Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

PROSIECT ARCHIF BRITH GOF     

PROSIECT ARCHIF BRITH GOF ADRAN ASTUDIAETHAU THEATR, FFILM A THELEDU PRIFYSGOL ABERYSTWYTH
AC LLYFRGELL GENDEDLAETHOL CYMRU

PROSIECT ARCHIF BRITH GOF

Rhwng 1981-2002, datblygodd y cwmni theatr Brith Gof ddulliau arloesol o greu perfformiadau yng Nghymru a thu hwnt; gan gynnwys cynyrchiadau theatr gorfforol, perfformiadau wedi’u dyfeisio, gweithiau safle-benodol a gweithiau dwyieithog. Roedd y cwmni hefyd yn arloeswyr yn y maes o ddogfennu perfformiadau byw, gan gynhyrchu llyfrynnau hunan-gyhoeddedig ac fe ffilmiwyd rhai o’u cynyrchiadau mwyaf ar gyfer darllediad teledu. Ar hyn o bryd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru yw prif geidwad rhan sylweddol o’r deunydd ar waith Brith Gof, a hynny mewn sawl diwyg a chyfrwng gwahanol: fideo, ffilm, lluniau a sleidiau, tapiau sain, cynlluniau, lluniadau, byrddau stori, scriptiau ac amrywiol o nodiadau eraill. Mae’r diddordeb parhaus yng ngwaith Brith Gof gan academyddion a gan y cyhoedd yn golygu y bydd yr archif amhrisiadwy a nodedig hwn yn gasgliad o bwysigrwydd cenedlaethol.

Rhwng Cof ac Archif: cyfres o ddigwyddiadau cyhoeddus a fydd yn canolbwyntio ar gynyrchiadau penodol o gyfnodau gwahanol yn hanes y cwmni. Trwy gyfrwng cyflwyniadau, cyfweliadau a sgyrsiau, arddangosfeydd o waith ymarferol a detholiad o ddogfennau sydd wedi’u copïo a’u paratoi yn arbennig yn y Llyfrgell Genedlaethol - fideos, ffotograffau, cynlluniau, lluniau a nodiadau - y bwriad yw ceisio ail-wysio’r cynyrchiadau ar gyfer cynulleidfa gyfoes o academiyddion, ymarferwyr proffesiynnol a’r cyhoedd.

Digwyddiad 3: Llun Ebrill 7 5yh-8yh. Am ddim.

Perfformiadau Unigol: Ann Griffiths (1983), Iddo Fe (1985), 8961 (1985), Rhiannon (1992)


Stiwdio y Ffwndri, Adeilad Parry-Williams, Campws Penglais, Aberystwyth

Ar gyfer y trydydd digwyddiad, fe fydd cyd-sefydlydd y cwmni, Lis Hughes Jones, yn trafod y broses o greu ac o lwyfannu ei pherfformiadau unigol ar gyfer Brith Gof.

Fe fydd cyfieithiad cydamserol lawn ar gael.

A fwy o wybodaeth, cysylltwch â:
Gareth Llŷr Evans
Ebost: garethllyr@googlemail.com
Ffôn: 07793-032046

For further details please contact:
Louise Ritchie
Email: llr@aber.ac.uk
Telephone: 07886-085947
 
web site
:

e-mail: garethllyr@googlemail.com
Monday, March 31, 2008back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk