Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

TYMOR Y GWANWYN 2008 YN Y NEW THEATRE     

TYMOR Y GWANWYN 2008 YN Y NEW THEATRE Mae’r ddrama ias a chyffro fwyaf poblogaidd erioed yn dod i Gaerdydd rhwng 4 - 9 Chwefror 2008. AND THEN THERE WERE NONE gan Agatha Christie yw’r ddrama ddirgel orau erioed, sy’n olrhain hanes 10 dieithryn sy’n diflannu bob yn dipyn ar ôl cael eu hudo i ynys anghysbell. Mae’r ddrama hon o stabl Cwmni Agatha Christie, a lwyfannodd The Hollow a The Unexpected Guest, yn cynnwys llu o enwogion fel Gerald Harper (Adam Adamant), Chloe Newsome (Coronation Street) ac Alex Ferns (EastEnders).

Cewch gyfle i weld drama ias a chyffro Alfred Hitchcock o’r 1930au, THE 39 STEPS ar ei newydd wedd mewn fersiwn newydd ddoniol sydd wedi ennill gwobr Olivier. Bydd 4 actor dewr yn chwarae rhan 139 o gymeriadau mewn 100 munud, wrth i’r ddrama lwyddiannus hon adael y West End am Gaerdydd rhwng 19 – 23 Chwefror cyn ei throi hi am Broadway.

Bydd Clwyd Theatr Cymru yn dychwelyd i’r brifddinas rhwng 4 – 8 Mawrth gyda chynhyrchiad newydd sbon o gomedi fythol boblogaidd Shakespeare am gariad, hud a lledrith a drygioni pur yn A MIDSUMMER NIGHT’S DREAM. Dewch i fwynhau troeon trwstan dau gariad ifanc o Athen, wrth iddynt ddod wyneb yn wyneb â grymoedd goruwchnaturiol, tylwyth teg a chriw o actorion brith.

Mae troeon serch yn mynd o chwith yn SHE STOOPS TO CONQUER gan Oliver Goldsmith, sy’n ymweld â ni rhwng 11 – 15 Mawrth. Gyda Liza Goddard a Colin Baker wrth y llyw, mae’r gomedi foesau wreiddiol hon yn frith o gamddealltwriaeth, dawn dweud fraeth a llond bol o chwerthin.

James Fleet (The Vicar of Dibley) sy’n chwarae rhan Gweinidog di-glem yr Undeb Ewropeaidd, sy’n ceisio ei orau glas i gelu ei fywyd preifat go amheus mewn ffars newydd sbon o’r enw IN THE CLUB (18 – 22 Mawrth).

Bydd un o actorion gorau Prydain, SIMON CALLOW, yn dychwelyd i’r New Theatre yn y campwaith theatrig, EQUUS (7 – 12 Ebrill). Mae drama Peter Shaffer yn dilyn ymgais seicolegydd i wella llanc ifanc 17 oed o’i obsesiwn annaturiol â cheffylau, a bu’n llwyddiant ysgubol yn y West End yn ddiweddar. Mae’r sioe deithiol hon hefyd yn cynnwys ALFIE ALLEN, brawd Lily a seren Atonement, fel y llanc ifanc cythryblus Alan Strang.

Patricia Hodge (Rumpole of the Bailey) ac Eleanor Bron (All About My Mother yn y West End) fydd dwy o sêr THE CLEAN HOUSE rhwng 15 – 19 Ebrill, sef comedi Sarah Ruhl a enwebwyd am wobr Pulitzer, sy’n olrhain hynt a helynt un fenyw a’i glanhawraig anghyffredin.

Mae dramâu gwych eraill yn cynnwys SLEUTH (2 – 7 Mehefin) gyda Simon MacCorkindale a Michael Praed a ROOTS AND WINGS (10 – 14 Mehefin) chwip o gomedi arall gan Frank Vickery.

Mae digonedd o sioeau cerdd i godi’r to y tymor hwn, gan ddechrau gyda thaith yn ôl i’r 60au – SHOUT! THE MUSICAL (25 Chwefror – 1 Mawrth). Claire Sweeney yw seren y sioe fywiog hon o Broadway, sy’n frith o ganeuon pop poblogaidd y cyfnod fel Downtown, Son of a Preacher Man, These Boots Are Made for Walking a llawer mwy…

Tommy Steele yw’r dyn sy’n siarad iaith yr anifeiliaid ym myd lliwgar DOCTOR DOLITTLE (25 Mawrth – 5 Ebrill). Bydd cwmni enfawr o gantorion, dawnswyr a phypedwyr – heb sôn am effeithiau arbennig anhygoel – yn dod â’r sioe fythol boblogaidd hon yn fyw i’r teulu cyfan yng Nghaerdydd!

Byddwn yn croesawu “sioe gerdd Brydeinig fwyaf poblogaidd erioed” yn ôl rhwng 21 Ebrill a 3 Mai. Mae BLOOD BROTHERS gan Willy Russell yn adrodd hanes dirdynnol efeilliaid sy’n uno trwy ffawd ar ôl cael eu gwahanu o’r crud. Mae’r sioe hon wedi llenwi’r New Theatre i’r ymylon sawl tro o’r blaen, fel eto mae’n si_r.

Mae ein harlwy gerddorol yn parhau gyda ME & MY GIRL (13 - 17 Mai) gan Theatr Orbit sy’n si_r o lonni’ch calon, cyfle arall i ail-fyw clasuron Frank, Sammy a Dean yn THE RAT PACK: LIVE FROM LAS VEGAS (19 - 24 Mai), Anita Dobson, Darren Day a David McAlister yn HELLO, DOLLY! (16 - 21 Mehefin), SOUTH PACIFIC gan Rodger a Hammerstein yn eich tywys i’r trofannau (14 - 19 Gorffennaf) a Kid Creole yn ein tywys yn ôl i’r 70au yn OH! WHAT A NIGHT (23 - 26 Gorffennaf).

Bydd cyfle i’r to iau fwynhau anturiaethau’r morladron a’r moroedd mawr yn TREASURE ISLAND o 12 – 16 Chwefror. Dyma fersiwn Birmingham Stage Company o stori enwog Robert Louis Stevenson, sy’n ymweld â Chaerdydd cyn mynd ymlaen i’r West End.

Mae ELMER THE PATCHWORK ELEPHANT i’r dim ar gyfer plant bach 3 i 6 oed, gyda chyfuniad o ganeuon doniol, hwyl a hud a lledrith lliwgar, yn y New Theatre rhwng 7 – 10 Mai.

Peidiwch â cholli’r cyfle i weld y fythol boblogaidd HORRIBLE HISTORIES rhwng 24 – 28 Mehefin. Bydd fersiwn wych Terry Deary o erchylltra oes y Tuduriaid ac oes Fictoria i’w gweld yn ei holl ogoniant 3D!!

Rhwng 27 – 31 Mai, bydd y Northern Ballet Theatre yn cyflwyno’u dehongliad arbennig nhw o glasur Shakespeare, A MIDSUMMER NIGHT’S DREAM. Wedi’i gosod ar daith trên i Gaeredin yn y 1940au, mae’r cynhyrchiad caboledig hwn a enwebwyd am wobr Olivier yn cynnwys cerddoriaeth Mendelssohn a Brahms wedi’i pherfformio’n fyw gan gerddorfa’r cwmni ei hun.

I gloi, cofiwch am hwyl a sbri arswydus CIRCUS OF HORRORS sy’n agor tymor y gwanwyn rhwng 31 Ionawr – 2 Chwefror. Yn y sioe newydd hon, “The Asylum”, mae Doktor Haze a’i berfformwyr syrcas dieflig o dda yn cadw reiat ac yn dychryn pobl Paris. Er gwaethaf llond llwyfan o hiwmor tafod yn y boch, sioe i oedolion yn unig yw hon!

Bydd perfformiadau’r gwanwyn gydag Iaith Arwyddion Prydain yn cynnwys TREASURE ISLAND (Sadwrn 16 Chwefror, 2.00pm), DOCTOR DOLITTLE (Sadwrn 29 Mawrth, 2.30pm), BLOOD BROTHERS (Iau 24 Ebrill, 7.30pm), ROOTS & WINGS (Sadwrn 14 Mehefin, 2.30pm) a SOUTH PACIFIC (Sadwrn 19 Gorffennaf, 2.30pm). Ddydd Sadwrn 22 Mawrth am 7.30pm, bydd IN THE CLUB wedi’i lun-ddisgrifio i’r rhai â nam ar eu golwg, a hefyd DOCTOR DOLITTLE (Sadwrn 5 Ebrill, 2.30pm), THE CLEAN HOUSE (Sadwrn 19 Ebrill, 2.30pm), BLOOD BROTHERS (Sadwrn 26 Ebrill, 2.30pm) a HELLO, DOLLY! (Sadwrn 21 Mehefin, 2.30pm). Erika James fydd yn dehongli neu ddisgrifio’r perfformiadau. Bydd perfformiad â phenawdau o A MIDSUMMER NIGHT’S DREAM gan gwmni Clwyd Theatr Cymru nos Wener 7 Mawrth am 7.30pm a hefyd IN THE CLUB nos Iau 20 Mawrth am 7.30pm.

Gallwch brynu’ch tocynnau nawr ar gyfer y sioeau hyn o Swyddfa Docynnau’r New Theatre trwy ffonio Caerdydd (029) 2087 8889 neu yn www.newtheatrecardiff.co.uk
New Theatre Cardiff  
web site
: www.newtheatrecardiff.co.uk

e-mail:
Monday, January 14, 2008back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk