Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Y GOBAITH A’R ANGOR     

Y GOBAITH A’R ANGOR Cynhyrchiad newydd Bara Caws - ar daith Mawrth/Ebrill 2008:

Y GOBAITH A’R ANGOR gan Dylan Wyn Rees


gyda: Dyfrig Wyn Evans, Gwenno Elis Hodgkins, Huw Llyr, John Glyn Owen, Gwyn Vaughan

Cyfarwyddwr: Maldwyn John

Y Daith: Mawrth 26 – 19 Ebrill, 2008

‘Da ni gyd yn chwilio am angor mewn byd anwadal, am gysur a sicrwydd rhag ein stormydd. Mae rhai’n rhaffu eu hunain i gariad, eraill i arian, ond i rai mae’r tonnau’n drech. Profiad dwys doniol fydd ‘Y Gobaith a’r Angor’, cynhyrchiad nesaf Bara Caws.

Yn nrama broffesiynol gyntaf Dylan Wyn Rees profwn dafell o dorth bywyd sy’n ddigri a thrist, undonog a bywiog, ac yn cynnig gobaith o fath o ganol ei thywyllwch.

Drwy gyfres o olygfeydd wedi’i gosod yn y dafarn o’r un enw, cyfarfwn a selogion y bar cefn wrth iddyn nhw gyfri’i dyddiau mewn peintiau a pheintio’i breuddwydion drwy waelod potel. ‘Rydym yn eu hadnabod i gyd, a mwy na thebyg yn llawer agosach i ambell un nag y mynnem gyfaddef. Mae’r cwmni yn falch o fod wedi cael cynnig cefnogaeth i’r awdur Dylan Wyn Rees ac yn hollol hyderus ei fod yn mynd i fod yn ddramodydd o bwys, mae’n sicr hefyd nad dyma’r ddrama olaf y bydd Dylan yn sgwennu i’r cwmni.

Bydd y cynhyrchiad cryf ac ystyrlon yma sydd wedi ei gyfarwyddo gan Maldwyn John, un a chysylltiadau â’r cwmni sy’n mynd yn ôl i’r wythdegau cynnar, yn cyflwyno cast yn cynnwys rhai o actorion blaenllaw Cymru - Dyfrig Wyn Evans, Gwenno Elis Hodgkins, Huw Llyr, John Glyn Owen a Gwyn Vaughan. Er nad yw efallai yn addas i blant o dan l2, gyda’i gymysgedd o ffraethineb a dwyster, fe fydd yn sicr o fod yn boblogaidd ymhlith ein cynulleidfaoedd arferol.
Noder: Defnyddir iaith gref.
 
web site
:

e-mail:
Sunday, December 2, 2007back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk