Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

DATGANIAD CYNGOR CELFYDDYDAU CYMRU     

DATGANIAD CYNGOR CELFYDDYDAU CYMRU Dywedodd Llefarydd ar ran Cyngor Celfyddydau Cymru:

“Bu'n rhaid i Gyngor Celfyddydau Cymru (CCC) wneud rhai penderfyniadau anodd iawn yn sgil y symiau llai o arian sydd ar gael yn gyffredinol ar gyfer datblygu'r celfyddydau.

Roedd y penderfyniad i roi'r gorau i roi arian refeniw i chwe chleient yn seiliedig ar adolygiadau trylwyr, a set fanwl o feini prawf a oedd yn cynnwys eu cynaliadwyedd yn y dyfodol, a sut roeddent yn gweddu i amcanion a blaenoriaethau strategol y Cyngor. Yn achos dau o'r sefydliadau hynny, caiff yr arian ei ailddyrannu i sefydliadau celfyddydol eraill er mwyn diogelu'r ddarpariaeth yn yr ardaloedd yr effeithiwyd arnynt. Esboniwyd cyfiawnhad dros benderfyniadau CCC i'r cleientiaid unigol dan sylw, ond ni fyddai'n briodol trafod y penderfyniadau hynny yn fanylach hyd nes y bydd y broses apelio ffurfiol wedi'i chwblhau. Fodd bynnag, dylid nodi bod y cleientiaid hynny yr oedd eu gwaith yn rhan o'r prosesau adolygu wedi'u hysbysu o'r adolygiadau a chynigwyd y cyfle iddynt gyfrannu.

Awgrymwyd bod CCC wedi methu â chydymffurfio â darpariaethau'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth ac nad oedd rhai cleientiaid yn ymwybodol o'r prosesau adolygu parhaus. Mae'r ddau honiad hwn yn gwbl ddi-sail.

Hefyd, awgrymwyd nad oedd swyddfeydd rhanbarthol CCC wedi cael cyfle i leisio barn yng nghynigion gwario’r Cyngor ar gyfer y flwyddyn nesaf. Mae'r honiad hwn yn ddi-sail hefyd: roedd y penderfyniadau yn cynnwys staff ar draws y sefydliad ac roedd eu harbenigedd yn rhan anhepgor o'r broses o wneud penderfyniadau.

Mae rôl Cyngor Celfyddydau Cymru fel y corff sy'n gyfrifol am ddatblygu'r celfyddydau yng Nghymru yn ei gwneud yn anochel y bydd yn rhaid i ni wneud penderfyniadau strategol sy’n aml yn anodd o ran lle y caiff ein hadnoddau eu buddsoddi”.
Cyngor Celfyddydau Cymru  
web site
: www.celfcymru.org

e-mail:
Friday, February 22, 2008back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk