![]() Mae’r ddrama gan yr Offeiriad o Borthmadog, Aled Jones Williams, yn edrych o’r newydd ar arwyddocâd croesoliad Crist mewn byd sy’n llawn rhyfel a dioddefaint. “Mae Iesu! yn gyfle i edrych eto ar y cymeriad hanesyddol ac i ail-ddiffinio Cristnogaeth,” medda’r Parchedig Aled Jones Williams, sydd wedi bod yn Offeiriad Plwyf Porthmadog ers 13 mlynedd. “Er na faswn i’n disgrifio Iesu! fel drama grefyddol fel y cyfryw y mae hi’n godi cwestiynau perthnasol ynglŷn â rôl crefydd uniongred, gan gynnwys fy nghrefydd fy hun, yn arbennig ar ôl Medi’r unfed ar ddeg,” ychwanegodd. Fel rhan o’r broses o ganfod atebion i’w gwestiynau mae Aled Jones Williams wedi gosod yr Iesu mewn corff merch. “Bu’r llun a greodd dychymyg dyn o Iesu Grist yn un sy’n ddigon benywaidd ei ffurf gyda’r gwallt hir yna rydan ni’i gyd mor gyfarwydd ar o,” ychwanegodd. “Rwyf wedi mynd â’r ddelwedd yna un cam ymhellach i weld o y bydd y gynulleidfa yn gweld unrhyw arwyddocâd yn hynny,” meddai. Bydd Iesu! sy’n gynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru yn cael ei llwyfannu yn Theatr Gwynedd, Bangor (01248 351708) ar nosweithiau Iau, Gwener a Sadwrn, 11-13 Medi, 2008, cyn mynd ymlaen i: · Theatr Mwldan, Aberteifi (01239 621200) ar nosweithiau Mercher, Iau a Gwener, 17-19 Medi, 2008; · Theatr Lyric, Caerfyrddin (0845 226 3508) ar nosweithiau Mercher, Iau a Gwener, 24-26 Medi, 2008; · Clwyd Theatr Cymru, Yr Wyddgrug (0845 330 3565) ar nos Iau, Gwener a Sadwrn, 2-4 Hydref, 2008; ac yna · Canolfan Gelfyddydau Aberystwyth (01970 623232) ar nosweithiau Gwener a Sadwrn , 10-11 Hydref, 2008. Bydd y perfformiadau hyn yn dechrau am 7.30 o’r gloch. Mae’r ddrama’n cynnwys iaith fras a golygfeydd o natur rhywiol. am y tro cyntaf yn Theatr Sherman, Caerdydd (029 2064 6900) ar nosweithiau Mawrth, Mercher, Iau a Gwener, 5-8 Awst, 2008. Bydd pob perfformiad yn dechrau am 7.00 o’r gloch a chynhelir sesiwn i drafod y ddrama gydag Aled Jones Williams yn dilyn y perfformiad ar nos Iau, Awst 7. Cynhelir trafodaeth hefyd ar Iesu! yn Thearr Fach y Maes yr Eisteddfiod Genedlaethol fore dydd Iau, Awst 7, am 11.30 o’r gloch. “Mae Aled Jones Williams yn hen law ar ysgrifennu dramâu dadleuol a heriol ac nid yw Iesu! yn eithriad,” meddai Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru, Cefin Roberts. “Ac fel ei ddramâu eraill nid fydd Iesu! ychwaith yn brofiad theatrig cyfforddus,” ychwanegodd. Mae’r cast yn cynnwys Gareth ap Watkins, Dafydd Dafis, Dafydd Emyr, Llyr Evans, Mathew Lloyd, Sioned Wyn, Dorien Thomas, Llion Williams a Fflur Medi Owen fel yr Iesu. |
web site: www.theatr.com |
e-mail: |
Thursday, September 4, 2008![]() |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999