GLYNEBWY I GYNNAL PERFFORMIAD CYNTAF BLACK WATCH, SEF DRAMA SYDD WEDI CIPIO GWOBRAU |
![]() Mae’r ddrama sy’n sôn am Gatrawd o’r Alban ac am fywydau ei milwyr yn Irac wedi cael adolygiadau gwych ym mhob man lle mae wedi’i llwyfannu a chafodd ei hethol yn ddigwyddiad gorau’r theatr yn 2007 gan feirniaid Americanaidd pan aeth ar daith o’r Unol Daleithiau y llynedd. Daeth y ddrama i Gymru drwy gymorth rhaglen adfywio Blaenau’r Cymoedd a Glynebwy fydd yr unig le yng Nghymru iddi gael ei pherfformio ynddo yn ystod ei thaith bresennol o’r DU. Mae cefnogi a hyrwyddo’r celfyddydau, etifeddiaeth a thwristiaeth yn rhan annatod o raglen Blaenau’r Cymoedd, sy’n mynd i’r afael ag adfywio ffisegol a chymunedol fel ei gilydd gyda’r nod o wella ansawdd bywyd. Mae denu perfformiad o safon fyd-eang fel Black Watch i Lynebwy yn cael ei ystyried yn dipyn o gamp a dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Adfywio Leighton Andrews, ei fod yn gyfle amheuthun i bobl weld drama o’r radd flaenaf ar garreg eu drws, gan ddenu cynulleidfaoedd hefyd o’r tu allan i Lynebwy. “Mae’n ymwneud â newid argraffiadau a delweddau ystrydebol – mae’n dweud cyfrolau bod Glynebwy’n cynnal perfformiad cyntaf Black Watch a theatr Genedlaethol yr Alban yng Nghymru. “Mae’n dod â pherfformiad sydd wedi cael clod ar draws y byd ac sydd wedi bod ar daith yn UDA, Canada, Awstralia a Seland Newydd i Flaenau’r Cymoedd. “Mae’n galluogi pobl leol i fwynhau drama sydd wedi bod wrth fodd feirniaid ar draws y byd, a hefyd yn annog mynychwyr y theatr yng Nghymru a gorllewin Lloegr i ymweld â Glynebwy a dod i ardal Blaenau’r Cymoedd, a hynny am y tro cyntaf o bosibl, er mwyn gweld yr hyn sydd gan yr ardal i’w gynnig.” Caiff ei chefnogi dan raglen Blaenau’r Cymoedd oherwydd yr effaith eang y bydd yn ei chael ac mae’n dilyn nifer o ddigwyddiadau pwysig sydd wedi’u cynnal yn y rhanbarth. Caiff arian rhaglen Blaenau’r Cymoedd ei wario ar y lleoliad, llety’r criw a’r cast, trafnidiaeth a marchnata a fydd hefyd o fudd uniongyrchol i’r economi leol. Nid oedd Theatr Brycheiniog yn ddigon mawr i gynnal y digwyddiad yn Aberhonddu, ond mae’n cyflwyno a hyrwyddo’r digwyddiad ynghyd â Gwasanaethau Celfyddydau Blaenau Gwent a Theatrau Rhondda Cynon Taf. Cyhoeddodd y Gweinidog dros Dreftadaeth, Rhodri Glyn Thomas y llynedd y byddai Llywodraeth Cynulliad Cymru’n buddsoddi er mwyn creu Theatr Genedlaethol i Gymru a fydd yn Saesneg ei hiaith. Bydd y cwmni newydd yn gorff comisiynu yn hytrach na chael canolfan mewn un adeilad, sef patrwm tebyg i Theatr Genedlaethol yr Alban. Wrth groesawu’r ymweliad â Blaenau Gwent, meddai: “Mae llwyddiant Black Watch yn gyffrous ac yn ysbrydoliaeth ac rwy’n falch dros ben o’r ffaith mai pobl Blaenau Gwent fydd y cyntaf yng Nghymru i weld perfformiad cyntaf y ddrama hon sydd o safon ryngwladol. “Mae gennym awduron, actorion a gweithwyr proffesiynol ym myd y theatr yng Nghymru sy’n hynod o greadigol, ac yn ogystal â pherfformio yn rhwydwaith sefydledig ein theatrau a’n canolfannau celfyddydau, fy ngobaith yw y bydd y cwmni yn mynd â’i berfformiadau i ganolfannau a chymunedau er mwyn i Gymru gyfan gael elwa arnynt”. Meddai Cadeirydd Cyngor y Celfyddydau Cymru (CCC), Dai Smith: “Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wrth ei fodd o fod wedi llwyddo i ddod â pherfformiad Theatr Genedlaethol yr Alban o Black Watch, sydd wedi cael canmoliaeth drwy’r byd, i Lynebwy fel rhan o’n gwaith trawsbynciol ar ran y celfyddydau gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru. “Mae CCC yn falch tros ben o gael cefnogaeth y Dirprwy Weinidog dros Adfywio, Leighton Andrews, ac o gael hwyluso’r digwyddiad drwy gynllun ariannu Llywodraeth Cynulliad Cymru, sef ‘Y Celfyddydau y tu allan i Gaerdydd. Gobeithio y bydd cynulleidfaoedd wrth eu bodd â’r perfformiad ac y byddant yn disgwyl yn eiddgar am gynyrchiadau yn y dyfodol gan Theatr Genedlaethol Cymru sydd newydd gael ei sefydlu”. |
web site: /www.nationaltheatrescotland.com/content/default.asp?page=home_showBlackwatch |
e-mail: |
Wednesday, April 16, 2008![]() |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999