Cyhoeddwyd enw Cyfarwyddwr artistig newydd National Theatre Wales heddiw |
![]() Ganed John E. McGrath yn yr Wyddgrug, Gogledd Cymru ac fe'i magwyd yn Lerpwl. Ef yw Cyfarwyddwr Artistig a Phrif Weithredwr y Contact Theatr, Manceinion ar hyn o bryd, theatr sydd wedi ennill gwobrau lu ac sydd wedi sefydlu enw da yn rhyngwladol am greu gwaith newydd cyffrous, denu cynulleidfaoedd amrywiol ifanc a sicrhau cydweithio rhyngwladol. Ymhlith rolau blaenorol John mae Cyfarwyddwr Artistig Theatre Venture yn Newham yn Llundain, a Chyfarwyddwr Cysylltiol y theatr enwog, Experimental Theatre Company, Mabou Mines yn Efrog Newydd. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cefnogi'r cynigion ar gyfer datblygu NTW, a chyhoeddodd y Llywodraeth ym mis Hydref 2007 y byddai'n gwneud buddsoddiad sylweddol er mwyn sefydlu'r cwmni theatr newydd, fel rhan o ddarpariaeth well o Theatr Iaith Saesneg yng Nghymru. Yna rhoddwyd y cyfrifoldeb i Gyngor Celfyddydau Cymru weinyddu'r gwaith o ddatblygu NTW. Ni fydd y cwmni newydd wedi'i leoli mewn adeilad, sy'n golygu y bydd yn rhydd i gomisiynu a chreu cynyrchiadau newydd. Bydd NTW yn gweithio'n agos gyda'r seilwaith theatrig sy'n bodoli yng Nghymru i greu cynyrchiadau proffil uchel a fydd yn symud y tu hwnt i ofod y theatr draddodiadol o bryd i'w gilydd. Bydd John E. yn dechrau ei swydd newydd ym mis Ionawr 2009 ac mae'n falch iawn ar ei her newydd: "Mae'r gwahoddiad i arwain NTW yn gyfle unwaith mewn oes. Mae'n gyfle i freuddwydio am yr hyn y gall y theatr ei wneud; rhannu trafodaethau â gwneuthurwyr theatr, cynulleidfaoedd a phoblogaeth ehangach Cymru; a chydweithio ag amrywiaeth eang o artist i greu gwaith newydd a hynod. Edrychaf ymlaen at ddechrau taith wirioneddol ddramatig!" Croesawodd Phil George, Cadeirydd NTW, John i'w swydd newydd: "Mae John yn wneuthurwr theatr cyffrous ac arloesol ar gyfer yr 21ain ganrif. Mae wedi creu argraff sylweddol ar gynulleidfaoedd gyda'i gwmni nodedig ym Manceinion. Mae ganddo hefyd gysylltiadau a phrofiad rhyngwladol gwych. Bydd yn arwain Theatr Genedlaethol a fydd yn syfrdanu, yn herio ac yn difyrru. |
Arts Council of Wales web site: |
Joanna Davies e-mail: joanna.davies@artswales.org.uk |
Monday, July 28, 2008![]() |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999