Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

"Y Pair" yn Y Sherman     

Mae Cwmni Theatr Genedlaethol Cymru yn dychwelyd i’r Sherman mis Mawrth eleni, gydag addasiad Cymraeg newydd o un o brif ddramâu’r ugeinfed ganrif, The Crucible.

Mae Y Pair yn dilyn digwyddiadau hynod Achosion Gwrachod Salem ym 1953, ble cyhuddwyd 150 menyw o wrachyddiaeth. Hwn fydd un o’r cynyrchiadau mwyaf erioed i’w weld ar lwyfannau Cymru gyda chast o 17, gan gynnwys actorion adnabyddus y byd llwyfan a theledu fel Llion Williams, Dyfan Roberts, Christine Pritchard a Trefor Selway. Catrin Morgan fydd yn chwarae rhan Abigail Williams, arweinydd y merched sy’n cyhuddo aelodau’r gymuned o wrachyddiaeth.

Addaswyd Y Pair gan Gareth Miles, dramodydd ac awdur o fri, a Judith Roberts sy’n cyfarwyddo. Meddai Judith:

“Mae hon yn ddrama emosiynol, frawychus, sy’n cyfuno cariad, cydwybod, ac iachawdwriaeth grefyddol. Mae’n stori afaelgar fydd yn syfrdanu, cyffroi a chyfareddu’r gynulleidfa.”

Y Pair yw’r cyntaf o dri o gynyrchiadau Theatr Genedlaethol Cymru ddaw i’r Sherman yn ystod y misoedd nesaf. Ym mis Mai bydd y cwmni’n dychwelyd gyda chynhyrchiad cyfoes o ddrama hanesyddol enwocaf Saunders Lewis, Siwan , yn ogystal â drama newydd ddadleuol gan Aled Jones-Williams, Iesu!, fydd yn agor yn y Sherman fel rhan o’r Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst.

Daw Y Pair i’r Sherman ar 13-14 Mawrth 7.30pm. Mae’r tocynnau’n £14 (Gostyngiad £12, O dan 19 oed £8) a gellir eu harchebu o Swyddfa Docynnau’r Sherman ar 029 2064 6900 neu ar-lein ar www.shermancymru.co.uk

Sherman Theatre  
web site
: www.shermancymru.co.uk

e-mail:
Wednesday, February 20, 2008back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk