Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

'TRI RHAN O DAIR’     

'TRI RHAN O DAIR’ Mi fydd Bara Caws ar daith o amgylch cymunedau Cymru gyda cynhyrchiad newydd ‘Tri Rhan o Dair’ – addasiad o dair o fonologau Alan Bennett a welwyd ar y teledu’n Saesneg yn y gyfres ‘Talking Heads’ o’r 13eg o Dachwedd hyd at Rhagfyr 8fed,

Mae’r actorion sy’n chwarae’r tair rhan yn wynebau cyfarwydd a phoblogaidd, sef Valmai Jones, Olwen Rees ac Owen Garmon ac maent yn edrych ymlaen at gyflwyno’r darnau poblogaidd yma gan Alan Bennet. Olwen Rees sy’n adrodd hanes gwraig y ficer sy’n cael perthynas annoeth gyda siopwr Indiaidd ond sy’n canfod achubiaeth a gobaith newydd yn ei freichiau. Danfon llythyrau dienw yw gwendid mawr cymeriad Valmai Jones ac mae ei busnesu afresymol yn arwain i drasiedi sy’n cymylu ei bywyd am byth. Byw gyda’i fam oedrannus mae’r storïwr a gyflwynir gan Owen Garmon mewn monolog sydd yn ysgafn a ffraeth ond yn cyffwrdd rhywun i’r byw.

Gweir y tri rhan, a addaswyd i’r Gymraeg gan yr actorion eu hunain, yn gyfanrwydd theatrig difyr gan Betsan Llwyd, actores nodedig, sy’n cyfarwyddo ei sioe gyntaf i’r cwmni.

Mi fydd y cynhyrchiad yn agor yn NEUADD BUDDUG, Y BALA ar y l3eg o Dachwedd am 7.30y.h. ac yn diweddu yn Y GALERI, CAERNARFON ar Ragyfr 8fed.
 
web site
:

e-mail:
Thursday, November 8, 2007back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk