Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Trafaelu ar y Tren Glas gan Sharon Morgan     

Trafaelu ar y Tren Glas gan Sharon Morgan Bydd Rhosys Cochion, y cwmni a ddaeth a Shinani’n Siarad, Ede Hud a Holl Liwie’r Enfys atoch yn teithio’i sioe newydd o gwmpas Cymru drwy gydol mis Mai eleni. Fe fydd y perfformiad cyntaf yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter ar Fai 8fed am 8 o’r gloch (Swyddfa docynnau: 029 2030 4400)

Mae Trafaelu ar y Trên Glas sy’n perthyn i drioleg Ede Hud a Holl Liwie’r Enfys yn bortread o gyfnod tymhestlog canol oed pan fydd rhaid i fenyw wynebu herio’i chorff a’i henaid tra’n ceisio ymrafael â dirgelion bywyd a marwolaeth. Sut ma’ torri drwy’r haenau o gelwydd a chyfrinachedd er mwyn darganfod llwybrau newydd? Sut ma’ osgoi suddo o dan y don a diflannu o olwg y byd? Sut ma’ dod i delerau â’i hangerdd goruwchnaturiol a’n bwysicaf oll, sut ma’ osgoi troi’n llofrudd!!

Bydd y sioe’n cael ei berfformio gan awdur y darn Sharon Morgan a’i gyfarwyddo gan Catrin Edwards Erbyn hyn mae’r cwmni a’r bartneriaeth wedi bodoli am dros ddeng mlynedd, yn llwyfannu cynyrchiadau fel Ede Hud sioe gynta’r cwmni yn 1997 a ffilmiwyd ar gyfer y BBC yn 2000, Magic Threads y fersiwn Saesneg o’r sioe a agorodd yn y Greenwich Street Theatre yn Efrog Newydd yn ystod dathliadau Dydd Gwyl Dewi 2004, ac wrth gwrs Shinani’n Siarad, addasiad Sharon o’r Vagina Monologues a ennillodd wobr Gwêfan y Theatr yng Nghymru am y Cynhyrchiad Cymraeg Gorau 2004!



Mae Sharon yn wyneb cyfarwydd ar y llwyfan a’r teledu ers y saithdegau. Mae ei gwaith ar y sgrîn yn cynnwys rhannau blaenllaw yn Pobl y Cwm, Grand Slam, Gadael Lenin, Annest a Darn o Dir. Fe ennillodd Gwobr Bafta Cymru am ei rhan yn Tair Chwaer ac yn fwy diweddar mae wedi ymddangos yn Doctors, Belonging, Midsomer Murders a Torchwood. Fe fydd Sharon yn ymddangos nôl ar S4C eleni yn chwarae’r brif rhan yn y ddrama newydd Martha Jac a Sianco.

Ond theatr yw ei chariad cyntaf a mae ei gwaith gyda Rhosys Cochion ar lwyfannau Cymru o bwys mawr iddi. Medd Sharon,

“Mae modd treiddio’n ddyfnach at wraidd pethe rhywsut drwy lwyfannu darn o theatr. Darlun gonest a di-flewyn-ar-dafod o dyfu’n hyn yw Trafaelu ar y Trên Glas, cipolwg ar fywyd menyw yng Nghymru ar ddechrau’r ganrif newydd, sy’n cael ei gyfleu drwy ddrama a’r theatr, cyfrwng sy’n sylweddol ond sydd hefyd yn agos atoch chi …”

Bydd y Trên Glas yn galw mewn canolfannau a theatrau o gwmpas Cymru Rhwng Mai 8fed a Mehefin 14eg eleni.

Am fwy o fanylion ffoniwch 02920457211 neu ebostiwch rhosyscochion@yahoo.co.uk
 
web site
:

e-mail: rhosyscochion@yahoo.co.uk
Saturday, April 26, 2008back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk