![]() DIGWYDDIAD 2: SADWRN 1 RHAGFYR 2007 10yb-4.30 yh PAX: Gorsaf Rheilffordd Aberystwyth (1991) Y DRWM, LLYFRGELL GENEDLAETHOL CYMRU, ABERYSTWYTH Mynediad am ddim Fe fydd y digwyddiad yn canolbwyntio ar lwyfaniad y cynhyrchiad mawr safle-benodol, PAX, yng ngorsaf rheilffordd Aberystwyth, Hydref 16-18 1991. Trwy gyfrwng cyflwyniadau, cyfweliadau a thrafodaethau gydag aelodau o’r cwmni yn ogystal trwy arddangos amrywiaeth helaeth o ddeunydd sain a fideo sydd wedi’u paratoi’n arbennig yn y Llyfrgell Genedlaethol, y bwriad yw ail-wysio’r cynhyrchiadau ar gyfer cyfer cynulleidfa gyfoes o academyddion, ymarferwyr proffesiynol ac aelodau o’r cyhoedd. Yn y prynhawn, fe fyddwn yn ymweld â’r orsaf er mwyn ceisio ail-ddychmygu PAX mewn lleoliad sydd wedi newid cryn dipyn ers 1991. Er mwyn ceisio pontio’r bwlch rhwng y dogfennau sydd eisoes yn yr archif â’r hyn a gofir, rydym yn gwahodd cyfraniadau gan rai a welodd ac a brofodd y cynhyrchiad gwreiddiol. Fe fydd y digwyddiad yn rhoi cyfle i gyfrannu - trwy drafod, mewn ystafell fideo ac ar bapur. Fe gynhelir y digwyddiad yn ddwyieithog ac fe gynigir cyfieithiad ar y pryd lawn. Ein bwriad yw creu cofnod llafar o ddigwyddiad a gynhaliwyd dros bymtheg mlynedd yn ôl, ac fe fydd y dogfennau newydd hyn yn cael eu cadw fel rhan o’r archif yn y Llyfrgell Genedlaethol. Os oeddech yno ar y pryd, neu os oes gennych ddiddordeb yng ngwaith Brith Gof, rydym yn ymestyn croeso gwresog i bawb. Trefnir pob digwyddiad gan yr Athro Mike Pearson a Margaret Ames. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Louise Ritchie E-bost: llr@aber.ac.uk Ffôn: 07886-085947 Neu: Gareth Ll_r Evans E-bost: gareth.llyr@dsl.pipex.com Ffôn: 07793-032046 |
web site: |
e-mail: llr@aber.ac.uk |
Wednesday, November 21, 2007![]() |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999