Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Dramâu Newydd a Thalent Newydd yng Ng_yl ‘Sgwennu’r Sherman     

Dramâu Newydd a Thalent Newydd yng Ng_yl ‘Sgwennu’r Sherman O’r 11 - 20 Ebrill eleni mae Sherman Cymru’n cyflwyno Egin, g_yl newydd sbon sy’n dathlu’r dalent a’r ‘sgwennu Cymreig gorau ar gyfer y theatr, gan lu o awduron ac artistiaid hen a newydd.

Bydd Egin yn cael ei gynnal dros ddau benwythnos ac yn cynnwys nifer o gyflwyniadau byr o theatr gan y dalent gorau o Gymru. Meddai Sian Summers, Cyd-lynydd yr _yl a Rheolwr Llenyddol Sherman Cymru:

“Y syniad tu ôl yr _yl yw y bydd nifer o bethau’n digwydd yn y theatr yn ystod y ddau benwythnos fel y gall pawb ddod draw a phicio i mewn ac allan fel y maent yn dymuno. Ffrwydrad byr, bachog o theatr fydd pob darn, a ‘ru’n ohonynt yn para’n hirach na hanner awr. Bydd yma rywbeth i bawb.”

Mae awduron ac artistiaid wedi bod yn gweithio ar brosiectau ar gyfer Egin ers dechrau’r flwyddyn er mwyn cynhyrchu darnau newydd o theatr. Maent wedi eu creu drwy amryfal ffyrdd, gan gynnwys “seibiant ‘sgwennu” yn y theatr yn ystod un penwythnos, a thrwy gyd-weithio â cherddorion fel y band roc Gin Drinker, a’r artist rap o Gymru Steffan Cravos.

Yn ogystal â rhoi cyfle i ysgrifenwyr weddol newydd gael profiad o weld eu gwaith yn cael ei berfformio, bydd Egin hefyd yn cynnwys gwaith gan awduron profiadol fel Gary Owen ac Alan Osbourne. Cynhelir nifer o sesiynau trafod hefyd yn ystod yr _yl, gan roi cyfle i gynulleidfaoedd fynegi barn am y theatr gyfoes ac i drafod y pynciau llosg sy’n ymwneud â’r theatr heddiw.

Bydd rownd derfynol ScriptSlam hefyd yn cael ei chynnal yn ystod yr _yl ar ddydd Mawrth 15 Ebrill. Mae hwn yn ddigwyddiad blynyddol gan y Sherman erbyn hyn, ac eleni bydd pum awdur buddugol o gystadleuaeth fisol ScriptSlam yn cystadlu i ennill ScriptSlam 2008. Ddydd Iau 17 Ebrill bydd Dirty Protest yn talu ymweliad â ni - y digwyddiad cwlt ar gyfer ysgrifennu newydd. Dyma eu perfformiad cyntaf mewn lleoliad theatr, wedi nosweithiau hynod o lwyddiannus ym mar Milgi.

Cynhelir g_yl Egin yn y Sherman o 11 - 20 Ebrill. £3 yw pris pob tocyn, ond gellir mynychu 4 digwyddiad am £10. Pris tocynnau Dirty Protest yw £5 ac nid yw hwn yn gynwysedig yn y cynnig arbennig uchod. Am fanylion pellach am yr _yl ac am amserlen benodol ewch i www.shermancymru.co.uk
Sherman Cymru  
web site
: www.shermancymru.co.uk

e-mail:
Tuesday, April 1, 2008back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk