Adnabod y Posibiliadau – Datblygu Cynulleidfaoedd Theatr yng Nghymru |
![]() Daw’r symbyliad ar gyfer y prosiect oddi wrth strategaeth ddrama Cyngor y Celfyddydau ei hun sy’n mynegi’r cons_rn fod angen hybu a meithrin y gynulleidfa ar gyfer drama, yn arbennig yng ngoleuni Theatr Genedlaethol Saesneg i Gymru. Bu trafodaethau helaeth hefyd yn ystod cyfarfodydd Consortiwm Drama Creu Cymru dros y ddwy flynedd ddiwethaf, a chyfrannodd hynny hefyd at rym y ddadl fod angen i’r gwaith ymchwil hwn gael ei wneud. Sefydlwyd gr_p llywio ar y cyd gyda Chreu Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru er mwyn cefnogi’r prosiect a sicrhau fod modd i theatrau, canolfannau celf a chwmnïau cynhyrchu fedru manteisio i’r eithaf ar gasgliadau’r ymchwil. Nod y prosiect ymchwil hwn yw cyflawni’r dadansoddiad mwyaf trylwyr hyd yma yng Nghymru o gynulleidfaoedd drama, a bod hefyd yn adnodd ymarferol ar gyfer y rheini sy’n trefnu rhaglenni a staff marchnata. Bydd yr ymchwil yn creu proffil o’r gynulleidfa ar hyn o bryd, yn dynodi’r cymhellion sydd ganddynt a phatrymau ymddygiad ac yn dynodi cynulleidfaoedd posib ar gyfer drama a darganfod strategaethau datblygu cynulleidfaoedd addas er budd lleoliadau perfformio a chwmnïau cynhyrchu ledled Cymru. Dywedodd Nick Beasley, Prif Weithredwr Cynulleidfaoedd Cymru: “Datblygwyd y prosiect hwn dros y misoedd diwethaf o ganlyniad i drafodaethau gyda Creu Cymru. Diolch i gyllid oddi wrth Gyngor Celfyddydau Cymru, rydym yn medru cyd-weithio er mwyn gwneud y darn sylweddol hwn o waith a fydd o fudd nid yn unig i’r sector ddrama ond hefyd i gynulleidfaoedd yng Nghymru” Dywedodd Richard Hogger, Cyfarwyddwr Creu Cymru: “Mae Creu Cymru wedi bod yn cefnogi canolfannau celfyddyd a theatrau ar draws Cymru wrth iddynt weithredu’n ymarferol eu rhaglenni cysylltiedig, datblygu cynulleidfaoedd a strategaethau marchnata, a daw’r ymchwil hwn ar adeg bwysig iawn yn y broses honnon. Bydd eu mewnbwn nhw, fel y theatrau allweddol lle mae cynulleidfaoedd yn gweld gweithiau, yn allweddol wrth wireddu’r gweithgarwch meithrin cynulleidfaoedd a fydd yn dilyn yr ymchwil.” Wrth graidd y prosiect hwn mae rhaglen ‘Gwybodaeth’ Cynulleidfaoedd Cymru sydd wedi meithrin dealltwriaeth drylwyr o gynulleidfaoedd drama yng Nghymru. Bydd y rhaglen Wybodaeth yn cael ei rhoi i mewn i gyd-destun trwy wybodaeth bellach ar y rheini sy’n mynychu digwyddiadau celfyddydol a fydd yn darparu darlun manwl a chadarn o gynulleidfaoedd. Bydd y prosiect wedyn yn cynnal ymgynghoriad pellgyrhaeddol gyda theatrau, canolfannau celfyddydol a chwmnïau cynhyrchu yng Nghymru er mwyn edrych ar eu rhaglenni a’i marchnata yn benodol. Bydd hyn wedyn yn cael ei ategu gan raglen o ymchwil gyda mynychwyr dramâu ar hyn o bryd, a gyda’r rheini a allai fynychu yn y dyfodol er mwyn dod o hyd i batrymau ymddygiad a chanfyddiadau o’r ddrama yng Nghymru. Am ragor o wybodaeth cysylltwch os gwelwch yn dda â: Nick Beasley, Prif Weithredwr Cynulleidfaoedd Cymru 029 20373726 nick@audienceswales.co.uk |
Cynulleidfaoedd Cymru web site: www.audienceswales.co.uk |
nick beasley e-mail: nick@audienceswales.co.uk |
Thursday, May 22, 2008![]() |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999