![]() Bydd Cwmni’r Frân Wen yn cymeryd rhan mewn diwrnod arbennig o weithgareddau sydd wedi’i gydlynu gan Brosiect Croeso, gyda’r nod o ddathlu hanes, bywydau a dyheadau Teithwyr a Sipsiwn yng Nghymru. Yn y bore: Cynhelir dau ddigwyddiad yn Neuadd y Senedd. Am 10 y.b. bydd cyfle i ddysgu am brofiadau personol Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru. Am 11.10 y.b. bydd y bedair plaid wleidyddol yng Nghymru yn rhoi amlinelliad o sut y bwriadant weithio i wrthsefyll rhagfarn yn yr etholiadau lleol sydd i’w cynnal yn fuan. Yn y prynhawn a gyda’r nos: Yn Neuadd yr Urdd, sydd yn rhan o gyfleusterau Urdd Gobaith Cymru yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, bydd Cwmni’r Frân Wen yn perfformio ‘Johnny Delaney’, cynhyrchiad yn seiliedig ar hanes trist a thrasig marwolaeth Teithiwr Gwyddelig 15 oed. Bu farw Johnny Delaney yn 2003 ar gyrion Ellesmere Port, wedi i griw o fechgyn ifanc adweithio yn erbyn ei acen Wyddelig ac ymosod arno. Dedfrydwyd dau o’r bechgyn hynny i garchar am bedair mlynedd a hanner am ddynladdiad yn hytrach na llofruddiaeth, ac ni wnaed cyhuddiad o ymosodiad wedi’i gythruddo’n hiliol yn eu herbyn. Teithiodd y cynhyrchiad yn wreiddiol fel prosiect theatr mewn addysg yn ystod mis Hydref a Thachwedd, 2008 gan dargedu disgyblion 14-15 oed yn ysgolion uwchradd Gwynedd, Môn a Chonwy. Cydweithiodd y Cwmni’n agos gyda Phrosiect Croeso yn ystod y daith i greu adnoddau addysgol, gyda’r nod o herio agweddau tuag at Sipsiwn a Theithwyr, ac i annog trafodaeth yn yr ysgolion er mwyn ennyn mwy o ddealltwriaeth a goddefgarwch. Mae’r Cwmni’n ymfalchïo yn y cyfle i gydweithio gyda Phrosiect Croeso ar y diwrnod pwysig hwn. Bydd y perfformiad cyntaf yn cychwyn am 1.30 y.p. a’r ail am 6.30 y.h.. Cynhelir y ddau berfformiad trwy gyfrwng y Saesneg. Yn dilyn bob perfformiad bydd cyfle i drafod y materion sy’n codi.Ni chodir tâl am fynychu unrhyw un o’r digwyddiadau ond cyfyngir ar niferoedd felly mae’n bwysig i Brosiect Croeso wybod o flaen llaw am unrhyw un sy’n dymuno mynychu. Bydd y cast amryddawn a phrofiadol yn cynnwys: Owen Arwyn, Robin Ceiriog, Carys Gwilym a Carwyn Jones. Rheolwr Llwyfan ar daith : Erddin Llwyd Delweddau Ffilm: Iwan Williams Cynllunydd Set: Gwyn Eiddior Parry Hyfforddiant Acenion: Edda Sharpe Cerddoriaeth gan: Osian Gwynedd Cyfarwyddwr Ymladd: Kevin McCurdy |
Fran Wen web site: www.franwen.com |
e-mail: |
Thursday, February 28, 2008![]() |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999