Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

CYMRU RANEDIG, ANWELEDIG     

CYMRU RANEDIG, ANWELEDIG Bwriada Dawns Dyfed, y cwmni dawns gymunedol a’i wreddiau yn Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion, apelio yn erbyn penderfyniad Cyngor Celfyddydau Cymru i ddiddymu eu nawdd gyhoeddus. Dywed cadeirydd y cwmni, Euros Lewis: ‘Mae’r tro pedol hwn ym mherthynas y cwmni â’r cyngor wedi digwydd yn gwbl ddirybudd. Mae eu hadolygiadau blynyddol a’u hasesiadau bob amser yn canmol disgleirdeb y gwaith ar draws yr ystod eang o gymdogaethau ry’ ni’n eu gwasanaethu. Rhoir canmoliaeth arbennig i’n gwaith gyda phlant, pobl ifainc a phobl bregus ac anghenus yn y dair sir. Gan fod y cyngor yn aml wedi defnyddio’n gwaith yn esiampl o ymarfer da mae’n anodd dirnad sut y’n ni, yn sydyn, bellach yn ysgymun.’

Wedi’i sefydlu ym 1989, dan arweinyddiaeth Margaret Ames aeth y cwmni ati’n ddiymdroi i greu partneriaethau go iawn â chymdogaethau gwledig y gorllewin oedd dan bwysau economaidd, ieithyddol a diwylliannol. Yn goruchwylio’r prosiect yr oedd y diweddar Cliff McLucas, cyfarwyddwr cwmni enwog Brith Gof. Deng mlynedd yn ôl bu i’r cwmni hwn ddioddef yr un ddedfryd angeuol wrth law Cyngor y Celfyddydau. Medd Euros: ‘Anodd yw peidio a gweld patrwm gwleidyddol yn ymddangos yn y fan hon, yn enwedig pan ystyriwch fod Brith Gof yn cael ei adnabod yn un o brif lwyddiannau’r cyngor nes i’r cwmni greu partneriaeth â Theatr Felin-fach a gwneud cymdogaethau Cymraeg y gorllewin yn brif faes ymchwil ei uchelgais gelfyddydol. Mae Dawns Dyfed newydd orffen tair blynedd o brosiect yn ardal Rhandirmwyn a Chilycwm – ardaloedd sydd yn fregus iawn bellach o ran eu heconomi, iaith a diwylliant. Gan mai cymdogaethau anweledig y’n nhw i bob pwrpas, rhoi iddyn nhw lais gwleidyddol a diwylliannol oedd ein bwriad. Roedd y prosiect yn un tu hwnt o lwyddiannus â Neuadd y Coroniaid Pumsaint dan ei sang ar gyfer y noson olaf. Ond trist yw nodi na fu’r un o swyddogion Cyngor y Celfyddydau ar gyfyl y gwaith.’

Wrth ateb y cwestiwn pam fod swyddogion proffesiynol yn absennol o waith mor bwysig, dywedodd Margaret Ames: ‘Rwy’n credu fod yna ddwy ffactor ar waith. Yn gyntaf, mae swyddfeydd rhanbarthol y cyngor wedi’u diraddio i fod yn ddim ond ffenest-siop leol. Rwy’n teimlo dros ein cydweithwyr yn swyddfa’r cyngor yng Nghaerfyrddin. Does ganddyn nhw ddim llais mewn unrhyw broses o benderfynu. Yng Nghaerdydd yn unig mae’r grym hwnnw. Yn ail, ymysg uwch swyddogion celfyddydol y cyngor yn y brif ddinas, nid oes bellach yr un siaradwr Cymraeg. Gan mai yng nghyd-destun y Gymraeg mae cymaint o’n gwaith yn digwydd, pa ryfedd felly i’n gwaith fynd yr un mor anweledig â’r cymdogaethau ry’ ni’n eu gwasanaethu.’

Serch hynny, mae’r cwmni am nodi nad yw bob yr un o’r uwch swyddogion heb ddiddordeb yn ei waith. Medd Euros ‘Yr hyn sy’n ein poeni ni yw’r ffaith hysbys i swyddogion Cyngor y Celfyddydau fethu â thrafod y bwriad i gau Dawns Dyfed â’i Swyddog Dawns. Yn wir, mae lle i gredu iddi gael ei chadw o’r drafodaeth yn gwbl fwriadol. Pan gyplyswch chi hynny â’r ffaith i’r cyngor wrthod ryddhau i ni a Nerys Evans A.C. gopi o’r ddogfennaeth a ddefnyddiwyd yn sail i’w penderfyniad – cais a wnaethpwyd dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth – fedrwch chi ein beio am feddwl fod gan rywun ymysg swyddogion y cyngor agenda gudd, boed honno’n agenda wleidyddol neu bersonol; pwy a ŵyr?’

Gan fod cyllid Cyngor y Celfyddydau ychydig yn llai na 50% o incwm y cwmni, mi fydd bwrdd Dawns Dyfed yn cwrdd yn fuan i drafod y posibilrwydd o ddatblygu cynllun busnes a fydd yn caniatau i’r tri swyddog arbenigol barhau â’u gwaith o fewn ac ar ran cymdogaethau’r gorllewin. Dywed Euros: ‘Mae penderfyniad y cyngor yn gwbl groes-graen i’r ymdeimlad o ymbweru lleol sy’n dechrau ymwreiddio, o’r diwedd, yn yr ardaloedd hyn. O gymdogaethau di-Gymraeg de Sir Benfro hyd at froydd dwyieithog ac aml-ddiwylliannol Ceredigion a Sir Gaerfyrddin, mae pobl leol yn dechrau defnyddio’u hegni diwylliannol er mwyn rhyddhau’r dychymyg creadigol a gosod sail ar gyfer dyfodol cynaliadwy. Y mae arfer swyddogion y cyngor o reoli pawb a phopeth, yn null yr hen ymerodraeth Brydeinig, ym mhell ar ei hôl hi.’

RHAGOR O WYBODAETH AM YMGYRCH DAWNS DYFED AR RAN EIN CYMDOGAETHAU ANWELEDIG AR AEL AR: www.dawnsdyfed.org
Dawns Dyfed  
web site
: www.dawnsdyfed.org

e-mail:
Tuesday, February 5, 2008back

Other related news stories on the Theatre in Wales web site :

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk