![]() Bydd cwmni Theatr Gwynedd Cyf yn dod i ben ar 31 Hydref, 2008, ar y diwrnod y bydd adeilad y Theatr, sydd yn mherchnogaeth Prifysgol Bangor, yn cau ei ddrysau am y tro olaf. Meddai Cadeirydd Bwrdd Rheoli’r Theatr, Janet Roberts, “ Yn wyneb yr hinsawdd economaidd anodd, gyda’r gwasgu cyllidol cynyddol ar lywodraeth leol, ac ar y celfyddydau yn gyffredinol, mae Bwrdd Rheoli Theatr Gwynedd wedi penderfynu, ar ôl trafodaethau manwl a dwys, mai’r unig ddewis yw dod â gweithgaredd y Theatr i ben. “Bydd y diwrnod olaf yn ddiwrnod trist i staff y Theatr, aelodau’r Bwrdd Rheoli presennol, a phawb sydd wedi bod yn gysylltiedig â Theatr Gwynedd ar hyd y blynyddoedd. Hoffwn ddiolch i’n harianwyr, Cyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Gwynedd, Cyngor Sir Ynys Môn, a Chyngor Dinas Bangor am eu cefnogaeth sy’n ein galluogi i gynnig rhaglen amrywiol a safonol hyd at ddiwedd Hydref eleni. Bydd ein tymor olaf yn cynnig cynyrchiadau apelgar iawn gan gynnwys y sioe gerdd newydd, Llyfr Mawr y Plant, sy’n gynhyrchiad ar y cyd gyda Theatr Bara Caws a Galeri.” Meddai Dafydd Thomas, Cyfarwyddwr Theatr Gwynedd, “Hoffwn ddiolch i’r staff, a fydd i gyd yn anffodus yn colli eu gwaith, am eu hymroddiad a’u ffyddlondeb ac yn wir i bawb sydd wedi cyfrannu at lwyddiant Theatr Gwynedd dros y blynyddoedd. Rwyf yn gobeithio y bydd dyfodol y theatr ym Mangor a’r ardal gyfagos yn un llewyrchus, ac y bydd y cynlluniau cyffrous sydd ar y gweill gan Brifysgol Bangor i greu canolfan gelfyddydol o safon yn y ddinas yn dwyn ffrwyth.” |
Theatr Gwynedd web site: www.theatrgwynedd.co.uk/home.php?/home |
e-mail: |
Tuesday, July 15, 2008![]() |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999