![]() Bu cryn ddyfalu yn y wasg pwy fyddai’n cymryd y rhannau enwog - o Siôn Blewyn Coch i Wil Cwac Cwac, Ifan Twrci Tenau, a holl gymeriadau cofiadwy y gyfrol wreiddiol. Gallwn bellach ddatgelu mai Eilir Jones, un o selogion Bara Caws a digrifwr o fri fydd yn chwarae rhan Twm Larwm, hen ddyn y coed. Meddai Eilir, “Rwy’ wir yn edrych ymlaen at fod yn rhan o’r cynhyrchiad hwn. Roedd Llyfr Mawr y Plant yn rhan o’m mhlentyndod i, fel y mae wedi bod i ran fwyaf o blant Cymru ers iddo gael ei gyhoeddi nôl yn 1931, felly dwi’n edrych ymlaen at fynd yn ôl mewn amser gyda’r cynhyrchiad hwn!” Yr actor ifanc o Ddyffryn Clwyd, Iwan Charles, fydd yn mynd i’r afael â ffefryn cenedlaethau o blant, Wil Cwac Cwac. Meddai Iwan, “Mae’n gyffrous, ond dwi hefyd ychydig bach yn nerfus. Mae Wil Cwac Cwac yn ddipyn o eicon cenedlaethol yn dydi? Felly jest gobeithio y gallaf wneud cyfiawnhad â fo, neu fydd pawb yr fy ôl i!” Mi fydd actorion sydd hefyd yn adnabyddus fel cantorion megis Sian James, Siwan Llynor a Neil ‘Maffia’ Williams yn dod ag elfen gerddorol gref i’r cynhyrchiad. Aelodau eraill y cast yw Delyth Eirwyn, Catrin Jane Evans, Carys Gwilym, Merfyn Pierce Jones, Arwel Wyn Roberts a Darren Stokes. Meddai Tony Llewelyn, y cyfarwyddwr, “Mae Catrin Edwards wedi cyfansoddi cerddoriaeth bendigedig ar gyfer y sioe i gyd-fynd â geiriau Gareth F Williams, ac felly wrth i ni gastio roedd yn bwysig chwilio am leisiau canu cry’ yn ogystal â thalent actio. Dwi’n hapus iawn gyda’r cast . Mae na wahanol bersonoliaethau, yn union fel cymeriadau’r llyfr.” Bydd y sioe, sydd wedi derbyn nawdd gan Gyngor Celfyddydau Cymru i hybu theatr y tu allan i Gaerdydd, yn cychwyn ar ei thaith fel cynhyrchiad proffesiynol olaf Theatr Gwynedd ar Hydref 4ydd ac yna’n teithio i ganolfannau ledled Cymru megis Y Pafiliwn yn Rhyl, Theatr Mwldan yn Aberteifi, Canolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd a Chanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth. Am ragor o fanylion, cysylltwch â’ch canolfan leol neu ewch i www.sioegerddllyfrmawryplant.co.uk. |
web site: www.sioegerddllyfrmawryplant.co.uk |
e-mail: |
Friday, August 29, 2008![]() |
Other related news stories on the Theatre in Wales web site : |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999