 2007. Tymor 2 (2007-8): Janek Alexander, Geoff Moore, Mike Pearson .......... 18 Hydref 2007 6yh Richard Gough .......... 22 Tachwedd 2007 6yh (Lleoliad: Y Ffowndri, Aberystwyth) Phil Babot, André Stitt, Simon Whitehead ...24 Ionawr 2008 6yh Lleoliad: Space Workshop, Time-Based Art Department, Cardiff School of Art and Design, Howard Gardens, Cardiff CF24 0SP Map a Chyfarwyddiadau: Maes parcio ar gael. Mynediad i’r Anabl. Mynediad am ddim. I gadw lle, cysylltwch â mail@performance-wales.org Yn Saesneg |
performance wales web site: www.performance-wales.org |
heike roms e-mail: mail@performance-wales.org |
Wednesday, October 10, 2007![]() |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999