Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

DEHONGLIAD NEWYDD O PETER AND THE WOLF GAN PROKOFIEV     

DEHONGLIAD NEWYDD O PETER AND THE WOLF GAN PROKOFIEV
Bydd cynhyrchiad llwyfan anhygoel o Peter and the Wolf, un o weithiau cerddorfaol mwyaf bendigedig a phoblogaidd yr 20fed ganrif, yn cael ei berfformio yng Nghanolfan Mileniwm Cymru o’r 4ydd – 5ed Ebrill. Daw hanes Peter ddewr yn mynd ar ôl y blaidd llwglyd, gyda help ei ffrindiau y gath, yr aderyn a’r hwyaden yn fyw yn hudolus trwy gyfrwng dawns, cerddoriaeth a llefaru byw gan Brian Blessed.

Yn 1936 comisiynwyd Sergei Prokofiev i gyfansoddi gwaith cerddorfaol a fyddai’n cyflwyno plant i offerynnau cerddorfa glasurol trwy gysylltu thema cerddorol gyda phob cymeriad mewn stori. Ers y perfformiad cyntaf yn Moscow, mae Peter and the Wolf, un o weithiau mwyaf llwyddiannus Prokofiev, wedi cyfareddu cynulleidfaoedd o bob oed. Mae’r stori, sy’n seiliedig ar atgofion Prokofiev o’i blentyndod, yn adrodd hanes bachgen ifanc, Peter, sy’n gwrthod ufuddhau i’w daid ac sy’n ceisio dal blaidd ffyrnig, gyda help ei ffrindiau – yr aderyn, yr hwyaden a’r gath.

Dywed Fiona Allan, Cyfarwyddwr y Celfyddydau a Datblygu Cynulleidfa “Peter & the Wolf oedd y gerddoriaeth glasurol cyntaf i mi ei glywed erioed, pan oeddwn yn bedair oed – ac fe agorodd ddrysau i mi yn y ffordd hudolus yr oedd yn adrodd stori a gyda’i themâu cerddorol bendigedig. Bydd plant a rhieni heddiw yn cael eu hudo yn yr un ffordd gyda’r cynhyrchiad arbennig hwn sy’n cymysgu cerddoriaeth a stori wreiddiol Prokofiev gyda dawns ac ychwanegiad act gyntaf newydd sbon gyda cherddoriaeth wedi ei gyfansoddi’n arbennig ar ei gyfer. Mae Peter & the Wolf yn dal i fod yn ffordd wych o gyflwyno plant ifanc a h_n i gerddoriaeth a dawns o safon uchel.”

Mae stori a cherddoriaeth Prokofiev mor boblogaidd yn fyd eang ei fod wedi ysbrydoli cyfarwyddwr y sioe, Anne Geenen, i greu cynhyrchiad theatrig llawn. Mae wedi cyfansoddi stori syml a chynnil, sy’n cyflwyno’r cymeriadau hoffus hyn. Mae’r Act 1 newydd yn ychwanegu at glasur Prokofiev yn hytrach na’i lethu.

Brian Blessed yw llefarydd y dehongliad blaengar hwn, sy’n cael ei berfformio am y tro cyntaf yn y DG, gyda choreograffi gan Didy Veldman, a sgôr newydd ar gyfer Act 1 wedi ei gyfansoddi gan Philip Feeney a thestun gan Abi Bown.

Daw’r actor nodedig Brian Blessed â’i lais unigryw a’i bresenoldeb carismataidd i’r dehongliad newydd hwn o Peter and the Wolf. Mae Brian wedi cael gyrfa hir a llewyrchus, yn serennu mewn rolau yn Star Wars: The Phantom Menace, Hamlet ac As You Like It Kenneth Branagh a Cats Andrew Lloyd Webber. Mae hefyd wedi portreadu’r Brenin Richard IV yn y gyfres gyntaf o Blackadder a Prince Vultan yn y ffilm Flash Gordon. Mae thema ganolog natur Peter and the Wolf yn agos iawn at galon Brian, gan ei fod newydd gwblhau tymor o chwe mlynedd fel Llywydd Cyngor y Parciau Cenedlaethol. Mae Brian hefyd yn gefnogwr brwd o nifer o elusennau anifeiliaid a bywyd gwyllt yn cynnwys yr RSPCA a Sefydliad Born Free.

Yn ddiweddar mae’r coreograffydd Didy Veldman wedi creu Cinderella ar gyfer Goteborg Ballet, Sweden. Mae wedi dawnsio gyda Scapino Ballet, Ballet du Grand Theatre de Geneve, a Chwmni Dawns Rambert ac wedi coreograffu i Introdans, Northern Ballet Theatre, Cwmni Dawns Rambert a Les Grands Ballets Canadien.

Yn ddiweddar fe gyfansoddodd Philip Feeney Hamlet ar gyfer Northern Ballet Theatre a James Son of James ar gyfer Fabulous Beast Dance Company. Cyfansoddodd y sgôr ar gyfer Les Liaisons Dangereuses Adam Cooper, ac ar gyfer Giselle and The Bull i Fabulous Beast. Yn y gorffennol mae wedi cydweithio gyda Didy Veldman ar Greymatter i Gwmni Dawns Rambert a Remember Red i Cullberg Ballet.

Mae Abi Bown wedi gweithio’n amrywiol fel cynllunydd theatr, darlunydd a gwneuthurwr pypedau yn ogystal â dramodydd. Fe enillodd ei drama Hey There Boy with The Bebop… Wobr Plant Cyngor y Celfyddydau yn 2004.

Bydd y gymysgedd gyffrous hon o dalent rhyngwladol yn dod â stori Peter yn hela’r blaidd llwglyd yn fyw mewn cynhyrchiad syfrdanol na ddylid ei golli!

Mae tocynnau'r sioe hon yn amrywio yn £15. I archebu eich tocynnau, cysylltwch â swyddfa docynnau a gwybodaeth y Ganolfan ar 08700 40 2000 neu ewch i: www.yganolfan.org.uk
 
web site
:

e-mail:
Saturday, March 1, 2008back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk