Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

SIWAN     

SIWAN Roedd llwyddo dwyn preswad ar Frenin Lloegr roi caniatâd i’w ferch briodi Tywysog o Gymro ym mis Rhagfyr 1203 yn siŵr o fod yn un o’r campau diplomyddol mwyaf nodedig yn oeod.

Y Tywysog oedd Llywelyn ab Iorwerth neu Llywelyn Fawr – tywysog dros y rhan fwyaf o dir Cymru ar y pryd. Brenin Lloegr oedd John a’i ferch 15-mlwydd-oed oedd Siwan.

Deilliodd yr uniad ar ddegawd o ysbaid yn y rhyfela rhwng yr ymosodwyr Normanaidd a’r Cymry oedd yn eu cael eu hunain fwy fwy o dan warchae. Deilliodd y briodas hefyd ar sgandal frenhinol wrth i Siwan gael ei dal ym mreichiau carcharor Normanaidd, Gwilym Brewys – 10fed Barwn y Fenni.

O ganlyniad crogwyd Gwilym Brewys am ei drafferth a charcharwyd Siwan yn ei chartref am flwyddyn gron hyd nes i’w gŵr faddau iddi am ei chamwedd.

“Y stori gyfareddol hon am gariad a chwant ac am faddeuant yw cefndir drama enwog Saunders Lewis, Siwan, fydd y cychwyn ar daith o gwmpas prif theatrau Cymru, ynghyd â dau berfformiad yn Lundain. fis nesaf,” meddai Rheolwr Marchnata Theatr Genedlaethol Cymru, Elwyn Williams.
“Mae’n gynhyrchiad cyfoes o ddrama hanesyddol enwocaf Saunders Lewis,” ychwanegodd.

Chwaraeir rhan Siwan ei hun gan Ffion Dafis, gyda Dyfan Roberts fel Llywelyn, Rhys ap Hywel fel Gwilym Brewys a Lisa Jên Brown fel y forwyn gefnogol, Alys. Y cyfarwyddwr yw Dirprwy Gyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru, Judith Roberts.

Bydd y daith yn cychwyn yn Theatr Gwynedd, Bangor (01248 351798), ar nosweithiau Mercher, Iau, Gwener a Sadwrn, 7–10 Mai, 2008, cyn mynd ymlaen i:
• Canolfan Gelfyddydau Aberystwyth (01970 623232) ar nosweithiau Iau a Gwener, 15–16 Mai, 2008;
• Theatr Sherman, Caerdydd (029 2064 6900), ar nosweithiau Mawrth, Mercher, Iau a Gwener, 20–23 Mai, 2008;
• Riverside Studios, Hammersmith, Llundain (020 8237 1111), ar nosweithiau Mawrth a Mercher, 27–28 Mai, 2008;
• Clwyd Theatr Cymru, Yr Wyddgrug (0845 330 3565), ar nos Sadwrn, 31 Mai, a nos Lun 2 Mehefin, 2008;
• Canolfan Gelfyddydau Taliesin, Abertawe (01792 60 20 60), ar nosweithiau Iau a Gwener, 5-6 Mehefin, 2008;
• Theatr Lyric, Caerfyrddin (0845 226 3509/8), ar nosweithiau Llun a Mawrth, 9-10 Mehefin, 2008; a
• Theatr Mwldan, Aberteifi (01239 621200), ar nosweithiau Iau, Gwener a Sadwrn, 12-14 o Fehefin, 2008.

Mae pob perfformiad yn dechrau am 7.30 o’r gloch.
Dilynir un perfformiad ym mhob theatr gan drafodaeth yng nghwmni’r cyfarwyddwr a rhai o aelodau cast Siwan. Yn ychwanegol at hyn cynhelir gweithdai ar dechnegau’r actio ar gyfer disgyblion sy’n astudio'r ddrama fel ran o’u cwrs lefel A. Gellir cael rhagor o wybodaeth o’r theatrau unigol.

Wedi’i lleoli yn ystod Pasg 1230 yng Ngarth Celyn, llys Llywelyn Fawr ar arfordir gogleddol Gwynedd ger pentref Abergwyngregyn. Cynhyrchwyd y ddrama am y tro cyntaf ym 1956 ac ymddangosodd y cyfieithiad Saesneg cyntaf ohoni bedair blynedd yn ddiweddarach.

Bu farw Siwan yn 1237 a sefydlodd ei gŵr fynachlog i Urdd Sant Ffransis yn Llanfaes, Ynys Môn, er cof amdani. Symudwyd ei beddrod oddi yno ac mae i’w weld hyd heddiw yn Eglwys y Plwyf, Biwmares.

Roedd y Dr Saunders Lewis yn fardd, yn ddramodydd, yn nofelydd, yn hanesydd, yn adolygydd ac yn wleidydd gafodd ei enwebu ddwywaith am Wobr Llenyddiaeth Nobel. Mae ei ddramâu mwyaf nodedig wedi’u selio ar straeon chwedlonol, hanesyddol neu wleidyddol. Bu hefyd yn gyfrifol am gyfieithu drama Samuel Beckett, En attendant Godot (Aros am Godot)i’r Gymraeg. Gened Dr Lewis ar Lannau Mersi a bu farw ym 1985 yn 91 mlwydd oed.
Theatr Genedlaethol Cymru  
web site
: www.theatr.com

e-mail:
Thursday, April 17, 2008back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk