Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

DANCE SHORTS! (Cymraeg)     

DANCE SHORTS! (Cymraeg) DANCE SHORTS!
10 munud o waith dawns newydd a chyffrous



Gwahoddiad i artistiaid dawns yng Nghymru i wneud cais i fenter sy'n comisiynu gwaith dawns newydd a chyffrous


Mae DANCE SHORTS! yn fenter comisiynu newydd a wnaed yn bosibl yn sgil grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Mae'n bartneriaeth rhwng lleoliadau ac artistiaid, a'i nod yw gwella'r cyfleodd i gynulleidfaoedd weld talent o Gymru a rhoi'r cyfle i artistiaid dawns o Gymru arddangos eu gwaith mewn lleoliadau allweddol yn Ne Cymru. Caiff y gwaith a gomisiynir eu cyflwyno yn y cyntedd am 30 munud cyn y prif berfformiad dawns yn Theatr Glan yr Afon yng Nghasnewydd, Canolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd, Canolfan Celfyddydau Taliesin yn Abertawe ac i gloi, fel noson gyfan yng Nghanolfan Gelfyddydau'r Chapter yng Nghaerdydd. Er mwyn sicrhau safon a phriodoldeb y gwaith a fydd yn cael ei berfformio, bydd rhaglen fentor, a fydd yn rhan o'r prosiect, yn cael ei rhoi ar waith a fydd yn rhoi adborth i artistiaid am y gwaith a gomisiynwyd cyn y bydd yn cael ei gyflwyno i'r cyhoedd. Nod y rhaglen fentora yn gyffredinol fydd sicrhau safon, a sicrhau bod y gwaith yn addas i'r diben.

Bydd pob artist yn derbyn ffi comisiwn gwerth £1,300. Mae hyn yn cynnwys costau yr eir iddynt, fel ffioedd perfformwyr, unrhyw gostau cynhyrchu, costau teithio a chostau llety. Bydd y lleoliadau cefnogi yn darparu rhywfaint o le ar gyfer ymarfer am ddim. Bydd Dance Shorts! yn ymgymryd â'r gwaith o farchnata'r gwaith a gomisiynir mewn partneriaeth â'r lleoliadau lle y cynhelir y prif ddigwyddiad dawns. Caiff y darn cyntaf o waith a gomisiynir ei berfformio yn ystod mis Hydref-Tachwedd, caiff yr ail ddarn ei berfformio rhwng mis Chwefror-Mawrth, a bydd y ddau yn cael eu cyflwyno yng Nghanolfan y Chapter ym mis Mawrth 2009.

Mae DANCE SHORTS! yn chwilio am 10 munud o waith dawns newydd a chyffrous. Mae'n gyfle ardderchog i artistiaid dawns yng Nghymru ddatblygu eu gwaith mewn amgylchedd cefnogol ac arddangos eu gwaith mewn lleoliadau allweddol yng Nghymru.


Canllawiau ar gyfer y Gwaith Comisiwn:
- rhaid i'r gwaith comisiwn fod yn 10 munud o hyd
- dylid defnyddio natur y lleoliadau fel ysbrydoliaeth - ymateb i'r safle
- rhaid i'r gwaith fod yn ddawns agoriadol i'r prif berfformiad dawns
- dylai'r Dance Shorts fod am ddim, a bydd angen iddynt fod yn addas i 'gynulleidfa sy'n mynd heibio'.
- bydd y Dance Shorts yn agor y noson, felly bydd angen iddynt fod yn ysgogol ac yn tynnu sylw ar unwaith.
- dylai'r rhaglen fentora a rhoi adborth i waith a gomisiynwyd sicrhau bod y gwaith o safon a'i fod yn addas at y diben cyn ei gyflwyno i'r cyhoedd.
- dylai'r gwaith a gomisiynir fod yn addas i gynulleidfa'r prif berfformiad dawns, a dylid sicrhau ei fod yn addas ar gyfer oedran y gynulleidfa, a math/steil y prif berfformiad.

Nod Dance Shorts! yw:
- comisiynu dawns sy'n addas i'r diben
- datblygu cynulleidfaoedd ar gyfer gwaith a dawns o Gymru yn gyffredinol
- hwyluso'r gwaith o ddarparu gwaith dawns ar gyfer nosweithiau cyfan mewn lleoliadau allweddol yng Nghymru.
- darparu amgylchedd cefnogol i artistiaid dawns o Gymru greu ac arddangos eu gwaith yng Nghymru
- rhoi'r cyfle i artistiaid dawns greu a chyflwyno gwaith o fewn ffiniau a ddiffiniwyd yn glir.
- cefnogi datblygiad gyrfa artistiaid dawns
- creu strwythur ar gyfer mentora a rhoi adborth gonest
- hwyluso'r dull o gyfathrebu â chynulleidfaoedd
- rhannu adnoddau
- creu posibiliadau marchnata a hyrwyddo newydd ar gyfer dawns
- hwyluso trafodaethau a phartneriaethau rhwng rhaglenwyr y lleoliadau a'r artistiaid dawns
- galluogi'r sector dawns i ddatblygu



Sut:
Gall unrhyw artist dawns sy'n gweithio yng Nghymru wneud cais a chaiff y cais hwnnw ei asesu gan banel o bartneriaid prosiect. Cwblhewch y ffurflen gais, ac anfon DVD o'ch gwaith diweddar. Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 5pm ddydd Mercher 25ain Mehefin. Gwneir cyhoeddiadau erbyn wythnos gyntaf Gorffennaf.

Emma Carlson
Cyfarwyddwr Dance Shorts!
23 Heol Danygraig
Rhisga
Casnewydd Gwent
NP11 6DB























 
web site
:
Emma Carslon
e-mail: emmacarlsonwales@hotmail.com
Friday, June 6, 2008back

Other related news stories on the Theatre in Wales web site :

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk