Bydd cyfle i gynulleidfaoedd hen ac ifanc fwynhau sioe deuluol i’w chofio drwy dymor yr hydref eleni wrth i Theatr Bara Caws, ar y cyd gyda Theatr Gwynedd a Galeri, gyhoeddi’r newyddion cyffrous fod sioe gerdd o un o hoff lyfrau plant Cymru ar y gweill.
Bydd y sioe, sydd wedi derbyn nawdd gan Gyngor Celfyddydau Cymru i hybu theatr y tu allan i Gaerdydd, yn cychwyn ei thaith yn Theatr Gwynedd ar Hydref 4ydd ac yna’n teithio i ganolfannau ledled Cymru megis Y Pafiliwn yn Rhyl, Theatr Mwldan yn Aberteifi, a Chanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth.
O Siôn Blewyn Coch i Wil Cwac Cwac, Ifan Twrci Tenau a holl griw swnllyd y buarth, mi fydd y sioe yn frith o gymeriadau’r llyfrau gwreiddiol gan Jenny Thomas a JO Williams, a gall cynulleidfaoedd ddisgwyl digon o ganu a dawnsio yn ogystal ag actio. Yr awdur Gareth F Williams sy’n gyfrifol am y sgript, gyda Catrin Edwards yn cyfansoddi’n arbennig ar gyfer y sioe, Emyr Rhys yn gyfarwyddwr cerdd a Cai Tomos yn cynnig ei arbenigedd mewn dawns ar y coreograffi.
Meddai Tony Llewelyn, cyfarwyddwr y sioe ar ran Theatr Bara Caws, “Mae’r sioe’n gyfle gwych i gyflwyno rhan bwysig o atgofion a gorffennol cymaint ohonom ni i genhedlaeth newydd. Mae’r llyfr ei hun mor ddoniol a bywiog, â’r cymeriadau’n neidio oddi ar y dudalen. All rhywun ddim peidio â bod yn gynhyrfus iawn am y peth!”
Ychwanega Dafydd Thomas o Theatr Gwynedd, “Mae bob amser yn braf cael croesawu cynhyrchiad teuluol fel hyn i Theatr Gwynedd, ond y tro yma mi fydd yn achlysur hyd yn oed mwy arbennig, gan mae hwn fydd y cynhyrchiad olaf cyn i’r Theatr gau am rai blynyddoedd i gael ei adnewyddu.
“Gobeithiwn felly lenwi’r theatr yn llawn dop, a dweud ffarwel wrth yr hen Theatr Gwynedd mewn steil!”
Yn rhedeg ochr-yn-ochr â’r sioe lwyfan fydd ‘Sioe Bach Llyfr Mawr y Plant’. Bwriad y sioe yma yw mynd allan i gymunedau llai, gan gynnig pnawn o adloniant i’r plant lleiaf rhwng 3-7 oed. Yn ystod y sioe, mi fydd y plant yn cael eu cyflwyno i’r cymeriadau ac yn cael cyfle i ganu rhai o’r prif ganeuon o’r sioe fawr.
Meddai Elen ap Robert, cyfarwyddwr artistig Galeri, sy’n gyfrifol am Sioe Fach Llyfr Mawr y Plant, “Bwriad y sioe fach yw cynnig blas o’r sioe fawr i leoliadau llai heb yr adnoddau i lwyfannu’r brif sioe, gan gynnig cyfle i’r sioe gyrraedd plant mewn ardaloedd gwledig neu ddifreintiedig. Mae’r sioe fawr dros ddwy awr o hyd hefyd, felly dyma gyfle i’r rhai lleiaf fwynhau awr o sioe heb i’r rhieni orfod poeni dim am wneud twrw!”
Dywedodd Sian Tomos, Cyfarwyddwraig Gogledd Cymru, Cyngor Celfyddydau
Cymru, “Mae Llyfr Mawr y Plant yn ran o gynllun hynod llwyddiannus Cyngor Celfyddydau Cymru, 'Y Celfyddydau Tu Allan i Gaerdydd", a greuwyd i alluogi cynulleidfaoedd i fwynhau celfyddydau perfformio o'r safon uchaf mewn lleoliadau dros Gymru gyfan. 'Rydym yn falch iawn i gefnogi'r cynhyrchiad hwn gan gwmnïau Theatr Bara Caws, Galeri a Theatr Gwynedd.
“Bydd yn dod â chlasur hoffus Gymreig i gynulleidfa newydd ac ehangach gyda sioe gerddorol uchelgeisiol newydd sy'n siwr o syfrdanu cynulleidfaoedd - o bob oed - ar draws Gymru".
|