Y GOBAITH A’R ANGOR gan Dylan Rees
|
Y GOBAITH A’R ANGOR gan Dylan Rees
(AR DAITH 26 o FAWRTH – 19 o EBRILL)
Gosodir drama nesaf Bara Caws mewn tafarn mewn tref fach ddi-nod yn y gogledd.
Yn ‘Y Gobaith a’r Angor’ mae Dylan Rees, sy’n sgwennu i’r cwmni am y tro cyntaf,yn cyflwyno criw o gymeriadau trist a ffraegar wrth iddynt rygnu bod o ddydd i ddydd o dan gysgod anobaith a phwysau beunyddiol byw mewn byd sy’n gwegian. Fel pysgod mewn powlen ‘dydyn nhw ddim yn ymwybodol eu bod yn mynd o gwmpas mewn cylchoedd yn ail adrodd yr un straeon a’r un sefyllfaoedd nac yn gweld fod pob tro o gwmpas y bowlen yn dro agosach i’w gwaelod. Mae’r ddeialog yn fyw ac yn tincial fel y gwydrau sy’n prysur wagio a phob un o’r cymeriadau yn chwilio am ateb gwahanol yn ewyn chwerw gweddillion eu breuddwydion.
Yn llawn hiwmor tywyll, deialog sy’n diferu o fwg y snyg a phigiadau miniog y darts, mae’n addo noson yng nghwmni cymeriadau sy’n gyfarwydd i ni gyd, fydd yn aros yn hir yn y cof.
Yr actorion yw Gwenno Elis Hodgkins, Dyfrig Wyn Evans, John Glyn Owen,
Huw Ll_r a Gwyn Vaughan a bydd Maldwyn John, sydd â chysylltiadau clos a’r cwmni ers blynyddoedd, yn cymryd y llyw fel cyfarwyddwr.
Ganed Dylan Rees yn Aberystwyth ac fe’i magwyd ym Moelfre, Ynys Môn Fe’i haddysgwyd yn Ysgol Syr Thomas Jones Amlwch a Choleg y Brifysgol Gogledd Cymru, Bangor lle raddiodd mewn Saesneg a Drama. Bu’n byw yng Nghaernarfon am bymtheg mlynedd. Dyma ei ddrama gyntaf.
Noder: defnyddir iaith gref
|
Theatr Bara Caws
web site: |
e-mail: |
Friday, March 14, 2008 |
|
|
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999